This is a picture of a girl holding her mobile phone and appearing distressed.

This is a picture of a girl holding her mobile phone and appearing distressed.

Aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd ac o’u cwmpas: “Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon”

Cyhoeddwyd 09/02/2022   |   Amser darllen munudau

Yn gyffredinol, nid yw disgyblion yn dweud wrth athrawon pan fyddant yn profi aflonyddu rhywiol. Dyma un o ganfyddiadiau craidd adroddiad diweddar gan Estyn, a gynhyrchwyd ar ôl i Lywodraeth Cymru ofyn i’r arolygiaeth ymchwilio i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd ac o'u cwmpas.

Yn ôl Estyn, nid yw ysgolion uwchradd yn amgyffred graddfa’r broblem, ond mae disgyblion wedi dweud wrth yr arolygiaeth fod aflonyddu rhywiol yn digwydd mor rheolaidd nes ei fod wedi cael ei “normaleiddio”.

Bydd Estyn yn trafod y mater â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Senedd yfory (dydd Iau 10 Chwefror) wrth i’r Pwyllgor ddechrau cymryd tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad newydd.

Y cefndir

Mae aflonyddu rhywiol rhwng pobl ifanc wedi cael mwy o sylw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda gwefan Everyone’s Invited yn darparu llwyfan i ddioddefwyr gofnodi eu tystiolaeth a’u profiadau yn ddienw. Gall dioddefwyr enwi’r ysgol, y coleg neu’r brifysgol lle y digwyddodd, neu y deilliodd, yr aflonyddu neu'r cam-drin.

Ym mis Mehefin 2021, fe adroddwyd gan y BBC fod dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi cael eu rhestru ar y wefan. Hefyd, fe adroddwyd bod plant mor ifanc ag 11 oed yn dysgu am ryw o bornograffi. Oherwydd hyn, mae pryderon bod plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad â chynnwys rhywiol, gan gynnwys ar-lein, ac a yw hyn yn achos, neu o leiaf yn ffactor gwaethygol, o ran aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.

Beth yw canfyddiadau Estyn?

Ymwelodd Estyn â 35 o ysgolion uwchradd yn hydref 2021 a chlywodd gan 1,300 o ddisgyblion. Dyma'r prif ganfyddiadau:

  • dywed tua hanner yr holl ddisgyblion fod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a dywed tri chwarter yr holl ddisgyblion eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn;
  • mae mwyafrif o ddisgyblion benywaidd (61%) yn nodi bod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhwng cyfoedion ac mae llawer (82%) yn nodi eu bod wedi gweld eraill yn ei brofi; Mae hyn yn cymharu â chyfran is o ddisgyblion gwrywaidd (29% a 71% yn y drefn honno);
  • Mae gan ddisgyblion LHDTC+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu homoffobig geiriol, a dywed llawer ohonynt fod bwlio homoffobig yn digwydd trwy’r amser; ac
  • yn gyffredinol, nid yw disgyblion yn dweud wrth athrawon pan fyddant yn profi aflonyddu rhywiol. Mae hyn oherwydd ei fod yn digwydd mor rheolaidd ac maen nhw’n teimlo ei fod wedi cael ei normaleiddio;

Canfu Estyn fod arweinwyr ysgol, lle maen nhw’n ymwybodol o achosion o aflonyddu rhywiol, yn ymateb yn addas i gwynion ffurfiol ac yn gwneud atgyfeiriadau priodol, er enghraifft at y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu. Fodd bynnag, canfuwyd hefyd fod anghysondeb yn nealltwriaeth staff ysgol o beth yw aflonyddu rhywiol, sy'n golygu bod anghysondebau yn y ffordd y maent yn ymateb.

Yn ogystal â’r ffaith bod aflonyddu rhywiol wedi cael ei normaleiddio, mae Estyn yn nodi bod disgyblion yn peidio â dweud wrth athrawon am sawl rheswm arall:

  • nid ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus;
  • nid yw'r ysgol wedi creu diwylliant ac amgylchedd lle y gallant wneud hynny; ac
  • nid yw disgyblion yn ei weld fel rhywbeth y dylen nhw ei rannu â'u hathrawon.

Mae rhywfaint o aflonyddu rhywiol yn digwydd wyneb yn wyneb yn ystod oriau ysgol, yn fwyaf cyffredin ar ffurf heclo a sylwadau cas, sylwadau homoffobig, a sylwadau am ymddangosiad. Fodd bynnag, mae aflonyddu hefyd yn digwydd ar-lein a’r tu allan i oriau ysgol. Gall digwyddiadau ar-lein gyda'r hwyr ac ar y penwythno effeithio ar lesiant ac ymddygiad disgyblion yn ystod y diwrnod ysgol. Dywedodd athrawon wrth Estyn fod angen i rieni weithio’n agosach gyda nhw i ddelio â digwyddiadau o’r fath a bod yn gyfrifol am weithgarwch eu plant y tu allan i’r ysgol, er enghraifft ar-lein.

Mae Estyn eisoes wedi dweud wrth y Pwyllgor, ym mis Rhagfyr 2021, mai’r brif flaenoriaeth a ddylai fod:

“a recognition that peer-on-peer sexual harassment is highly prevalent in the lives of young people and that schools really need to adopt that whole-school preventative and proactive approach to dealing with it”.

Dywedodd yr arolygiaeth hefyd y dylai hyn gynnwys rhieni ac asiantaethau allanol, gan fod aflonyddu rhywiol yn broblem gymdeithasol ehangach i fwy nag ysgolion yn unig ymdrin â hi, er enghraifft materion ynghylch diogelwch a chyfrifoldeb ar-lein.

Polisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddatganiad ar y cyd ar y dydd y cyhoeddwyd adroddiad Estyn, gan ddweud ei fod yn “anodd ei ddarllen” ac yn “tynnu sylw at y gwirionedd anghyfforddus ynghylch nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn ein hysgolion”.

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chyfres o ganllawiau gwrth-fwlio i ysgolion, awdurdodau lleol, rhieni/gofalwyr, a phlant a phobl ifanc. O ogystal, mae canllawiau perthnasol eraill ar gadw plant yn ddiogel mewn lleoliadau addysgol ac ar bynciau penodol cam-drin rhywiol gan gyfoedion a rhannu delweddau noeth.

Mae canllawiau ar wahardd disgyblion yn nodi cyfrifoldebau ysgolion i fynd i’r afael ag ymddygiad disgyblion oddi ar safle’r ysgol, pan fydd dysgwr ar fusnes yr ysgol a phan nad yw ar fusnes yr ysgol lle mae’n cael effaith ar ddisgyblaeth yn yr ysgol.

Y cwricwlwm newydd i Gymru

Un o’r prif ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yw’r cwricwlwm newydd.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn elfen orfodol o’r Cwricwlwm 3-16 oed i Gymru a bydd yn cael ei dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn ffordd sy'n “briodol yn ddatblygiadol”. Mae'n disodli'r gofyniad presennol am addysg rhyw mewn ysgolion uwchradd.

O dan Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, bydd dysgwyr yn dysgu am fwy na rhyw yn yr ystyr fiolegol; dysgir am gysyniad ehangach o rywioldeb a'r hyn sy’n berthynas iach (ac afiach).

Bydd addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei harwain gan god statudol, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Rhagfyr. Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn darparu y bydd disgyblion yn dysgu am y canlynol o 7 oed:

Ymwybyddiaeth o wahanol fathau o ymddygiad niweidiol neu gamdriniol gan gynnwys camdriniaeth ac esgeulustod corfforol, rhywiol ac emosiynol, gan gynnwys aflonyddu a bwlio rhwng cyfoedion a'r rôl y gall technoleg ei chwarae.

O 11 oed, bydd disgyblion yn dysgu sut i adnabod ymddygiad niweidiol, camdriniol neu orfodol a sut i ymateb a gofyn am gymorth.

Argymhellion Estyn

Gwnaeth Estyn naw argymhelliad yn ei adroddiad. Mae nifer ohonynt yn ymwneud â gwendidau yn y ffordd y mae data’n cael eu casglu a’u ddefnyddio, megis ysgolion yn peidio â chofnodi digwyddiadau’n systematig fel achosion o aflonyddu rhywiol a gwneud “bwlio” yn rhy eang fel categori. Dywed fod hyn yn golygu na fydd gan ysgolion ddarlun cywir o ran aflonyddu rhywiol (gan gynnwys achosion homoffobig eu natur), yn wahanol i fwlio yn fwy cyffredinol.

O’r naw argymhelliad:

  • mae pedwar ar gyfer ysgolion, yn ymwneud â chydnabod y broblem, darparu cyfleoedd dysgu i ddisgyblion, casglu data, a darparu dysgu proffesiynol ar gyfer staff;
  • mae tri ar gyfer awdurdodau lleol, yn ymwneud â chasglu data a’u defnyddio, cynllunio ymyrraeth a chymorth ar faterion rhyw, a darparu dysgu proffesiynol ar gyfer staff ysgol; ac
  • mae dau ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol ar ddata a darparu canllawiau arfer gorau ac adnoddau i ysgolion.

Beth nesaf?

Mae gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg sesiwn dystiolaeth gydag Estyn yfory (dydd Iau 10 Chwefror). Gallwch chi ei gwylio ar Senedd.tv, naill ai'n fyw neu rywbryd eto, a bydd trawsgrifiad ar gael ychydig ddyddiau ar ôl y sesiwn.

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau â'i ymchwiliad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr; bydd yn cymryd tystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid ac yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, cyn holi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru