Llun uwchben o dai

Llun uwchben o dai

Mudo a phwysau tai yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/09/2026   |   Amser darllen munud

Caiff ei dderbyn yn eang bod Cymru yn wynebu argyfwng tai parhaus sy’n gysylltiedig â phrinder cyflenwad strwythurol, pwysau fforddiadwyedd, a galw mawr.

Rydym wedi paratoi papur briffio newydd sy’n amlinellu achosion presennol yr argyfwng hwn, gan gynnwys rôl mudo wrth lunio'r galw.

Yn yr erthygl hon, rydym yn crynhoi rhai o'r canfyddiadau hynny.

Cyfrifiad 2021, deiliadaeth tai, a gwlad enedigol

Cyfrifiad 2021 yw'r unig set ddata yng Nghymru sy’n cysylltu gwlad enedigol â deiliadaeth tai. Mae'n dangos bod 28.7% o breswylwyr wedi'u geni y tu allan i Gymru, gan gynnwys 6.8% wedi'u geni y tu allan i'r DU a 21.9% wedi'u geni mewn gwledydd eraill y DU, Lloegr yn bennaf.

Roedd deiliadaeth tai yn amrywio ar draws grwpiau:

  • Roedd cyfran uwch o breswylwyr yng Nghymru a gafodd eu geni yng Nghymru yn byw mewn tai cymdeithasol (17.9%) na'r rhai a gafodd eu geni yng ngwledydd eraill y DU (11.1%) neu y tu allan i'r DU (13.7%);
  • Roedd cyfran uwch o breswylwyr yng Nghymru a gafodd eu geni y tu allan i’r DU yn byw mewn tai cymdeithasol preifat (35.9%) na'r rhai a gafodd eu geni yng Nghymru (12%) neu yng ngwledydd eraill y DU (16.5%); ac
  • Roedd cyfran uwch o breswylwyr yng Nghymru a gafodd eu geni yng ngwledydd eraill y DU yn byw mewn tai sy’n eiddo i berchen-feddianwyr (70.1%) na'r rhai a gafodd eu geni yng Nghymru (67.7%) neu y tu allan i'r DU (47%).

Ymhlith y 22,054 o bobl a oedd wedi byw yn y DU am lai na dwy flynedd, roedd 68.7% yn byw mewn tai rhent preifat. Roedd y tebygolrwydd o fyw mewn tai cymdeithasol neu dai sy’n eiddo i berchen-feddianwyr yn cynyddu gyda hyd y preswyliad.

Rôl mudo yn y galw am dai

Mae’r galw am dai yng Nghymru yn cael ei lywio gan ffactorau demograffig, economaidd a chymdeithasol, gan gynnwys twf poblogaeth, cyfraddau ffurfio aelwydydd, incymau, argaeledd credyd morgais, patrymau buddsoddi, polisi lles, a disgwyliadau pobl. Mae mudo yn cyfrannu at y galw drwy gynyddu'r boblogaeth, gyda'r effeithiau ochr yn ochr â'r ffactorau ehangach hyn.

Mae twf poblogaeth diweddar yng Nghymru wedi'i ysgogi bron yn gyfan gwbl gan fudo, o ystyried poblogaeth sy'n heneiddio a chyfraddau genedigaethau sy'n gostwng. Heb fudo, byddai poblogaeth Cymru wedi gostwng tua 44,900 rhwng 2011 a 2025. Cynyddodd mudo yn sydyn o fewn y DU a’r tu allan iddi ar ôl y pandemig COVID-19, gan gyrraedd uchafbwynt yn 2022-23, cyn gostwng eto. Erbyn mis Mehefin 2025, roedd mudo rhyngwladol net ar ei lefel isaf ers 2010, gan gyfrannu at ostyngiad o 0.1% yn y boblogaeth.

Yn aml, mae ffurfio aelwydydd yn ddangosydd mwy ystyrlon o alw am dai na thwf y boblogaeth yn unig. Rhwng 2012 a 2024, cynyddodd nifer yr aelwydydd 6.0%, gan ragori ar dwf y boblogaeth. Mae hyn oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, meintiau aelwydydd llai, a mudo net.

Mae tystiolaeth ar nodweddion tai mudwyr yng Nghymru yn gyfyngedig. Mae gwaith ymchwil ledled y DU yn awgrymu bod mudwyr rhyngwladol yn fwy tebygol o fyw mewn tai rhent preifat a wynebu gorlenwi, er bod nodweddion tai yn tueddu i gydgyfeirio â rhai'r boblogaeth a gafodd eu geni yn y DU dros amser.

Mae adolygiadau annibynnol yn canfod yn gyson y gall mudo ychwanegu at y galw am dai mewn ardaloedd lle mae'r cyflenwad yn araf i ymateb. Fodd bynnag, mae’r effaith hirdymor ar brisiau tai yn gymedrol o'i gymharu â ffactorau megis twf incwm, amodau credyd, cyfraddau llog a chyfyngiadau ar gyflenwad. Amcangyfrifodd adroddiad yn 2026 gan y Pwyllgor Cynghori ar Fudo y gall mewnfudo rhyngwladol egluro tua 4-6% o gyfanswm y cynnydd ym mhrisiau tai yn y DU dros y tri degawd diwethaf.

Mae tystiolaeth gyfyngedig ar effaith mudo o wledydd eraill y DU ar brisiau tai yng Nghymru.

Ffactorau ehangach yr argyfwng tai

Mae'r argyfwng tai yn adlewyrchu'r pwysau ar ochr y cyflenwad ac ar ar ochr y galw.

Ar ochr y cyflenwad, mae degawdau o dan-adeiladu wedi gadael Cymru gyda phrinder strwythurol o gartrefi. Ar ochr y galw, nid yw twf y boblogaeth yn unig yn egluro cynnydd mewn prisiau tai, gan fod dadansoddiad yn dangos bod rhai ardaloedd â thwf poblogaeth araf wedi profi cynnydd sydyn serch hynny.

Mae dadl academaidd yn aml yn canolbwyntio ar ddau esboniad amlwg dros yr argyfwng tai:

  • dan arweiniad cynllunio: yn dadlau bod rheolau cynllunio yn creu costau ychwanegol; a
  • dan arweiniad cyllidoli: yn dadlau bod costau'n cael eu chwyddo gan y ffordd y caiff tai eu trin fel ased ariannol.

Mae astudiaethau eraill yn tynnu sylw at bwysau sy'n gysylltiedig â lles a thlodi, dirywiad tai cymdeithasol, a dosbarthiad y stoc bresennol.

Y prif beth i’w ddysgu yw nad yw’r argyfwng tai yn un broblem gydag un ateb. Mae’n set o systemau cysylltiedig y mae'n rhaid eu deall a'u datrys gyda'i gilydd.

Digartrefedd ceiswyr lloches a ffoaduriaid

Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cynrychioli cyfran fach o fudwyr, ond tynnodd gwaith craffu yn y Chweched Senedd sylw at sut mae dyluniad y system loches, trefniadau symud ymlaen, a bylchau data yn creu pwysau penodol ar awdurdodau lleol Cymru.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2026, roedd 3,391 o geiswyr lloches yn derbyn cymorth yng Nghymru, yn bennaf mewn llety gwasgaru a gafwyd ac a reolir gan Clearsprings Ready Homes o dan gontract i'r Swyddfa Gartref. Mae awdurdodau lleol wedi adrodd pryderon ynghylch arferion cyrchu, effeithiau ar y sector rhentu preifat, ymgysylltiad cymunedol cyfyngedig a bylchau mewn gwybodaeth ddiogelu.

Er nad oes unrhyw ffigurau cenedlaethol wedi’u cyhoeddi ar ddigartrefedd ffoaduriaid, mae un o bwyllgorau’r Chweched Senedd wedi clywed tystiolaeth bod y rhan fwyaf o ffoaduriaid yn profi digartrefedd ar ôl cael caniatâd i aros. Mae awdurdodau lleol yn tynnu sylw at bwysigrwydd pwysau ychwanegol sy’n gysylltiedig â mentrau Llywodraeth y DU i gyflymu ceisiadau am loches.

Beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud?

Mae rhai academyddion wedi disgrifio'r argyfwng tai fel ‘problem ddrwg’ gyda nifer o unigolion mewn ‘status quo’ niweidiol. Mae tensiynau rhwng buddiannau'r rhai nad ydynt yn berchen ar asedau tai a'r rhai sy'n berchen ar asedau tai. Mae hyn yn cyflwyno cyfres o heriau anodd i lywodraethau.

Ymhlith y ffactorau sy'n sbarduno'r argyfwng tai a nodwyd yn y briff hwn, mae gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar ganlyniadau tai gryfaf ar ochr y cyflenwad. Drwy bolisi cynllunio, cynulliad tir, buddsoddi mewn tai cymdeithasol, rheoleiddio'r sector rhentu preifat, a chyllid ar gyfer digartrefedd a gwasanaethau cymorth, gall lunio'r hyn sy'n cael ei adeiladu, ble, ac am ba bris.

Mewn cyferbyniad, mae’r prif ffactorau o ran galw – cyfraddau llog, marchnadoedd morgeisi, polisi lles, rheolau mewnfudo, a'r amgylchedd macro-economaidd ehangach – yn nwylo Llywodraeth y DU i raddau helaeth.

Gall polisi Cymru ail-lunio'r cyflenwad dros amser, ond ni all reoli'n llawn y pwysau galw sy'n rhyngweithio ag ef.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru