Neges mewn potel: Sut allai'r ymateb i gynllun dychwelyd ernes yr Alban effeithio ar gynlluniau yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 19/06/2023   |   Amser darllen munud

Efallai bod ernes o 20c ar botel o laeth yn swnio fel rheswm annhebygol dros wrthdaro cyfansoddiadol, ond mae anghytuno ynghylch a ddylid cynnwys gwydr yng nghynllun dychwelyd ernes yr Alban wedi sbarduno cryn ddadlau am y sefyllfa o ran datganoli.

Fel yn achos plastigau untro ac organeddau sydd wedi'u bridio’n fanwl, Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 yw asgwrn y gynnen unwaith eto.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau ar gyfer cynllun dychwelyd ernes, sydd hefyd yn cynnwys gwydr, felly beth allai hyn ei olygu i Gymru a beth mae'n ei ddweud wrthym am gyflwr presennol cysylltiadau rhynglywodraethol?

Beth yw Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020?

Daeth Deddf Marchnad Fewnol y DU yn gyfraith yn 2020. Fe'i cyflwynwyd gan Lywodraeth y DU i reoleiddio 'marchnad fewnol' y DU ar ôl Brexit, ond arweiniodd at ddadlau ffyrnig am ei heffeithiau ar gyfraith ddatganoledig. Gwrthododd Senedd Cymru a Senedd yr Alban roi cydsyniad i’r Bil ond fe’i pasiwyd gan Senedd y DU.

Mae’r Ddeddf yn pennu’r rhagdybiaeth y dylai fod modd i nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol (yn gyffredinol) y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o’r DU gael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall o’r DU, waeth beth y mae’r gyfraith yn y rhan honno o’r DU yn ei ddweud.

Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn nodi Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad o 'Gyd-gydnabyddiaeth' a 'Dim gwahaniaethu' mewn perthynas â nwyddau. Mae hyn yn golygu nad yw gofynion rheoleiddiol ar nwyddau, neu bolisïau a allai roi nwyddau sy'n dod i mewn dan anfantais, mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig yn gymwys i gynhyrchion sy'n dod o wledydd eraill y DU (neu sy’n cael eu mewnforio’n uniongyrchol iddynt).

Gellir cytuno ar eithriadau ar gyfer rhai cynhyrchion a gwmpesir gan Fframwaith Cyffredin, ond dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r pŵer i'w gwneud.

Cynllun dychwelyd ernes yr Alban

A'r broses hon i gytuno ar eithriad yw lle mae'r stori hon yn dechrau.

Roedd Llywodraeth yr Alban i fod i lansio cynllun dychwelyd ernes cyntaf y DU ar gyfer cynwysyddion diodydd o fis Gorffennaf 2022, ond gohiriwyd y lansiad tan 2023 o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Byddai’r cynllun yn golygu bod defnyddwyr yn talu ernes ad-daladwy o 20c wrth brynu cynhwysydd diodydd untro wedi'i wneud o blastig, gwydr neu ddur/alwminiwm. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i sefydlu cynlluniau cydnaws, sydd i fod i gael eu lansio yn 2025.

Pam mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn effeithio ar y cynllun dychwelyd ernes?

Gallai egwyddorion mynediad i'r farchnad Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 effeithio ar y cynllyn hwn oherwydd ei bod yn ymwneud â gwerthu nwyddau. Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU ill dwy wedi nodi bod y cynllun yn rhyngweithio â'r Ddeddf, ond bod barn wahanol am hyd a lled y rhyngweithio hwn.

Mae’r erthygl hon gan Ganolfan Wybodaeth Senedd yr Alban yn amlinellu'r materion allweddol sy'n ymwneud â'r rhyngweithio rhwng y Ddeddf a chynllun dychwelyd ernes.  

Dywed Llywodraeth yr Alban ei bod wedi gofyn am eithriad ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU fel rhan gais eang a wnaed yn 2021. Dim ond eithriad ar blastig untro y cytunwyd arno bryd hynny, felly ystyriodd Llywodraeth yr Alban yr angen am eithriad ar gyfer y cynllun dychwelyd ernes ym mis Hydref 2022.

Yn dilyn cyfnewid llythyrau rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU am yr angen am eithriad, roedd disgwyl penderfyniad mewn cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 17 Ebrill 2023. Pan na chafwyd y penderfyniad hwn, gohiriodd Llywodraeth yr Alban lansiad y cynllun dychwelyd ernes tan fis Mawrth 2024.

Ar 27 Mai 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n cytuno i eithriad dros dro ar gyfer cynllun dychwelyd ernes yr Alban, ond yn hollbwysig na fyddai hyn yn cynnwys cynhyrchion gwydr. Byddai hyn yn dod â chwmpas y cynllun yn unol â chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr. Mae Llywodraeth y DU am weld yr yr aliniad a’r rhyngweithrededd mwyaf posibl rhwng cynlluniau a dywedodd:

“The inclusion of glass would add cost and complexity to the schemes in particular to hospitality and retail sectors, as well as adding consumer inconvenience.”

Ar ôl gofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad yn wreiddiol, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai lansiad y cynllun yn cael ei oedi tan fis Hydref 2025 o leiaf, a fydd yn cyd-fynd â'r lansiad yng ngweddill y DU.

Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am gyflwr cysylltiadau rhynglywodraethol?

Mae'r anghydfod hwn dros y cynllun dychwelyd ernes yn arwydd arall o'r tensiwn rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban. Mae hyn er bod fframwaith newydd ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol ar waith ers mis Ionawr 2022.

Dywed Llywodraeth yr Alban ei bod wedi dilyn y broses y cytunwyd arni ar gyfer gofyn am eithriad drwy fframwaith cyffredin. Er bod hyn yn cynnig llwybr i'r llywodraethau datganoledig geisio eithrio meysydd o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU, dim ond Gweinidogion y DU sydd â'r pŵer i wneud eithriadau.

Dyma'r ail dro i Lywodraeth yr Alban beidio â chael yr eithriad llawn y gofynnodd amdano, ar ôl gofyn yn flaenorol am eithriad eang yn cwmpadu cynhyrchion plastig untro, a chael rhestr benodol yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon bod prosesau ychwanegol yn cael eu hychwanegu i geisio eithriad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU y tu allan i’r broses y cytunwyd arni drwy’r Fframweithiau Cyffredin.

Beth allai hyn ei olygu i Gymru?

Mae gan Lywodraeth Cymru ei chynlluniau ei hun ar gyfer cynllun dychwelyd ernes, ond mae wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i lansio cynlluniau ar y cyd yn 2025.

Yn wahanol i'r ddwy wlad hynny, mae Llywodraeth Cymru eisiau i’r cynllun yng Nghymru gynnwys gwydr. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol o wynebu'r un heriau â Llywodraeth yr Alban oni chytunir ar eithriad sy’n cynnwys gwydr.

Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ‘rhyngweithrededd llawn’ rhwng y cynlluniau, gan gynnwys gyda'r deunyddiau dan sylw.

Dywedodd Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau penderfyniad Llywodraeth y DU ar gyfer y cynllun yng Nghymru. Mewn ymateb i Glenn Campbell, golygydd gwleidyddol BBC yr Alban, dywedodd y Prif Weinidog:

“At the moment glass is in our [the Welsh Government’s] scheme and that’s the way we expect it to stay. […] I would dispute the use of the Internal Market Act for these purposes and if they were to invoke it, there would be very serious questions for the UK Government.”

Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar gyflwyno’i chynllun, gan gynnwys gwydr, ac y bydd yn parhau i fynd ar drywydd y mecanweithiau rhynglywodraethol sydd ar gael i gyflwyno ei hachos.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Gan fod Llywodraeth yr Alban bellach wedi cadarnhau y bydd oedi tan 2025 cyn lansio ei chynllun dychwelyd ernes, mae busnesau wedi dweud y byddant yn ceisio cael eu digolledu am y buddsoddiadau y maent wedi'u gwneud i baratoi ar gyfer y cynllun.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw ei bwriad i gynnwys gwydr yn ei chynllun wedi newid o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU. Os yw Llywodraeth Cymru yn dewis bwrw ymlaen â gwydr yn ei chynllun, mae'n debygol y bydd yr ymdeimlad o ansicrwydd ynghylch effaith ymarferol Deddf Marchnad Fewnol y DU ar gyfraith Cymru yn parhau.

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru