Oedi mynediad: yr ôl-groniad o ran amseroedd aros yn GIG Cymru

Cyhoeddwyd 24/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae yna ôl-groniad enfawr o ran gofal wedi’i gynllunio. Dyma un o'r heriau mwyaf sy’n wynebu GIG Cymru ac mae’n golygu y bydd angen i wasanaethau iechyd drawsnewid yn gyflymach ac ar raddfa ehangach nag erioed.

Ym mis Tachwedd 2021, lansiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru.

Cynyddodd rhestrau aros rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022; cynyddodd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros am driniaeth dros 50 y cant yn ystod y cyfnod hwn.

Drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws gyda chleifion, clywodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol straeon gofidus am yr unigolion y tu ôl i'r ystadegau hyn y mae oedi wrth gael diagnosis neu ofal yn effeithio ar eu bywydau bob dydd—a bywydau eu teuluoedd, eu ffrindiau neu eu gofalwyr o bosibl. Mae pobl yn byw gyda phoen cronig, gofid, anesmwythyd a phryder.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru ym mis Ebrill 2022. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 30 Mai 2022. Cynhelir dadl ar yr adroddiad a'r ymateb iddo yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf (29 Mehefin).

Mae'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa bresennol o ran rhestrau aros, rhaglen Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â nhw a'i hymateb i adroddiad 'Aros yn iach?' y Pwyllgor.

Cynllun i adfer, ailosod a thrawsnewid gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer lleihau rhestrau aros ym mis Ebrill 2022. Mae'r cynllun yn nodi nifer o uchelgeisiau allweddol i leihau amseroedd aros:

  • Bod neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf erbyn diwedd 2022.
  • Cael gwared ar restrau aros o fwy na dwy flynedd yn y rhanfwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.
  • Cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024.
  • Cael gwared ar restrau aros o fwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.
  • Rhoi diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod i 80 y cant o bobl erbyn

Mae ein herthygl 'Lleihau ôl-groniad rhestrau aros y GIG' yn edrych ar ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru i helpu i fonitro cynnydd o ran cyflawni'r uchelgeisiau hyn (targedau adfer). Bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Mae'r rhestr aros bresennol am driniaeth wedi cynyddu dros 50 y cant ers mis Mawrth 2020

Cyhoeddir ystadegau Llywodraeth Cymru o ran amseroedd aros ar wefan StatsCymru. Gosodwyd ei thargedau o ran amseroedd aros cyn y pandemig ac maent ar wahân i'r uchelgeisiau (targedau adfer) a nodir yng nghynllun Llywodraeth Cymru.

Yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (neu ‘RTT’ yn Saesneg) yw’r amser aros rhwng cael atgyfeiriad gan feddyg teulu a mynd i'r ysbyty i gael triniaeth, ac mae'n cynnwys yr amser a dreulir yn aros am unrhyw apwyntiadau ysbyty, profion neu sganiau y gallai fod eu hangen.

Targed Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth:

Dylai 95 y cant o gleifion sy’n cael eu hatgyfeirio am driniaeth ysbyty wedi’i chynllunio gael eu gweld o fewn 26 wythnos, a 100 y cant o fewn 36 wythnos.

Yn ôl y data diweddaraf (Ebrill 2022), mae nifer y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers mis Mawrth 2020. Ar ddiwedd mis Ebrill 2022, cyrhaeddodd y rhestr aros 707,098, ac fe nodir yn aml fod hynny’n cyfateb i un o bob pum person yng Nghymru, er y gallai rhai ohonynt fod ar fwy nag un rhestr aros. Mae hynny’n gynnydd o 54.8 y cant ers mis Mawrth 2020 (pan roedd 456,809 yn aros).

Roedd dros hanner y rheini a oedd yn aros ym mis Ebrill 2022 (379,638 neu 53.7 y cant) wedi bod yn aros hyd at 26 wythnos. Fodd bynnag, roedd dros draean (258,189 neu 36.5 y cant) wedi bod yn aros dros 36 o wythnosau. Ddwy flynedd yn ynghynt, y nifer gyfatebol a fu’n aros dros 36 o wythnosau oedd 28,294 (neu 6.2 y cant). Mae’r graff isod yn dangos y duedd hon.

Graff 1: Canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 o wythnosau a mwy na 36 o wythnosau i ddechrau eu triniaeth

Graff sy’n dangos canran y llwybrau cleifion a oedd yn aros llai na 26 o wythnosau a mwy na 36 o wythnosau i ddechrau triniaeth o fis Ebrill 2019 i fis Ebrill 2022. Mae canran y rhai sy'n aros llai na 26 o wythnosau wedi gostwng o 81.9 y cant ym mis Mawrth 2020 i 53.7 y cant ym mis Ebrill 2022. Targed Llywodraeth Cymru yw 95 y cant. Y ganran a oedd yn aros mwy na 36 o wythnosau ym mis Ebrill 2022 oedd 36.5 y cant, o'i gymharu â 6.2 y cant ym mis Mawrth 2020. Targed Llywodraeth Cymru yw 100 y cant.

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth

Nid yw GIG Cymru yn cyrraedd targedau amseroedd aros Llywodraeth Cymru ar gyfer profion diagnostig, therapïau a thriniaeth canser

Targedau Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Diagnostig a Therapi:

Ni ddylai neb aros dros wyth wythnos am wasanaethau diagnostig fel pelydr-X, neu 14 o wythnosau ar gyfer gwasanaethau therapi, megis ffisiotherapi.

Mae'r graff isod yn dangos y duedd yng nghanran y cleifion sy'n aros y tu hwnt i'r targedau.

Rhwng mis Mawrth 2020 a mis Ebrill 2022, cododd y nifer sy'n aros y tu hwnt i'r targed wyth wythnos am wasanaethau diagnostig o 7,964 i 45,028 (41.2 y cant o gleifion).

Cynyddodd nifer y cleifion a oedd yn aros mwy na 14 o wythnosau am wasanaethau therapi o 502 ym mis Mawrth 2020 i 13,103 ym mis Ebrill 2022 (20.6 y cant o gleifion).

Graff 2: Canran y cleifion sy'n aros y tu hwnt i dargedau Llywodraeth Cymru am wasanaethau diagnostig a therapi

Graff sy’n dangos canran y cleifion sy'n aros y tu hwnt i dargedau Llywodraeth Cymru am wasanaethau diagnostig a therapi . Ym mis Mawrth 2020, roedd 10.8 y cant o gleifion yn aros y tu hwnt i'r targed wyth wythnos am wasanaethau diagnostig. Erbyn mis Ebrill 2022, roedd hyn wedi cynyddu i 41.2 y cant. Ym mis Ebrill 2022, roedd 20.6 y cant o gleifion yn aros y tu hwnt i'r targed o 14 o wythnosau am wasanaethau therapi, o'i gymharu ag 1.4 y cant ym mis Mawrth 2020.

 

Ffynhonnell: StatsCymru, Amseroedd aros am wasanaethau diagnostig a therapi yn ôl mis

Targed Llywodraeth Cymru, Triniaeth Canser Gyntaf:

Dylai 75 y cant o gleifion gael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i nodi’r amheuaeth bod ganddynt ganser.

Mae’r data o ran amseroedd aros am ganser ar gyfer mis Ebrill 2022 yn dangos mai dim ond 56.4 y cant o gleifion a gafodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 o ddiwrnodau, sydd llawer yn is na'r targed o 75 y cant.

Graff 3: Canran y cleifion a gafodd eu triniaeth canser gyntaf o fewn y targed

Graff sy’n dangos bod GIG Cymru, , rhwng mis Mehefin 2019 a mis Ebrill 2022, wedi methu â chyrraedd targed Llywodraeth Cymru bod 75 y cant o gleifion yn cael eu triniaeth canser gyntaf o fewn 62 o ddiwrnodau ar ôl nodi amheuaeth o ganser. Dim ond 56.4 y cant o gleifion ym mis Ebrill 2022 a gafodd eu triniaeth gyntaf o fewn 62 o ddiwrnodau, o'i gymharu â 61.9 y cant ym mis Mawrth 2020.

 

Ffynhonnell: Stats Cymru, Llwybr amheuaeth o ganser

Mae angen cymorth ar bobl ar y rhestr aros

Yn ei adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y dylai'r cynllun ar gyfer mynd i'r afael ag amseroedd aros ganolbwyntio ar gefnogi cleifion tra byddant yn aros am driniaeth, yn ogystal â nodi sut yr eir i'r afael â'r ôl-groniad.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cefnogi pobl i aros yn iach drwy ddarparu gwell gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys eu helpu i reoli eu cyflyrau ac i baratoi ar gyfer llawdriniaeth. Dywed y bydd "ymrwymiad i drawsnewid y rhestr aros a’i throi’n rhestr baratoi yn sail i’r gwaith o adfer gofal a gynlluniwyd".

Gwnaeth y Pwyllgor 27 o argymhellion, ac fe dderbyniodd y Gweinidog pob un ohonynt (gan dderbyn un yn rhannol yn unig).

Aelodau'r Pwyllgor fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn holl argymhellion y Pwyllgor yn llawn yn unol â’u gweledigaeth. Mae diffyg manylder mewn rhai meysydd; mae'r Gweinidog yn 'dal i ystyried' y ffordd orau o fwrw ymlaen â nifer o bethau.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £1 biliwn yn adferiad y GIG yn ystod Tymor y Senedd hon

Ym mis Ionawr 2022, nododd Llywodraeth Cymru ei bod wedi dyrannu £818 miliwn tuag at adferiad y GIG dros bedair o bum mlynedd y llywodraeth bresennol, gan ddarparu £248 miliwn yn 2021-22 a dyrannu £190 miliwn bob blwyddyn rhwng 2022-23 a 2024-25.

Cyhoeddodd "£60m o arian ychwanegol i’r byrddau iechyd, sef £15m y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf" pan gyhoeddodd Gynllun adfer y GIG ym mis Ebrill 2022. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr arian diweddaraf hwn yn golygu ei bod bellach wedi dyrannu mwy nag £1 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon i helpu'r GIG i adfer yn sgil y pandemig, yn unol â’i hymrwymiad.

Nododd Archwilio Cymru (Mai 2022) fod cyrff y GIG yn ei chael hi'n anodd gwario holl gyllid 2021-22 Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn y tymor byr ac mai dyma un o'r ffactorau arwyddocaol a oedd yn cyfyngu ar ddarpariaeth y gwasanaethau hyn.

Dywed fod rhai rhwystrau sylweddol y mae angen eu goresgyn er mwyn gwneud cynnydd o ran yr ôl-groniad, gan gynnwys effaith barhaus COVID ar wasanaethau, heriau o ran y gweithlu, a'r hyn sy'n digwydd ar ystâd bresennol y GIG

Mae gwaith modelu Archwilio Cymru yn awgrymu y gallai gymryd hyd at saith mlynedd neu fwy i restrau aros ddychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Joanne McCarthy, a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru