Mae’r bumed erthygl hon yn ein cyfres ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei Rhaglen Lywodraethu yn archwilio’r amcan o ran llesiant, “Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn”.
Mae 14 o ymrwymiadau penodol o dan yr amcan hwn ar gyfer y Cabinet cyfan, y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch yn ei Hadroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu. Mae yna hefyd ymrwymiadau gweinidogol perthnasol.
Porwch drwy ein cyfres #RhaglenLywodraethu lawn, a gyhoeddwyd hyd yma.
Rydym yn trafod llwyddiant cymysg Llywodraeth Cymru o ran cyflawni mewn rhai meysydd allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd.
Comisiynu cyngor annibynnol a fydd yn archwilio llwybrau posibl i sero net erbyn 2035
Ar hyn o bryd mae gan Gymru darged statudol o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050. O dan y Cytundeb Cydweithio, comisiynodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru grŵp annibynnol i archwilio llwybrau i gyflawni sero net erbyn 2035, ymhell cyn y dyddiad targed o 2050.
Dechreuodd y Grŵp Herio Sero Net ei waith ym mis Ionawr 2023, wedi'i drefnu o gwmpas pum “her” – y cyntaf yw “sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?”
Tra bod cyngor annibynnol wedi'i gomisiynu, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn amcangyfrif gostyngiad allyriadau ar gyfer Cymru o 81% yn unig erbyn 2035. Er bod y Pwyllgor yn croesawu uchelgais y grŵp, dywedodd fod yr heriau i gyflawni eu nod o gyrraedd Sero Net erbyn 2035 yn enfawr.
Angen mynd ar drywydd datganoli pwerau er mwyn helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystâd y Goron yng Nghymru.
Bydd cynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn rhan annatod o gyrraedd targed statudol Cymru o sero net erbyn 2050. Mae ein herthygl, Pwy sy'n berchen ar wely’r môr, a pham mae’n bwysig, yn archwilio rôl Ystad y Goron wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy morol Cymru.
Mae disgwyl i Ystad y Goron elwa'n ariannol ar Gymru'n cynnal ynni adnewyddadwy morol. Mae'n adrodd bod gwerth ei bortffolio morol [adnewyddadwy] yng Nghymru wedi cynyddu o £49m i £549m rhwng 2020 a 2021.
Mae datganoli Ystad y Goron yn fater sydd wedi’i godi yn y Senedd, ac yn Senedd y DU. Gwnaeth y Prif Weinidog ddweud wrth y Senedd ym mis Ionawr fod Llywodraeth Cymru wedi siarad ag Ystad y Goron a Llywodraeth y DU ar y mater.
Mae un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, wedi nodi fel a ganlyn:
…an arrangement similar to Scotland would give Wales a direct say in how the profits from new floating wind farms planned off the Welsh coast would be spent.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, ddisgrifio’n ddiweddar datganoli Ystad y Goron fel bod yn risg sylweddol i Gymru, o ystyried bod refeniw a wariwyd gan Drysorlys y DU yn cael ei fuddsoddi ar draws y DU.
Gwnaeth y Prif Weinidog ddisgrifio awydd Llywodraeth y DU ar gyfer datganoli pellach fel bod yn eithaf cyfyngedig, a dywedodd y byddai “dim cyfle” gan Lywodraeth bresennol y DU.
Gweithio tuag at sefydlu Corff Llywodraethu Amgylcheddol, dyletswydd statudol a thargedau i warchod ac adfer bioamrywiaeth
Targedau bioamrywiaeth:
Gwnaeth adroddiad 2019 ar sefyllfa byd natur amlygu bod 17% o 3,902 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad difodiant, gan ysgogi'r Senedd i ddatgan 'argyfwng natur' yn 2021.
Asesiad o’r risg o ddifodiant rhywogaethau yng Nghymru (llinell sylfaen 1970)
Ffynhonnell: Adroddiad 2019 ar sefyllfa byd natur
Cytunwyd ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang COP15 ym mis Rhagfyr 2022, gyda tharged trosfwaol i ddiogelu 30% o ardaloedd daearol, dŵr mewndirol ac arfordirol a morol erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lywio’r uchelgais hwnnw drwy dargedau bioamrywiaeth domestig statudol.
Llywodraethiant amgylcheddol:
Yn sgil gadael yr UE, crëwyd yr hyn y cyfeiriodd rhanddeiliaid ato fel 'bwlch llywodraethiant amgylcheddol' gan nad yw trefniadau'r UE ar gyfer gorfodi cyfraith amgylcheddol bellach yn berthnasol yn y DU.
Mae gwledydd eraill y DU bellach wedi sefydlu cyrff llywodraethiant amgylcheddol. Mae’r methiant i wneud hynny yng Nghymru wedi ysgogi rhanddeiliaid i ddweud fod gan Gymru y strwythurau llywodraethiant amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.
Mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, ar fyrder, bil 'Natur Bositif' i gyflwyno targedau bioamrywiaeth a sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymarfer trylwyr ynghylch bioamrywiaeth, a adroddodd ym mis Hydref 2022 gydag argymhellion ar gyfer adferiad natur. Nod Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi Papur Gwyn yn ystod 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru. Yn ôl casgliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, nid yw’r mesurau interim “yn agos at fod y corff goruchwylio sy’n gweithredu’n llawn ac sydd ag adnoddau da y mae ei angen ar Gymru”.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn siomedig na roddwyd blaenoriaeth i ddeddfwriaeth i gyflawni'r ymrwymiad hwn ar gyfer 2023-24. Dywedodd:
Os na chaiff corff llywodraethu amgylcheddol cwbl weithredol ei sefydlu cyn diwedd cyfnod Llywodraeth Cymru mewn grym, bydd hynny’n fethiant anfaddeuol ar ei rhan.
Deddfu i ddileu’r defnydd o blastig untro sy’n cael ei wasgaru’n fwy cyffredin a chyflwyno cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig
Nid yw'r rhan fwyaf o blastig yn bioddiraddio, mae'n para canrifoedd mewn safleoedd tirlenwi neu'r amgylchedd naturiol, ac yn y pen draw yn torri i lawr yn ficroblastigau. Gwastraff plastig yw'r math mwyaf cyffredin o falurion morol.
Mae cynlluniau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig yn rhoi costau gwaredu deunydd pacio ar ysgwyddau’r cynhyrchydd. Nid yw’r system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer pecynwaith yn y DU ar hyn o bryd yn talu holl gostau gwaredu.
Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi cynhyrchion plastig untro sy’n cael eu taflu i’r sbwriel yn gyffredin, i ddefnyddwyr. Mae disgwyl i gyfnod cyntaf y gwaharddiad ddod i rym yr hydref hwn.
Cafwyd cynigion ar gyfer ymgynghoriad ar y cyd ar gynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig ledled y DU, i symud y gost o ymdrin â gwastraff pecynnu o gartrefi, trethdalwyr lleol a chynghorau, i'r cynhyrchwyr pecynnu. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gasglu ac adrodd ar ddata pecynnu cynhyrchwyr am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2023. Bydd y data hyn, wedyn, yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r ffioedd y bydd cynhyrchwyr Cymru yn eu talu.
Y disgwyl oedd y byddai Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig yn cael ei weithredu fesul cam o 2024 ymlaen (2023 yn wreiddiol), ond mae hyn wedi’i ohirio ymhellach, yn ddiweddar, tan fis Hydref 2025.
Creu Coedwig Genedlaethol a harneisio ei photensial economaidd, diwylliannol a hamdden fel rhan o gynnydd tuag at ddiwydiant pren cynaliadwy.
Mae i goetiroedd fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol, ond gyda dim ond 15% o orchudd coed, mae Cymru yn un o'r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop.
Targed Llywodraeth Cymru yw plannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030 (bron i 5,000 hectar y flwyddyn), gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050 (dros 6,000 hectar y flwyddyn) i helpu i gyrraedd sero net, yn gyson â chyngor gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU.
Fodd bynnag, mae cyfraddau plannu Cymru wedi bod yn wael: dim ond cyfartaledd o 428 hectar o goed newydd a blannwyd y flwyddyn yn y degawd hyd at fis Mawrth 2022.
Lansiodd y Prif Weinidog waith ar y Goedwig Genedlaethol ym mis Mawrth 2020. Ers hynny, mae mentrau wedi cynnwys dynodi 14 o goetiroedd enghreifftiol presennol a lansio’r cynllun statws Coedwig Cenedlaethol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol y byddai’n ymgynghori ar strategaeth ar gyfer y Goedwig Genedlaethol ym mis Ionawr 2022. Datgelodd gwaith craffu gan y Senedd fod Llywodraeth Cymru symud i ffwrdd o hyn, ac yn hytrach bod yn well ganddi dargedu rhanddeiliaid yn uniongyrchol a sefydlu grwpiau arbenigol.
Yn 2021, gwnaeth y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd arwain ymchwiliad trylwyr i gael gwared ar rwystrau i blannu. Roedd yr argymhellion yn cynnwys cynllun ariannu newydd a strategaeth i gydlynu cyflenwad pren ac adeiladu. Disgwylir y strategaeth ar gyfer pren erbyn diwedd 2023.
Mae coedwigaeth yn fenter hirdymor. Er bod cynnydd wedi'i wneud ar y Goedwig Genedlaethol, mae diffyg strategaeth Coedwig Genedlaethol gyhoeddedig yn ei gwneud yn anodd mesur cynnydd yn erbyn yr hyn y gallai unrhyw nodau hirdymor fod.
Cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac ymestyn y ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer.
Yn ôl Awyr Iach Cymru, llygredd aer yw'r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu, ac mae'n cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd a natur fel ei gilydd. Mae torri terfynau llygryddion dros nifer o flynyddoedd wedi dod i ben gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei dwyn i'r llys.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ym mis Mawrth 2023. Rydym wedi cyhoeddi erthygl ar y Bil. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y senedd wedi cynnal Gwaith Craffu Cam 1 a gosododd ei adroddiad ym mis Gorffennaf.
Tra bod y Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i gyflwyno Deddf Aer Glân “yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd”, nid yw’r Bil (fel y'i drafftiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dargedau ansawdd aer a osodwyd fod yn unol â Chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.
Gwnaeth llawer o randdeiliaid dynnu sylw’r Pwyllgor at hyn, a oedd yn argymell:
Dylai’r Gweinidog gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i Ganllawiau Ansawdd Aer diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd wrth osod targedau ansawdd aer.
Os bydd y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn symud i Gyfnod 2 y broses ddeddfwriaethol. Er bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gael Deddf ar y llyfr statud, nid yw ei heffaith wedi’i gweld, hyd yn hyn.
Dysgwch am y Rhaglen Lywodraethu, ei hamcanion a’i hymrwymiadau
- 1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel
- 2. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed
- 3. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
- 4. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl
- 5. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn
- 6. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi
- 7. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
- 8. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu
- 9. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt
- 10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang
Erthygl gan, Katy Orford, Chloe Corbyn, Lorna Scurlock, Elfyn Henderson a Fran Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru