Mynd i’r afael â diwylliant “wedi’i normaleiddio” o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion“

Cyhoeddwyd 21/10/2022   |   Amser darllen munudau

“Mae aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn frawychus o gyffredin”. Dyna yw prif neges Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn dilyn ei ymchwiliad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Bydd Aelodau o'r Senedd yn trafod y canfyddiadau'r Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher (26 Hydref).

Fe wnaethom ni ysgrifennu am y mater hwn ym mis Chwefror wrth i’r Pwyllgor ddechrau ar ei ymchwiliad. Roedd yn dilyn adroddiad gan yr arolygiaeth ysgolion, Estyn, i'r broblem gynyddol, a ganfu nad yw disgyblion yn gyffredinol yn dweud wrth eu hathrawon pan fydd achosion yn codi. Mae'r rhesymau'n cynnwys diffyg hyder y byddant yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod aflonyddu rhywiol wedi’i normaleiddio i’r fath raddau fel ei fod yn cael ei dderbyn yn rhy hawdd.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn i Estyn ymchwilio i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd ac o'u cwmpas. Roedd hyn yn dilyn lansio’r wefan Everyone’s Invited, a roddodd y cyfle i oroeswyr rannu eu straeon.

Ar bwy y mae hyn yn effeithio?

Gan adlewyrchu cymdeithas yn ei chyfanrwydd, mae merched yn llawer mwy tebygol na bechgyn o ddioddef aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd ac o’u cwmpas. Canfu adolygiad Estyn fod 61 y cant o ddisgyblion benywaidd wedi cael profiad personol o aflonyddu rhywiol, o gymharu â 29 y cant o ddisgyblion gwrywaidd. Roedd tystiolaeth llawer o randdeiliaid i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gosod y broblem yng nghyd-destun casineb at fenywod ar draws cymdeithas gyfan, wedi’i chwyddo gan y defnydd o bornograffi sy’n creu agweddau afrealistig ac afiach tuag at ryw a pherthnasoedd.

Mae’r broblem yn effeithio’n anghymesur ar ddisgyblion LHDTC+, gyda Stonewall Cymru yn disgrifio aflonyddu rhywiol a bwlio fel “problem enfawr”. Dywedodd Estyn fod llawer o ddisgyblion LHDTC+ yn dweud bod “bwlio homoffobig yn digwydd trwy’r amser”. Gall hyn hefyd effeithio’n arbennig ar ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Beth ddywedodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg?

Mae adroddiad y Pwyllgor yn gwneud 24 o argymhellion, gan gynnwys ymgyrch genedlaethol gan Lywodraeth Cymru i dargedu teuluoedd a staff ysgolion, yn ogystal â dysgwyr eu hunain. Nod hyn fyddai codi ymwybyddiaeth o ymddygiadau sy’n cael eu hystyried yn aflonyddu rhywiol, a grymuso disgyblion i fod yn hyderus y bydd ymddygiad o'r fath yn cael ei drin yn gywir pan fyddant yn codi llais amdano. Clywodd y Pwyllgor anghysondebau yn yr hyn sy’n cael ei ystyried yn aflonyddu rhywiol, gyda llawer o ymddygiad yn cael ei ddiystyru fel pryfocio neu dynnu coes.

Argymhellodd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn comisiynu Estyn i gynnal adolygiad tebyg mewn ysgolion cynradd, o ystyried bod aflonyddu rhywiol weithiau’n debygol o fod yn broblem ar oedran iau hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i wneud hyn a hefyd wedi comisiynu adolygiad mewn colegau.

Mae diffygion o ran casglu a dadansoddi data ar achosion o aflonyddu rhywiol. Nid yw ysgolion yn eu cofnodi fel mater o drefn ar wahân i fwlio yn fwy cyffredinol, ac nid yw awdurdodau lleol yn monitro’r data sy’n cael eu casglu cystal ag y dylent. Yn ogystal â gwell defnydd o ddata, argymhellodd y Pwyllgor fod Estyn yn ystyried pa mor dda y mae ysgolion a cholegau yn ymdrin ag aflonyddu rhywiol pan fydd yn cynnal arolygiadau arferol. 

Gyda llawer o’r aflonyddu yn digwydd ar-lein, tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd cadernid digidol a photensial y Bil Diogelwch Ar-lein yn San Steffan i reoleiddio cynnwys yn well.

Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb?

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod adroddiad Estyn yn “anodd ei ddarllen” ac yn “tynnu sylw at y gwirionedd anghyfforddus ynghylch nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn ein hysgolion”.

Roedd y Gweinidogion yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, lle gwnaethant gydnabod difrifoldeb y broblem ac amlinellu canllawiau amrywiol sydd ar waith i ddiogelu dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r broblem, ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi’n fuan iawn. Pwysleisiodd y Pwyllgor pa mor bwysig yw hi bod y cynllun gweithredu hwn yn cael ei lywio a'i ategu gan waith arall sydd eisoes ar y gweill, fel y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, y cynllun gweithredu LHDTC+ a pholisïau diogelu plant.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn 20 o 24 argymhelliad y Pwyllgor, yn derbyn tri mewn egwyddor ac yn gwrthod argymhelliad i drin aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion fel Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae’n dweud bod profiadau o’r fath “yn cyfeirio’n benodol at grŵp o ddeg ffynhonnell deuluol o adfyd a thrawma yn ystod plentyndod… sydd wedi bod yn destun ymchwil helaeth ers dros 25 mlynedd”. Fodd bynnag, mae’n ychwanegu y bydd ‘cynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod’ sydd ar y gweill yn cydnabod aflonyddu rhywiol fel rhan o brofiadau ehangach o adfyd yn ystod plentyndod.

Bydd Bwrdd Cynghori ar gyfer Pobl Ifanc yn cael ei greu i gyd-gynllunio ymateb Llywodraeth Cymru i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. Mae cryn ffydd hefyd yn cael ei roi i addysgu Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb sy'n briodol o ran datblygiad fel rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a hynny i amddiffyn pobl ifanc yn well a hyrwyddo gwell agweddau a dealltwriaeth.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Yn ogystal â’r cynllun gweithredu a drafodir uchod, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn cyhoeddi’r canlynol, a disgwylir i bob un ohonynt fod â ffocws ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion:

  • Canllawiau gwrth-fwlio wedi'u diweddaru;
  • cynllun Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod;
  • cynllun gweithredu LHDTC+; a
  • chanllawiau traws cenedlaethol statudol.

Gallwch wylio’r ddadl ddydd Mercher yn fyw ar Senedd TV, a darllen y trawsgrifiad tua 24 awr yn ddiweddarach.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru