Meithrin perthnasoedd da: Fforwm Rhyngseneddol y DU yn cyfarfod am yr eildro

Cyhoeddwyd 03/11/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Seneddwyr o bob rhan o’r DU wedi cyfarfod yn y Senedd ar gyfer ail gyfarfod y Fforwm Rhyngseneddol.

Roedd aelodau o ddau Dŷ Senedd y DU, yn ogystal â Senedd yr Alban a Senedd Cymru yn cyfarfod ddydd Gwener 28 Hydref i drafod materion allweddol megis Protocol Gogledd Iwerddon, cysylltiadau rhynglywodraethol a chyfraith yr UE a ddargedwir.

Beth yw’r Fforwm Rhyngseneddol?

Ers creu deddfwrfeydd datganoledig yn y DU ar ddiwedd y 1990au, cafodd cysylltiadau rhwng seneddau yn y DU eu datblygu mewn modd ad hoc, ac yn gyffredinol maent wedi bod yn weddol gyfyngedig o ran pa mor aml y cânt eu cynnal a’u cwmpas.

Yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016, galwodd pwyllgorau dethol o bob un o ddeddfwrfeydd y DU am fwy o strwythurau rhyngseneddol a rhai mwy ffurfiol. Cafodd meysydd polisi datganoledig a oedd arfer bod yn ddarostyngedig i gyfraith yr UE, fel adrannau mawr o gyfraith amgylcheddol, eu trosglwyddo i lefel genedlaethol. Roedd hyn yn creu posibilrwydd o ymwahanu pellach rhwng gwledydd y DU. Sefydlwyd nifer o fentrau rhynglywodraethol i reoli’r ymwahanu posibl hwn, gan gynnwys Fframweithiau Cyffredin a’r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol.

Fframweithiau Cyffredin

Cytundebau rhwng y DU a llywodraethau datganoledig ar sut i reoli ymwahanu mewn rhai meysydd polisi a arferai gael eu llywodraethu neu eu cydlynu ar lefel yr UE. Mae meysydd polisi sy’n destun Fframweithiau Cyffredin yn cynnwys caffael cyhoeddus, iechyd a lles anifeiliaid, cymorth amaethyddol, cemegau, a diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd.

Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol

Cytundeb newydd ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022. Mae’n disodli’r Cydbwyllgor Gweinidogion, a gafodd ei feirniadu gan rai, gan gynnwys cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, am adael y cyfrifoldebau penderfynu terfynol gyda Llywodraeth y DU. Mae’r cytundeb newydd yn creu tair haen newydd ar gyfer ymgysylltu rhyngweinidogol, yn ogystal â phroses datrys anghydfod newydd. Bydd ganddo hefyd ei ysgrifenyddiaeth annibynnol ei hun.

Ynghyd â strwythurau rhynglywodraethol newydd, galwodd seneddwyr hefyd am weithio rhyngseneddol newydd i graffu ar lywodraethau. Yn 2017, argymhellodd Pwyllgor UE Tŷ’r Arglwyddi y dylid cryfhau’r strwythurau ar gyfer deialog a chydweithredu rhyngseneddol. Arweiniodd hyn at greu’r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit.

Cyfarfu’r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit wyth gwaith rhwng 2017 a 2019, ond collodd fomentwm yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol y DU 2019 ac yn ystod pandemig y coronafeirws.

Yn dilyn trafodaethau rhwng yr Arglwydd Lefarydd a Llefarwyr a Llywyddion Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban a Senedd Cymru, cyfarfu iteriad newydd o’r Fforwm am y tro cyntaf yn Nhŷ’r Arglwyddi ym mis Chwefror 2022. Mewn datganiad ar y cyd, disgrifiodd y Fforwm ei gyfarfod cyntaf fel cychwyn pwysig i’r deialog a chydweithredu hanfodol rhwng seneddwyr.

Beth gafodd ei drafod yn ail gyfarfod y Fforwm?

Croesawodd y Senedd gynrychiolwyr o bwyllgorau’r Tŷ’r Arglwyddi, Tŷ’r Cyffredin a Senedd yr Alban ar gyfer ail gyfarfod y Fforwm ar 28 Hydref. Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad oedd yn cadeirio’r cyfarfod.

Ar ôl croeso gan y Llywydd, trafododd yr aelodau oblygiadau Biliau’r DU ar Brotocol Gogledd Iwerddon a chyfraith yr UE a ddargedwir, yn ogystal â’r cytundeb newydd ar gysylltiadau rhynglywodraethol a Chonfensiwn Sewel.

Cyhoeddodd y Fforwm ddatganiad yn dilyn eu trafodaethau sy’n cydnabod y pryder cynyddol ar draws pob un o’n deddfwrfeydd mewn perthynas â chwmpas pwerau dirprwyedig yn neddfwriaeth y DU sy’n ymwneud ag ymadael â’r UE.

Bu Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol, yn annerch y Fforwm gan nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ar faterion fel Sewel.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae’r Fforwm yn debygol o gyfarfod eto yn ystod gwanwyn 2023. Mae cyfarfodydd rhynglywodraethol o dan y cytundeb newydd yn debygol o ailddechrau’n fuan, ar ôl i sawl cyfarfod gael eu canslo yn gynharach yn yr hydref.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru