Penawdau ymgynghoriad Silk 2

Cyhoeddwyd 23/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Dechreuodd Comisiwn Silk ei waith ar ran dau o'i gylch gwaith, sef adolygu pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn yr hydref, a chyhoeddodd alwad am dystiolaeth ar 29 Tachwedd 2012. Y dyddiad cau am dystiolaeth oedd 1 Mawrth 2013 (er bod sawl darn o dystiolaeth wedi dod i mewn ar ôl y dyddiad hwnnw). Dyma’r penawdau allweddol o dystiolaeth:
  • Mae Llywodraeth Cymru o blaid symud at fodel o ddatganoli sy'n seiliedig ar “bwerau a gedwir yn ôl”, fel y mae Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Nid oedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad na'r dystiolaeth a gafwyd gan y Ceidwadwyr Cymraeg yn mynegi barn ar y mater hwn. Mae Llywodraeth y DU yn hapus â'r model cyfredol o ddatganoli yng Nghymru.
  • Mae Llywodraeth Cymru o blaid datganoli pwerau plismona. Mae Llywodraeth y DU yn erbyn datganoli pwerau plismona.
  • Nid yw Llywodraeth Cymru yn teimlo y bydd yn bosibl iddi fynd ar drywydd datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd ar hyn o bryd, ond dyma yw ei bwriad yn yr hirdymor. Cred Llywodraeth Cymru hefyd y dylid paratoi ar gyfer cyfnod pan fydd cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru, o bosibl, yn gam angenrheidiol a buddiol. Mae Llywodraeth y DU yn erbyn datganoli'r system cyfiawnder troseddol ac yn erbyn creu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.
  • Nododd Llywodraeth y DU y gallai Deddfau'r Cynulliad greu troseddau. Mae'n rhaid i adrannau o Lywodraeth y DU gael cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder cyn creu troseddau newydd o fewn Biliau. Awgrymodd Llywodraeth y DU y byddai'r Comisiwn, o bosibl, am ystyried a ddylai hyn fod yn gymwys mewn perthynas â Biliau'r Cynulliad ac a ddylid ymdrin â'r mater hwn yn weinyddol (er enghraifft, drwy ddefnyddio protocol) neu drwy ddeddfwriaeth.
  • Mae Llywodraeth Cymru am ehangu cymhwysedd y Cynulliad i gynnwys terfynau cyflymder, rheoleiddio'r sector bysiau a'r sector tacsis, a phorthladdoedd. Gofynnodd Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk ystyried y ffin ddatganoli mewn perthynas â phorthladdoedd a rheoleiddio gwasanaethau a chwmnïau bysiau lleol yng Nghymru. Gwelodd Llywodraeth Cymru bosibiliadau ynghylch newid y setliad datganoli mewn perthynas â gwasanaethau a seilwaith y rheilffyrdd. Gofynnodd Llywodraeth y DU i'r Comisiwn ystyried y ffin ddatganoli mewn perthynas â rheilffyrdd a'r posibiliadau o ran newid y trefniadau hynny.
  • Mae Llywodraeth Cymru am weld y broses o weinyddu etholiadau yng Nghymru yn cael ei datganoli. Gofynnodd Llywodraeth y DU i'r Comisiwn ystyried a ddylid datganoli'r broses o weinyddu etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru i Weinidogion Cymru. Mae Llywodraeth Cymru am i Weinidogion Cymru gael swyddogaethau gweithredol, ac am i'r Cynulliad gael cymhwysedd deddfwriaethol, mewn perthynas â chaniatadau ar gyfer prosiectau ynni mawr (ac eithrio ynni niwclear) a seilwaith cysylltiedig sy'n ymwneud ag ynni. Cred Llywodraeth y DU fod y drefn gyfredol unedig o ganiatáu datblygiadau mewn perthynas â phrosiectau ynni yng Nghymru a Lloegr yn darparu llwyfan sefydlog ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr. Yn ogystal, awgrymodd Llywodraeth y DU y dylai'r Comisiwn ystyried cynnwys datblygiadau cysylltiedig yng Nghymru yn nhrefn y Ddeddf Gynllunio.
  • Nid yw Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU am weld pwerau darlledu yn cael eu datganoli.
  • Mae Llywodraeth Cymru am gael cymhwysedd deddfwriaethol dros drwyddedu a rheoleiddio unrhyw gyflenwr dŵr trwyddedig sydd wedi'i gynnwys o fewn ystyr Deddf Diwydiant Dŵr 1991; dros benodi a rheoleiddio unrhyw ymgymerwyr dŵr nad yw eu hardal yn llwyr neu'n rhannol yng Nghymru; a thros garthffosiaeth. Mae hefyd am ddileu pŵer uniongyrchol yr Ysgrifennydd Gwladol i ymyrryd mewn achosion o weithredu swyddogaethau sy'n ymwneud â dŵr. Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn bosibl na fyddai gwahanu systemau trawsffiniol yn dechnegol ymarferol am gost resymol, ac y gallai hyn greu anawsterau sylweddol o ran rheoleiddio.
  • Gofynnodd Llywodraeth y DU i Gomisiwn Silk ystyried datganoli pwerau dros gyflogau a thelerau athrawon. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn gyhoeddus ei bod yn gwrthwynebu hyn.
Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei adroddiad ar Ran 2 yn y gwanwyn yn 2014. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn paper ymchwil Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar ran dau o Gomisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.