Mae'r dudalen hon yn archwilio masnach ryngwladol Cymru â gweddill y byd, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- Datganoli a masnach;
- Faint y mae Cymru'n masnachu;
- Yr hyn a fasnachir gan Gymru;
- Gyda phwy y mae Cymru'n masnachu; a
- Chytundebau a thrafodaethau masnach y DU.
Mae'r dudalen hon yn canolbwyntio ar fasnach nwyddau, sy'n cael ei mesur yn ôl gwerth a/neu gyfaint. Mae masnach mewn termau gwerth yn fesur o werth ariannol nwyddau a fasnachir, a gall newidiadau mewn prisiau, cyfraddau cyfnewid a chwyddiant ddylanwadu ar y sefyllfa hon. Mae masnach mewn termau cyfaint yn adlewyrchu swm ffisegol y nwyddau a fasnachir. Felly, nid yw newidiadau yn ngwerth y nwyddau a fasnachir o reidrwydd yn dynodi newid yn swm y nwyddau a fasnachir.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru bob chwarter i adlewyrchu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran masnach. Fel arfer, mae ystadegau ar gyfer y flwyddyn lawn y cael eu cyhoeddi bob mis Mawrth.
Mae gwybodaeth am fasnach gwasanaethau yn cael ei hadrodd ar wahân. Roedd y datganiad diweddaraf yn dangos bod gwasanaethau yn cyfrif am 30% o gyfanswm allforion Cymru, a 20% o gyfanswm mewnforion Cymru, yn 2023, yn ôl Llywodraeth flaenorol Cymru.
Dim ond Llywodraeth y DU all ymrwymo i gytundebau masnach sy'n gyfreithiol rwymol, ac mae'n gwneud hynny ar ran y pedair gwlad. Er bod masnach ryngwladol, yn gyffredinol, yn cael ei hystyried yn fater sydd wedi’i gadw yn ôl, mae agweddau pwysig arni wedi'u datganoli. Er enghraifft, mae rheolaethau sy’n ymwneud â bioddiogelwch, diogelwch bwyd a materion iechydol a ffytoiechydol, at ddibenion amddiffyn iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion ac iechyd y cyhoedd, i gyd yn rheolaethau masnach sydd wedi’u datganoli. Gall cytundebau masnach hefyd gynnwys cyfrifoldebau datganoledig, fel yr amgylchedd. Yn ôl y Ganolfan Polisi Masnach Cynhwysol, yn 2024, roedd 91% o'r cytundebau masnach a oedd yn bodoli ar yr adeg honno yn gorgyffwrdd i ryw raddau â meysydd datganoledig.
Gweinidogion Cymru a'r Senedd sy'n gyfrifol am roi'r rhannau datganoledig o gytundebau masnach ar waith, a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol y DU.
Mae llywodraethau'r pedair gwlad yn cydweithio ar fasnach ryngwladol. Gall Llywodraeth Cymru wneud sylwadau i Lywodraeth y DU ar bolisïau a blaenoriaethau masnach, naill ai'n uniongyrchol neu drwy grwpiau rhyngweinidogol Llywodraeth y DU ar fasnach a’r berthynas rhwng y DU a'r UE. Ar ben hynny, roedd gan Lywodraeth flaenorol Cymru grŵp cynghori mewnol ar bolisi masnach, a oedd yn cwmpasu 19 o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Beth yw hyd a lled masnach ryngwladol Cymru?
Mae ffigur 1 yn dangos gwerth masnach nwyddau Cymru ar gyfer y pedwar chwarter diweddaraf. Cyfanswm gwerth y fasnach hon ar hyn o bryd yw £39.5 biliwn, gyda'r pedwar chwarter blaenorol yn dangos gostyngiad bach mewn mewnforion ac allforion rhwng y chwarter cyntaf a’r pedwerydd chwarter yn 2025.
Ffigur 1: Gwerth cyfredol masnach nwyddau Cymru (yn ôl gwerth; hyd at y pedwerydd chwarter yn 2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Mae ffigur 2 yn dangos llifau masnach rhwng Cymru a'i deg prif bartner masnach yn ôl rhanbarth byd-eang a gwerth. Mae'r fasnach hon yn cyfrif am oddeutu 67% o gyfanswm gwerth y nwyddau a fasnachwyd yn 2025.
Ffigur 2: 10 prif bartner masnach Cymru (yn ôl gwerth; 2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Beth sy’n cael ei fasnachu gan Gymru?
Mae ffigurau 3 a 4 yn dangos y pum prif gynnyrch a gafodd eu hallforio a’u mewnforio gan Gymru yn 2025, yn ôl gwerth.
Ffigur 3: Pum prif allforyn Cymru (yn ôl gwerth; 2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Prif allforyn Cymru yw 'peiriannau ac offer cynhyrchu pŵer', sy'n cyfrif am £4.3 biliwn o allforion nwyddau’r wlad. Mae’r rhain yn cynnwys cynhyrchion fel tyrbinau a generaduron.
Ffigur 4: Pum prif fewnforyn Cymru (yn ôl gwerth; 2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Prif fewnforyn Cymru yw 'petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig', a oedd yn cyfrif am £4.8 biliwn o gyfanswm mewnforion nwyddau’r wlad.
Gyda phwy y mae Cymru'n masnachu?
Mewn termau cyffredinol, yr Undeb Ewropeaidd yw partner masnach mwyaf Cymru o hyd, gan gyfrif am 47% o'i masnach ryngwladol mewn nwyddau yn ôl gwerth yn 2025, a 60% yn ôl cyfaint.
Mae ffigur 5 yn dangos pum prif bartner allforio unigol Cymru ar gyfer 2025 a'u perthynas fasnachu dros amser.
Yn fras, mae pum prif bartner allforio Cymru wedi aros yr un peth dros y deng mlynedd diwethaf. Cafwyd yr eithriad i’r drefn hon (nad yw wedi’i nodi ar y siart) yn 2021, pan wnaeth Gwlad Belg ddisodli'r Iseldiroedd fel pumed prif bartner allforio Cymru.
Ffigur 5: Pum prif bartner allforio Cymru (yn ôl gwerth; 2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Mae ffigur 6 yn dangos pum prif bartner mewnforio Cymru ar gyfer 2025 a'u perthynas fasnachu dros amser. Yn wahanol i brif bartneriaid allforio Cymru, mae’r pum prif bartner mewnforio wedi newid yn rheolaidd dros yr un cyfnod o ddeng mlynedd.
Nid yw Ffrainc bob amser wedi bod ymhlith y pum prif bartner. Cafodd ei disodli gan Norwy yn 2022, gan Sbaen yn 2021, gan Iwerddon yn 2020, a chan Norwy yn 2017. Nid oedd yr Iseldiroedd yn un o'r pum prif bartner yn 2015, pan gafodd ei disodli gan Algeria. Nid yw'r newidiadau hyn wedi'u nodi ar y siartiau.
Ffigur 6: Pum prif bartner mewnforio Cymru (yn ôl gwerth; 2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Er bod y DU yn aelod o un bloc masnach, sef Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (y CPTPP), mae'n masnachu ag eraill fel yr UE. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi negodi cytundeb masnach gyda Chyngor Cydweithredol y Gwlff (y GCC).
Mae ffigur 7 yn dangos gwerth yr allforion rhwng Cymru a blociau masnach allweddol dros gyfnod o 10 mlynedd.
Ffigur 7: Allforion i flociau masnach allweddol (yn ôl gwerth; 2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Yn sgil y bwlch mewn gwerth rhwng yr UE a'r blociau masnach eraill, mae Ffigur 8 yn manylu ar y sefyllfa o ran blociau nad ydynt yn rhan o'r UE. Mae'n dangos cynnydd cymedrol yng ngwerth allforion i'r CPTPP, ar ôl i’r DU ymuno â’r bloc yn 2024.
Ffigur 8: Allforion i flociau masnach allweddol nad ydynt yn rhan o'r UE, (yn ôl gwerth; 2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Mae ffigur 9 yn dangos gwerth y mewnforion rhwng Cymru a blociau masnach allweddol dros gyfnod o 10 mlynedd.
Ffigur 9: Mewnforion o flociau masnach allweddol, yn ôl gwerth (2015-2025)

Fel yr eitem uchod, mae ffigur 10 yn cynnig dadansoddiad mwy manwl o flociau masnach nad ydynt yn rhan o'r UE. Mae mewnforion o'r CPTPP wedi lleihau ers i’r DU ymuno.
Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Ffigur 10: Mewnforion o flociau masnach nad ydynt yn rhan o'r UE, yn ôl gwerth (2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Masnach nwyddau dros y blynyddoedd
Mae masnach nwyddau Cymru, yn ôl gwerth a chyfaint, dros y cyfnod diweddaraf o 10 mlynedd wedi'i chrynhoi yn ffigur 11 a ffigur 12.
Ffigur 11: Masnach nwyddau yn ôl gwerth (2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Mae'r siartiau (uchod ac isod) yn dangos bod gan Gymru record gyson o fewnforio mwy nag y mae'n ei allforio, o ran cyfaint a gwerth. Felly, mae ganddi ddiffyg masnach gyda'r rhan fwyaf o wledydd. Mae diffyg masnach yn digwydd pan fo gwlad yn mewnforio mwy nag y mae'n ei allforio; mae gwarged masnach yn digwydd pan fo gwlad yn allforio mwy nag y mae'n ei mewnforio. Fodd bynnag, mae'r UE yn eithriad pwysig, lle mae gan Gymru warged masnach.
Ffigur 12: Masnach nwyddau yn ôl cyfaint, dros gyfnod o 10 mlynedd (2015-2025)

Ffynhonnell: Masnach nwyddau rhyngwladol: dangosfwrdd rhyngweithiol (Llywodraeth Cymru, 2026)
Mae'r tabl isod yn dangos statws trafodaethau masnach y DU ar hyn o bryd, yn ogystal ag ymateb cyfatebol Llywodraeth Cymru, lle cafwyd un.
|
Gwlad |
Sefyllfa ddiweddaraf |
Ymateb Llywodraeth Cymru |
|
Twrci |
Trydedd rownd o drafodaethau: Wythnos yn dechrau 17 Tachwedd 2025
|
Dim datganiad gan Lywodraeth Cymru |
|
Y Swistir |
Nawfed rownd o drafodaethau: 12-16 Ionawr 2026
|
Dim datganiad gan Lywodraeth Cymru |
|
Yr Ynys Las |
Trafodaethau masnach wedi ailddechrau: Hydref 2025
|
Dim datganiad gan Lywodraeth Cymru |
|
Israel |
Trafodaethau masnach wedi'u hatal: Mai 2025
|
Datganiad gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Gorffennaf 2022) |
Mae Llywodraeth y DU wedi llofnodi naw cytundeb masnach newydd ers Brexit, ac mae'r rhain wedi'u rhestru yn y tabl isod. Yn aml, roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn cyhoeddi ‘dogfennau safbwynt’ ar y cytundebau a oedd yn destun trafodaethau, ac mae’r dogfennau sydd ar gael wedi’u cynnwys yn y tabl isod.
|
Gwlad |
Dyddiad llofnodi |
Dyddiad dod i rym |
Ymateb Llywodraeth Cymru |
|
Mai 2026 |
Heb fod mewn grym eto |
Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru (Mai 2026) |
|
|
Gorffennaf 2024 |
Heb fod mewn grym eto |
Dogfen safbwynt gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Chwefror 2026) |
|
|
Rhagfyr 2025 |
Heb fod mewn grym eto |
Dim dogfen safbwynt gan Lywodraeth Cymru |
|
|
Gorffennaf 2023 |
Rhagfyr 2024 |
Dogfen safbwynt gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Hydref 2023) |
|
|
Mai 2025 |
Parhaus |
Datganiad gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Mai 2025) |
|
|
Chwefror 2022 |
Mai 2023 |
Dogfen safbwynt gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Gorffennaf 2022) |
|
|
Rhagfyr 2021 |
Mai 2023 |
||
|
Rhagfyr 2020
|
Ionawr 2021
|
Dadansoddiad o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Chwefror 2021) |
|
|
Hydref 2020 |
Ionawr 2021 |
Dogfen asesu gan Lywodraeth flaenorol Cymru (Rhagfyr 2020) |
Erthygl gan Maddy Phillips, Sara Moran, a Josh Jenkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru