Delwedd o faner Americanaidd

Delwedd o faner Americanaidd

O dan y chwyddwydr: Masnach ryngwladol mewn nwyddau rhwng Cymru ac UDA

Cyhoeddwyd 28/09/2026   |   Amser darllen munud

Yn 2025, roedd masnach mewn nwyddau rhwng Cymru ac UDA werth £6.6bn, a olygai taw UDA oedd partner masnachu, un wlad, pennaf Cymru, yn ôl gwerth. I osgoi dryswch, sylwer taw partner masnachu mwyaf Cymru yn gyffredinol yw’r Undeb Ewropeaidd, a hynny o gryn dipyn. Mae'r proffil hwn yn archwilio'r berthynas fasnachu rhwng Cymru ac UDA. Mae’n egluro’r canlynol:

  • Cytundeb Ffyniant Economaidd rhwng y DU ac UDA;
  • faint mae Cymru’n masnachu ag UDA;
  • pa nwyddau y mae Cymru’n eu masnachu ag UDA;
  • pa sectorau sy'n fwyaf dibynnol ar fasnach rhwng Cymru ac UDA; a hefyd
  • masnach rhwng Cymru ac UDA dros 10 mlynedd.

Mae masnach mewn nwyddau yn cael ei fesur yn ôl gwerth a/neu gyfaint. Mae masnach mewn termau gwerth yn fesur o werth ariannol nwyddau a fasnachir, a gall newidiadau mewn prisiau, cyfraddau cyfnewid a chwyddiant ddylanwadu ar y sefyllfa hon. Mae masnach mewn termau cyfaint yn adlewyrchu swm ffisegol y nwyddau a fasnachir. Felly, nid yw newidiadau yn ngwerth y nwyddau a fasnachir o reidrwydd yn dynodi newid yn swm y nwyddau a fasnachir.

Dangosir yr ystadegau masnach diweddaraf rhwng Cymru ac UDA yn Ffigur 2 a byddant yn cael eu diweddaru bob chwarter, pan fydd ystadegau newydd ar gael. Bydd gweddill yr ystadegau o dan sylw yn cael eu diweddaru’n flynyddol i ddangos tueddiadau o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r proffil hwn yn rhan o’n cyfres ar fasnach ryngwladol.

Cytundeb Ffyniant Economaidd rhwng y DU ac UDA

Dim ond Llywodraeth y DU all sicrhau bod y DU yn rhan o gytundebau masnach, ac mae’n gwneud hynny ar ran y bedair gwlad. Fe aeth i gytundeb gydag UDA ym mis Mehefin 2025, ar ôl i UDA gyflwyno tariffau cilyddol ar y rhan fwyaf o’i phartneriaid masnachu. Cyflwynodd yr Unol Daleithiau dariffau eraill, hefyd, sydd wedi effeithio ar y DU, gan gynnwys ar ddur ac alwminiwm.

Nid yw’r cytundeb, sef y Cytundeb Ffyniant Economaidd, yn gyfreithiol rwymol. Cyflwynwyd nifer o’r hyn a gynigir ganddo, megis cwota tariff ar gyfer rhannau ceir y DU, a chwota cilyddol ar gyfer cig eidion, a mynediad i gynhyrchion fferyllol y DU. Fodd bynnag, ni chynigiwyd tariff ffafriol ar gyfer dur ac mae cyfradd y DU yn parhau i fod yn 25%.

Mae Ffigur 1 yn dangos masnach rhwng Cymru ac UDA ers cyflwyno’r tariffau a’r Cytundeb Ffyniant Economaidd yn ystod ail chwarter 2025. Mae gwerth allforion wedi parhau’n gyson, ond bu gostyngiad yng nghyfaint y nwyddau a allforiwyd yn nhrydydd chwarter 2025. Dros yr un cyfnod, cynyddodd gwerth a chyfaint mewnforion yr UDA i Gymru.

Ffigur 1: Allforion a mewnforion Cymru i UDA ers cyflwyno tariffau a’r Cytundeb Ffyniant Economaidd (yn ôl gwerth a chyfaint; hyd at ail chwarter 2026)

Siart llinell yn dangos sut mae system tariffau UDA wedi effeithio ar werth masnach Cymru

 

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: Dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026) (Efallai na fydd y ffigurau’n adio i fyny oherwydd talgrynnu)

Faint mae Cymru’n masnachu ag UDA?

Mae Ffigur 2 yn dangos gwerth presennol y fasnach mewn nwyddau rhwng Cymru ac UDA, yn y flwyddyn a ddaeth i ben yn ail chwarter 2026. Dangosir y tri chwarter blaenorol, hefyd, at ddibenion cymharu. At ei gilydd, mae masnach rhwng Cymru ac UDA wedi cynyddu ychydig dros y cyfnod hwnnw. Gyrrwyd hynny gan werthoedd mewnforio gan fod gwerthoedd allforio wedi aros yn gyson.

Ffigur 2: Gwerth presennol masnach nwyddau Cymru gydag UDA (yn ôl gwerth; hyd at y flwyddyn yn gorffen a ddaeth i ben yn ail chwarter 2026)

Siart bar yn dangos gwerth presennol masnach nwyddau Cymru gydag UDA hyd at chwarter cyntaf 2026

 

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: Dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026) (Efallai na fydd y ffigurau’n adio i fyny oherwydd talgrynnu)

Mae Ffigur 3 yn dangos y pum gwlad pennaf a oedd yn bartneriaid masnachu, un wlad, â Chymru yn 2025, yn ôl gwerth. UDA oedd ar y brig gyda gwahaniaeth o £2.8bn rhyngddi a’r Almaen yn yr ail safle.

Ffigur 3: Safle UDA ymhlith y pum gwlad pennaf a oedd yn bartneriaid masnachu, un wlad, â Chymru (yn ôl gwerth; 2025)

Siart bar yn dangos safle UDA ymhlith pum partner masnachu pennaf Cymru

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)

Beth mae Cymru’n ei fasnachu ag UDA?

Mae Ffigurau 4 a 5 yn cyflwyno dadansoddiad o gynhyrchion a allforiwyd ac a fewnforiwyd fel canran o’r masnach rhwng Cymru ac UDA, yn ôl gwerth a chyfaint. Maent yn dangos bod masnach Cymru gydag UDA wedi'i chanoli mewn nifer fach o grwpiau cynnyrch.

Ffigur 4: Allforion yn ôl categori nwyddau gydag UDA (yn ôl canran o werth a chyfaint; 2025)

Siart bar yn dangos y cynhyrchion a allforiwyd i UDA yn 2025, yn ôl canran o'r gwerth

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: Dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026) (O ganlyniad i’r ganran fach o ran cyfaint ar gyfer peiriannau a chludiant, nid yw'n hawdd ei gweld. Mae'r ganran yn sefyll ar 1.4%.)

O ran allforion a mewnforion fel ei gilydd, tanwyddau mwynau oedd yn cyfrif am y nifer mwyaf o nwyddau a allforiwyd ac a fewnforiwyd, tra’n cynrychioli cyfran llawer llai o werth. Mae'r siartiau’n dangos bod y gwrthwyneb yn wir o ran peiriannau a thrafnidiaeth, sy’n ffurfio canran fach o’r gyfaint ond bron i hanner gwerth y fasnach rhwng Cymru ac UDA.

Ffigur 5: Mewnforion yn ôl categori nwyddau (yn ôl canran o werth a chyfaint; 2025)

Siart bar yn dangos y cynhyrchion a fewnforiwyd o UDA yn 2025, yn ôl canran o'r gwerth

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: Dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026) (O ganlyniad i’r ganran fach o ran cyfaint ar gyfer peiriannau a chludiant, nid yw'n hawdd ei gweld. Mae’r ganran yn sefyll ar 0.1%.)

Pa rai o sectorau Cymru sydd fwyaf dibynnol ar allforio i UDA?

Er mwyn deall pa mor ddibynnol yw sector ar farchnad benodol, mae’n ddefnyddiol edrych ar werth ei allforion i'r farchnad honno, a pha mor bwysig yw'r farchnad honno i sector penodol o’i gymharu ag eraill. Mae Ffigur 6 yn dangos gwerth marchnad UDA i sectorau yng Nghymru, a pha mor bwysig yw’r sector hwnnw i fasnach rhwng Cymru ac UDA yn gyffredinol.

Fel yn yr adran uchod, mae’n dangos bod gwerth allforion Cymru i UDA wedi’i ganoli mewn nifer fach o sectorau. Mae peiriannau ac offer trafnidiaeth sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o allforion Cymru yn ôl gwerth i UDA, sef tua 45%.

Fodd bynnag, mae’r sectorau hyn yn llai dibynnol ar UDA o’u cymharu ag allforion cyffredinol Cymru o’r cynhyrchion hyn i farchnadoedd eraill. Er enghraifft, dim ond tua 6% o allforion peiriannau a thrafnidiaeth cyffredinol Cymru, 3% o allforion tanwydd mwynau a 2% o allforion cemegau y mae UDA yn cyfrif amdanynt. Mae hyn yn awgrymu, er bod y sectorau hyn yn ganolog i’r berthynas fasnachu rhwng Cymru ac UDA, nad ydynt yn gwbl ddibynnol ar y farchnad Americanaidd.

Ffigur 6: Dibyniaeth sectorau ar allforio i UDA gyda chyfraniad at allforion cyffredinol y UDA (2025; yn ôl canran y gwerth)

Siart bar yn dangos dibyniaeth sectoraidd ar allforio i UDA yn 2025

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)

Masnach rhwng Cymru ac UDA: Golwg dros 10 mlynedd

Mae Ffigurau 7 ac 8 yn dangos gwerth a chyfaint masnach nwyddau rhwng Cymru ac UDA dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mae masnach rhwng Cymru ac UDA wedi tyfu dros amser. Bu gostyngiad yn 2020 a 2021 ond mae hyn yn cyd-fynd â gostyngiad ehangach ym masnach ryngwladol gyffredinol Cymru (fel y dangosir yn Ffigur 11 ar ein tudalen adnoddau ar gyfer masnach).

Mae Ffigur 7 yn dangos diffyg masnach cynyddol Cymru gyda UDA. Mae diffyg masnach yn digwydd pan fydd gwlad yn mewnforio mwy nag y mae’n ei allforio. Cynyddodd gwerthoedd mewnforio o £2.0 biliwn yn 2015 i £3.9 biliwn yn 2025, tra bod gwerthoedd allforio wedi codi’n fwy cymedrol, o £2.1 biliwn i £2.7 biliwn.

Ffigur 7: Masnach mewn nwyddau gydag UDA yn ôl gwerth (2015-2025)

Siart bar yn dangos masnach mewn nwyddau gydag UDA dros ddeng mlynedd, yn ôl gwerth

 

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)

Er bod cyfeintiau masnach wedi cynyddu dros y degawd, nid ydynt wedi codi mor sydyn â gwerthoedd masnach. Mae hyn yn awgrymu y gallai rhywfaint o’r cynnydd yng ngwerth masnach rhwng Cymru ac UDA adlewyrchu ffactorau megis prisiau uwch neu newidiadau yn y nwyddau a fasnachir, yn hytrach na bod mwy o nwyddau’n llifo rhwng Cymru ac UDA.

Ffigur 8: Masnach mewn nwyddau gydag UDA yn ôl gwerth (2015-2025)

Siart bar yn dangos masnach mewn nwyddau gydag UDA dros ddeng mlynedd, yn ôl cyfaint

 

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)


Erthygl gan Maddy Phillips and Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru