Meithrin Cysylltiadau’r Dyfodol: Y Senedd i groesawu cyfarfod cyntaf Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd yn y DU - Grŵp Cyswllt y DU

Cyhoeddwyd 17/03/2022   |   Amser darllen munudau

Ar 17-18 Mawrth, mae cyfarfod o gynrychiolwyr a sefydliadau'r DU a'r UE yn cael ei gynnal yn y Senedd.

Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd (CoR) yw llais rhanbarthau a dinasoedd yn yr UE. Mae'n cynrychioli awdurdodau lleol a rhanbarthol ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Cyn i'r DU ymadael â’r UE, roedd y Senedd yn anfon dau Aelod i'r sefydliad.

Ar ôl i'r DU ymadael yr UE a chyda diwedd cyfnod pontio Brexit yn agosáu, lansiodd y Pwyllgor Grŵp Cyswllt rhwng ei aelodau a sefydliadau'r DU a oedd yn aelodau cyn Brexit. Nod y Grŵp Cyswllt yw cadw cysylltiadau ar gyfer y dyfodol.

Dydd Gwener, y Senedd fydd y sefydliad cyntaf yn y DU lle cynhelirl cyfarfod o'r grŵp hwn. Dyma fydd chweched cyfarfod y Grŵp ers ei ffurfio.

Mae'r erthygl hon yn crynhoi rôl y grŵp a'i aelodaeth, gan gynnwys sut y cynrychiolir y Senedd. Mae'n ystyried yr hyn y gellid ei drafod yn y cyfarfod sydd ar y gweill a chyfeirio at lle i gael rhagor o wybodaeth.

Beth yw Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd?

Mae Pwyllgor y Rhanbarthau Ewropeaidd ('CoR') yn gynulliad gwleidyddol sy'n cynnwys 329 o aelodau a 329 o eilyddion o holl wledydd yr UE. Mae'r Aelodau wedi’u grwpio yn ôl plaid wleidyddol ac yn cael eu harwain gan Llywydd a etholwyd ar lefel leol neu ranbarthol, megis Maer neu Lywyddion rhanbarth.

Ym mis Medi 2020, cafodd Grŵp Cyswllt Pwyllgor y Rhanbarthau yn y DU ei lansio.

Beth mae'r Grŵp Cyswllt yn ei wneud?

Mae'r Grŵp yn gweithredu fel man lle gall cynrychiolwyr y DU a'r UE:

  1. Parhau â deialog a phartneriaeth wleidyddol, gan gynnwys cyfnewid barn ar faterion trawsffiniol;
  2. Trafod problemau neu gyfleoedd sy'n codi yn dilyn ymadawiad y DU, gan gynnwys cytundebau newydd y DU a'r UE a chyfleoedd i gydweithio mewn meysydd fel ymchwil, datblygu economaidd, twristiaeth a masnach; a
  3. Trafod deddfwriaeth yr UE sy'n effeithio arnynt, hyd yn oed ar ôl i'r DU ymadael â’r UE.

Pwy yw ei aelodau?

Cadeirydd y Grŵp yw Llywydd Llydaw, Loïg Chesnais-Girard ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o:

  • Nifer o Aelod-wladwriaethau’r UE, gan gynnwys Gwlad Belg, Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Pwyl, yr Almaen, yr Iseldiroedd, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Sbaen a Phortiwgal;
  • Deddfwrfeydd datganoledig y DU a rhai llywodraethau;
  • Llywodraeth a senedd Gibraltar;
  • Cynulliad Llundain a Maer Llundain; a
  • Sefydliadau llywodraeth leol o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cynrychiolir y Senedd gan Alun Davies AS a Laura Anne Jones AS.

Beth i'w ddisgwyl yn y Senedd ddydd Gwener

Bydd y Grŵp yn clywed gan amrywiaeth o siaradwyr uchel eu proffil, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Dirprwy Lywydd y Senedd, seneddwyr y DU a'r UE a dirprwyaeth yr UE i'r DU.

Disgwylir iddynt drafod materion fel:

  • ymgysylltiad y Senedd ag Ewrop yn y dyfodol;
  • rôl Cymru a Llywodraeth Cymru wrth roi’r cytundeb masnach newydd rhwng y DU a’r UE ar waith;
  • ymgysylltu rhwng deddfwrfeydd yn y DU a Senedd Ewrop ar ôl Brexit;
  • Y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol a sut y gellid cryfhau'r berthynas rhwng rhanbarthau ac awdurdodau'r DU a rhanbarthau ac awdurdodau'r UE yn y dyfodol.

Mae materion eraill, megis Protocol Gogledd Iwerddon a hawliau dinasyddion, hefyd yn debygol o godi. Gallwch ddysgu mwy am yr holl bynciau hyn isod:

Sut mae’r DU a’r UE yn gwneud penderfyniadau ar ôl Brexit?

Cytunodd y DU a'r UE ar ffyrdd newydd o weithio ar ôl Brexit mewn dau gytundeb – y Cytundeb Ymadael a'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu cynulliad seneddol ar y cyd rhwng Senedd Ewrop a Senedd y DU. Mae ein herthygl esboniadol yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn cael eu cynrychioli.

Wcráin

Cynhaliodd Pwyllgor y Rhanbarthau ei Uwchgynhadledd Marseille o ranbarthau a dinasoedd ar 3-4 Mawrth, a chafwyd "undod cyffredinol" i Wcrain. Addawodd yr Aelodau gymorth dyngarol a chefnogaeth i weinyddiaethau lleol a rhanbarthol Wcrain, a gymerodd ran yn y cyfarfod drwy alwad uniongyrchol o Kyiv. Roeddent yn galw am gymorth "nawr, nid mewn 10 neu 20 diwrnod".

Mae ein herthyglau diweddar yn crynhoi ymateb y Senedd ac ymateb Cymru i'r argyfwng dyngarol

Hawliau dinasyddion y DU ac Ewrop

Mae materion hawliau dinasyddion y DU a'r UE yn parhau oherwydd gwahanol ddehongliadau o'r Cytundeb Ymadael. Mae'r DU a'r UE yn cwrdd yn rheolaidd i drafod hawliau dinasyddion. Cynhelir cyfarfodydd yng Nghyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael a'i Bwyllgor Arbenigol ar Hawliau Dinasyddion. Nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i’r rhain, ond mae’n cwrdd bob pythefnos â Llywodraeth y DU i drafod y Pwyllgor hwn.

Mae ein herthygl ddiweddar yn dangos sut mae dros 100,000 o ddinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru wedi gwneud cais i aros.

Cyllid ar ôl Brexit

Yn ddiweddar galwodd Pwyllgor y Rhanbarthau ar yr UE i gynyddu ei gyllid a fwriadwyd i liniaru effaith ymadawiad y DU â’r UE. Mae hon yn 'Gronfa Addasu Brexit' gwerth €5 biliwn. Galwodd Pwyllgor y Rhanbarthau am gynyddu'r gronfa i €6 biliwn, ac i awdurdodau lleol a rhanbarthol fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r mesurau a gymerir.

Mae ein herthygl ddiweddar yn esbonio uchelgais Llywodraeth y DU i 'godi’r gwastad’ mewn gwahanol rannau o'r DU a sut mae ei chynigion yn rhyngweithio â datganoli yng Nghymru.

Erthygl gan Nia Moss a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru