"Menywod yw’r rhai sy’n lleddfu ergyd tlodi": Effaith costau byw ar fenywod

Cyhoeddwyd 26/10/2022   |   Amser darllen munud

Mae costau byw yn parhau i gael lle blaenllaw yn y penawdau, gyda rhagolygon o aeaf "llwm" o'n blaenau. Wrth i gostau bob dydd barhau i godi, rhagwelir y bydd llawer o bobl ledled Cymru yn profi gostyngiad mewn safonau byw, ac eto i gyd, ni fydd yr effaith yn cael ei theimlo'n gyfartal.

Gan adeiladu ar erthyglau blaenorol a oedd yn edrych ar gostau byw, mae'r erthygl hon yn edrych ar ei effaith ar fenywod, yn tynnu sylw at y rhesymau pam mae menywod yn arbennig o agored i’r cynnydd mewn costau byw a pha gamau sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Costau byw cynyddol: pwy sy’n wynebu'r perygl mwyaf?

Canfu'r adroddiad diweddaraf yng 'nghyfres Cipolwg ar Dlodi’ Sefydliad Bevan fod un o bob pum aelwyd yng Nghymru sydd ag incwm o dan £20,000 yn aml yn cael trafferth fforddio eitemau bob dydd. Mewn cymhariaeth lwyr, dywedodd mwyafrif yr aelwydydd sydd ag incwm o dros £30,000 fod ganddynt ddigon o arian i dalu costau bob dydd. I'r aelwydydd hynny sy'n cael budd-daliadau, mae cost eitemau bob dydd yn frwydr, gyda 38 y cant o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd fforddio eitemau bob dydd.

Mae rhai grwpiau o fewn cymdeithas yn fwy tebygol o berthyn i aelwydydd sydd ag incwm is na'r cyfartaledd, sy’n fwy tebygol o brofi tlodi ac sydd felly mewn mwy o berygl o ddioddef yn sgil y cynnydd mewn costau byw.

Pam mae menywod yn "fwy tebygol o fod yn dlawd"?

Dywed y Grŵp Cyllideb Menywod fod menywod yn fwy tebygol o fod yn dlawd. Maent yn dadlau mai menywod yw’r rhai sy’n lleddfu ergyd tlodi, gan mai nhw sy’n tueddu i fod â’r cyfrifoldeb am brynu bwyd a rheoli cyllidebau aelwydydd tlawd. O ganlyniad, maent yn dweud eu bod wedi cael eu taro’n galetach gan doriadau i nawdd cymdeithasol, ac oherwydd cyflogau ac arbedion is, maent yn llai parod i wynebu'r cynnydd mewn costau byw.

Mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan y Living Wage Foundation ar gyflwr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yn dangos mai swyddi sy'n cael eu cyflawni gan fenywod sy'n cyfrif am bron i 60 y cant (59.7 y cant)... o’r holl swyddi sy'n cael eu talu islaw'r Cyflog Byw. Mae'n dweud bod rolau â chyflogau isel mewn ystod o sectorau, gan gynnwys gwaith gofal, y celfyddydau, adloniant a hamdden, gwasanaethau bwyd a llety yn cael eu cyflawni gan fenywod yn bennaf.

Yn ei Gerdyn Sgôr Ffeministaidd 2022, dywed Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac Oxfam:

Ehangodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 11.8 y cant yn 2020 i 12.3 y cant yn 2021 a hynny oherwydd cynnydd mwy yng nghyflogau fesul awr dynion. Nid yw'r un peth yn wir ar hyd a lled y DU gyfan.

Mewn papur briffio ym mis Medi 2022, dadl Chwarae Teg yw bod gofal plant yn "dylanwadu’n sylweddol ar waith cyflogedig menywod" ac yn aml yn siapio "a ydyn nhw [menywod] mewn gwaith, yr oriau maen nhw’n eu gweithio a'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw i gamu ymlaen yn eu gyrfa".

Effeithiau chwyddiant ar fenywod (“she-flation")

Er bod menywod yn fwy tebygol o fod yn dlotach, mae gwaith ymchwil yn awgrymu eu bod hefyd yn fwy agored i gynnydd mewn chwyddiant. Mae’r Living Wage Foundation yn cyfeirio at effeithiau chwyddiant ar fenywod ("she-flation"), gan ddadlau fod menywod, yn nodweddiadol, yn fwy agored i anwadalwch a achosir gan chwyddiant gan eu bod yn aml yn gwario mwy o’u hincwm ar nwyddau ar gyfer y cartref fel bwyd Rhan o'r cynnydd mewn costau byw fu prisiau bwyd, sydd wedi codi ar eu cyfradd gyflymaf mewn 42 mlynedd; gan gynyddu 14.6 y cant yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi.

Dywed y New Economics Foundation y bydd aelwydydd ag un oedolyn benywaidd yn gweld costau'n cynyddu £1,400 (6 y cant o'r incwm) ar gyfartaledd o'i gymharu â £1,110 (4 y cant o'r incwm) ar gyfer aelwydydd un oedolyn gwrywaidd. Mae hyn yn golygu bod menywod yn cael eu heffeithio 1.5 gwaith yn fwy na'u cymheiriaid gwrywaidd ar gyfartaledd.

A yw rhai menywod mewn mwy o berygl?

Mae’r effeithiau’n debygoI o fod hyd yn oed yn fwy difrifol i fenywod sydd â nodweddion gwarchodedig eraill, yn enwedig menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod anabl a'r rhai sy'n unig riant.

Mae dadansoddiad gan y New Economics Foundation yn canfod y canlynol:

Single female and black, Asian or other ethnic minority (BAME) households are experiencing costs that are 50% higher than their male and white counterparts (respectively) as a portion of their income.

Yng Nghymru, aelwydydd unig riant oedd y "math o deulu a oedd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi cymharol (46 y cant)". Menywod sydd yn y rhan fwyaf o'r aelwydydd hyn.

Cymorth costau byw: a yw merched yn elwa?

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amryw o gynlluniau cymorth a thaliadau costau byw untro sy'n ceisio lleddfu rhywfaint ar y pwysau ariannol sy'n wynebu teuluoedd. Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn ar gael ar ein tudalen costau byw - cymorth a gwybodaeth.

Er bod cymorth ariannol wedi cael ei groesawu, mae pryderon nad oes digon o gymorth wedi'i dargedu yn cael ei roi i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys menywod, ac mae galwadau am i fwy gael ei wneud i atal anghydraddoldebau rhag lledu. Er enghraifft mae'r grŵp cyllideb menywod wedi dweud na fydd taliadau untro yn ddigon i atal miliynau o aelwydydd rhag syrthio i dlodi. Mae'n galw am gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant.

Rhanddeiliaid yngalw am ragor o weithredu

Oherwydd bod menywod yn fwy tebygol o ddibynnu ar nawdd cymdeithasol ar gyfer rhan fwy o’u hincwm, mae’r Grŵp Cyllideb Menywod a Chwarae Teg yn dadlau bod angen gweithredu i gryfhau'r system, gan gynnwys cynyddu budd-daliadau i gyd-fynd â chwyddiant.

Ychwanega Chwarae Teg y gellir gweithredu yng Nghymru ac mae’n dadlau:

Dylid cyflymu gwaith i ddod chynlluniau cymorth prawf modd at ei gilydd mewn system fudd-daliadau Cymreig. Dyld ystyried llinell gymorth costau byw i ddarparu siop un stop ar gyfer cyngor ar yr holl gymorth sydd ar gael, a gellid lleihau’r pwysau ar incwm aelwydydd ymhellach drwy gyflwyno gofal plant am ddim i blant dan 2 yn gyflymach a chamau i reoleiddio neu rewi rhenti yn y sector rhentu preifat.

Maent hefyd yn ailadrodd llawer o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ar gostau byw.

Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn dadlau bod angen i Lywodraeth Cymru "gymryd camau gweithredu ystyrlon i gyflawni’r targed i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (llawn amser) i 7 y cant erbyn 2028".

Mae Chwarae Teg hefyd yn rhybuddio am niwed ehangach costau byw a dywed ei fod:

... yn gadael rhai menywod mewn mwy o berygl o gam-drin domestig a thrais. Nid yw cam-drin ariannol yn anghyffredin, ac mae sefydliadau trais yn erbyn menywod eisoes yn adrodd bod yr argyfwng yn cael ei ddefnyddio fel arf o reolaeth orfodol a bod rhai menywod yn cael eu hatal rhag gadael perthnasoedd camdriniol o ganlyniad.

Rhagwelir y bydd costau byw’n parhau i fod yn broblem drwy gydol y gaeaf a thu hwnt. Mae rhanddeiliaid yn dadlau bod angen cymorth wedi'i dargedu i helpu menywod a'u plant i ymdopi yn y tymor byr ond mae angen gweithredu pellach hefyd i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio ac sy'n parhau.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru