Mynediad at gyfiawnder yng Nghymru: materion o bwys a heriau allweddol

Cyhoeddwyd 01/12/2022   |   Amser darllen munudau

Mae mynediad at gyfiawnder yn ganolog i reol y gyfraith mewn cymdeithas wâr a democrataidd. Pa mor hawdd yw hi i gael mynediad at gyfiawnder? Pam mae rhai’n ei chael yn anoddach nag eraill? A pha rwystrau sy'n atal pobl rhag arfer eu hawliau?

I ddeall mwy am y materion hyn, ymunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad â’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion i siarad ag ymarferwyr cyfreithiol a phobl sy'n ymwneud ag achosion cyfreithiol ledled Cymru.

Bydd yr erthygl hon yn ystyried rhai o’r prif themâu a gododd yn ystod y broses hon , ynghyd â’r modd y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb.

Deall eich hawliau cyfreithiol

Un o'r rhwystrau mwyaf rhag cael mynediad at gyfiawnder yw gwybodaeth a dealltwriaeth pobl o'u hawliau cyfreithiol. Awgrymwyd bod dealltwriaeth o hawliau cyfreithiol yn is yng Nghymru nag yn Lloegr, yn enwedig pan fo’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.

Rhoddodd un cyfranogwr enghreifftiau o’r dryswch ynglŷn â pha gyfreithiau’n sy’n berthnasol i Gymru, gan gyfeirio at hysbysiad a gyflwynwyd yng Nghymru o dan ddeddfwriaeth tai sy’n berthnasol i Loegr yn unig, ac offeryn holi ac ateb ar-lein a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, nad oedd ond yn cymhwyso’r gyfraith fel y mae’n berthnasol i Loegr, hyd yn oed os oeddech yn nodi’ch bod yn byw yng Nghymru.

Roedd cael mynediad at gyfiawnder yn y Gymraeg yn broblem arall a nodwyd. Dywedodd un ymarferwr cyfreithiol nad oedd wedi defnyddio'r Gymraeg yn ei waith cyfreithiol ers cryn amser oherwydd pryder na fyddai staff y llys yn gwybod sut i ddelio â’r iaith, ac na fyddent yn darparu cyfieithiad.

Pwysau ar y gweithlu

Mae recriwtio a chadw staff cyfreithiol yn broblem gynyddol. Mae’r gallu i weithio o bell wedi newid y farchnad; mae cwmnïau mewn lleoedd fel Llundain a Bryste yn gallu cynnig cyflogau uwch na chwmnïau yng Nghymru, heb iddynt orfodi adleoli.

Tynnodd un cyfranogwr sylw at y cynnydd mewn trosiant staff, anhawster ailhyfforddi staff, a chynnal lles staff fel rhai o’r prif broblemau sy’n effeithio ar eu busnes.

Effaith deddfwriaeth a pholisi’r llywodraeth

Cafwyd trafodaethau hir am effaith Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012. Yn enwedig yr effaith ar gapasiti ym maes lles cymdeithasol a chyfraith cyflogaeth. Prin iawn yw’r cyngor sydd ar gael yn rhad neu am ddim.

Diwygiwyd y system cyfiawnder troseddol yn dilyn Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, gan gynnwys lleihau’r cyllid a oedd ar gael ar gyfer cymorth cyfreithiol. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi nodi bod llai o bobl yn gallu cael cyngor cyfreithiol oherwydd y toriadau mewn cyllid.

Nodwyd bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cyngor lles cymdeithasol ar ôl cyflwyno Deddf 2012 wedi cael effaith gadarnhaol. Fodd bynnag, pwysleisiodd y cyfranogwyr fod angen rhagor o gymorth i fodloni’r galw, ac i gefnogi’r rhai sy'n symud ymlaen drwy'r llysoedd.

I helpu pobl i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth gyda materion cyfreithiol, mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi canllaw i etholwyr i’w helpu i chwilio am gyngor cyfreithiol.

Hygyrchedd a thechnoleg

Oherwydd amseroedd teithio hir mewn rhannau o Gymru, a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus annigonol, mae’n anodd i lawer gyrraedd gwrandawiad mewn da bryd. Eglurodd rhai o’r cyfranwyr fod y materion hyn yn cael effaith anghymesur ar y rhai sydd ar incwm isel.

Gall y defnydd o dechnoleg helpu i liniaru rhai o’r problemau hyn, ac ystyriwyd bod y defnydd cynyddol a wnaed ohono yn ystod pandemig Covid-19 yn gadarnhaol i raddau helaeth. Gall helpu sefydliadau i greu gwasanaethau mwy effeithlon a syml, ac ymwneud â grwpiau neu ddemograffeg a allai ei chael yn anodd dod o hyd i gyngor fel arall.

Fodd bynnag, gallai materion hygyrchedd, fel gwasanaethau band eang a llythrennedd digidol, olygu na fydd rhai’n gallu cael cyngor cyfreithiol os na fydd y dulliau traddodiadol o gynnig cyngor yn cael eu cynnal.

Sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymateb?

Dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru, ei fod yn croesawu gwaith y Pwyllgor, gan nodi bod Llywodraeth Cymru hefyd yn pryderu am y problemau roedd yr adroddiad yn cyfeirio atynt ynghylch mynediad at gyfiawnder.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cynghori sicr eu hansawdd ar gael i bobl Cymru.

Yn ei hymateb, rhoddodd Llywodraeth Cymru fraslun o’r camau y byddai’n eu cymryd i gynorthwyo’r sector cyfreithiol. Mae’r rhain yn cynnwys cynnig prentisiaethau cyfreithiol a chymwysterau paragyfreithiol newydd, darparu pecyn cymorth busnes pwrpasol ar gyfer cwmnïau cyfreithiol a sefydlu gweithgor i ddatblygu’r bar cyfraith gyhoeddus yng Nghymru.

Ymatebodd yr Arglwydd Bellamy CB, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Amlinellodd ymrwymiad Llywodraeth y DU i hyrwyddo’r sector cyfreithiol a gwasanaethau cyfreithiol ledled y DU ym mhob un o’r tair awdurdodaeth. Rhoddodd enghreifftiau o feysydd lle mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ar draws y DU, gan gynnwys ar gyfer rhaglenni cymorth cyfreithiol, darparwyr cymorth cyfreithiol dielw ac ar gyfer cynyddu’r defnydd o dechnoleg i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.

Yn ei ymateb, roedd yr Arglwydd Bellamy hefyd yn cydnabod bod angen i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru gydweithio i sicrhau bod cyfraith Cymru yn hygyrch, a nododd eu bod wedi bod yn “gweithio’n agos” i fynd i’r afael â rhai o argymhellion Comisiwn Thomas.

Bwrw ymlaen âr materion hyn

Bydd cyfle i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ystyried ymateb yr Arglwydd Bellamy CB, a materion eraill yn ymwneud â chyfiawnder, yn ei gyfarfod nesaf ddydd Llun 5 Rhagfyr.

Mae adroddiad yn rhoi crynodeb llawn o waith y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion ar gael yma.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru