Athrawon cyflenwi: beth sydd nesaf?

Cyhoeddwyd 02/12/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dweud y dylid dod ag athrawon cyflenwi yn ôl yn 'fewnol', neu o leiaf o dan reolaeth a darpariaeth ddemocrataidd leol. Mae'r Cytundeb yn nodi fel a ganlyn:

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu opsiynau ar gyfer model mwy cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi, gyda gwaith teg wrth wraidd y model hwnnw. Bydd y model yn cynnwys opsiynau amgen a arweinir gan yr awdurdodau lleol a chan yr ysgolion.

Bydd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg a Addysg, yn gwneud datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth 6 Rhagfyr, lle bydd disgwyl iddo nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiad hwn.

Sut mae athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd?

Pan fydd athro yn absennol, mae angen i ysgolion sicrhau bod unrhyw wersi a gollwyd yn cael eu cyflenwi. Maent yn aml yn defnyddio athrawon cyflenwi i lenwi'r bwlch hwn. Gall ysgolion gyflogi athrawon yn uniongyrchol neu ddefnyddio asiantaeth gyflenwi fasnachol.

Yn gyffredinol, caiff athrawon cyflenwi sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan yr ysgol neu gan yr awdurdod lleol eu talu’n unol â’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, fel athrawon ysgol eraill.

Os yw athrawon cyflenwi yn gweithio drwy asiantaethau cyflenwi masnachol, cânt eu cyflogi gan yr asiantaeth ac nid ydynt o reidrwydd yn cael yr un telerau ac amodau ag athrawon ysgol eraill.

Mae Ystadegau Cyngor y Gweithlu Addysg yn dangos, yn 2021, bod 77 y cant o athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi drwy asiantaeth a bod 22 y cant yn cael eu cyflogi drwy awdurdod lleol.

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn rhan o gytundebau fframwaith  ar gyfer cyflogi staff asiantaeth. Daeth y fframwaith diweddaraf yn weithredol ym mis Medi 2019. Mae gan y contract presennol nifer o wahaniaethau o gymharu â rhai cynharach, gan gynnwys cyflwyno isafswm cyfradd cyflog dyddiol ar gyfer athrawon cyflenwi yn unol â'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol gyfredol. Er bod pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i’r cytundeb fframwaith, mae ysgolion yn rhydd i gyflogi athrawon cyflenwi fel y mynnant, a hynny drwy asiantaeth sy’n rhan o’r cytundeb, asiantaeth gyflenwi wahanol neu drwy gyflogaeth uniongyrchol neu awdurdod lleol.

Beth mae Pwyllgorau blaenorol y Senedd wedi’i ganfod am athrawon cyflenwi?

Fe wnaeth ymchwiliad Pwyllgor y Senedd yn 2015 edrych ar ystod o faterion yn ymwneud ag athrawon cyflenwi, gan gynnwys yr effaith bosibl ar ddeilliannau disgyblion, dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon cyflenwi a’r defnydd o asiantaethau cyflenwi.

Fe wnaeth y Pwyllgor argymell bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, gan gynnwys trefniadau clwstwr a weithredir gan awdurdodau lleol neu drwy gorff cenedlaethol.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad drwy sefydlu Tasglu Gweinidogol y Model Cyflenwi Athrawon. Fe wnaeth adroddiad y Tasglu (Chwefror 2017) argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflogi athrawon cyflenwi yng nghyd-destun trefniadau partneriaethau cymdeithasol presennol. Dywedodd y dylai unrhyw opsiynau a awgrymir yn y dyfodol gynnwys archwilio model cydweithredol ar sail ranbarthol, a allai gynnwys awdurdodau lleol, consortia addysg rhanbarthol, Sefydliadau Addysg Uwch ac ysgolion.

Fe wnaeth Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, dderbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad, ond dywedodd fod angen gwaith manwl pellach i weld a fyddai modd cyflawni'r holl argymhellion yn gyfreithiol. Dywedodd fod yr argymhellion yn ymwneud â rheoleiddio ansawdd asiantaethau cyflenwi a model cydweithredol yn codi 'cwestiynau cyfreithiol cymhleth ac o ran polisi'.

Trafododd Pwyllgor Deisebau'r Bumed Senedd ddeiseb a oedd yn galw am i athrawon cyflenwi gael eu talu’n deg a chael mynediad llawn at gyfleoedd hyfforddi a thelerau ac amodau eraill. Argymhellodd y Pwyllgor (Mawrth 2021):

…dylai Llywodraeth nesaf Cymru ystyried ymhellach drefniadau amgen ar gyfer cefnogi ysgolion i ddod o hyd i athrawon cyflenwi a’u cyflogi, gan gynnwys cyflogaeth uniongyrchol a chyflwyno trefniadau cyflenwi canolog neu ranbarthol. Rydym o’r farn y byddai gan ddatrysiad sector cyhoeddus fanteision sylweddol dros y model cyfredol.

Yn ei hymateb, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru fod y Tasglu wedi dweud na allai argymell un model cyflawni a fyddai’n briodol i Gymru. Fodd bynnag, dywedodd y byddai'n ystyried adolygiad annibynnol pellach ynghylch cyflogi athrawon cyflenwi, a hynny i lywio unrhyw gynigion ar gyfer modelau cyflenwi posibl eraill.

Pa opsiynau eraill sydd wedi'u treialu?

Sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot ar gyfer cyflogi athrawon newydd cymwysedig (ANC) i weithio fel athrawon cyflenwi mewn clystyrau o ysgolion. Dyrannwyd £2.7 miliwn dros ddwy flynedd ac roedd 18 clwstwr o ysgolion mewn 15 awdurdod lleol yn rhan o hyn. Canfu gwerthusiad y cynllun ei fod wedi galluogi ysgolion i weithio gyda'i gilydd i gynllunio a gweithredu ystod o drefniadau arloesol i fynd i'r afael â chyflenwi absenoldeb athrawon. 

Canfu gwerthusiad dilynol (2020), a oedd yn cynnwys 14 o’r 18 clwstwr, fod dau o’r naw arweinydd clwstwr a ymatebodd i’r arolwg wedi parhau â’r prosiect am drydedd flwyddyn. Canfu hefyd fod clystyrau wedi nodi mai costau neu rwystrau ariannol oedd y prif reswm dros beidio â pharhau â’r prosiect.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n parhau i hyrwyddo'r model hwn i ysgolion ac awdurdodau lleol fel ei gilydd.

Beth sy'n digwydd yng ngwledydd eraill y DU?

Yn yr Alban, caiff yr holl athrawon cyflenwi sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir eu cyflogi gan awdurdodau lleol fel rhan o gronfa gyflenwi, a’u talu’n unol â Llawlyfr Amodau Gwasanaeth Pwyllgor Negodi’r Alban ar gyfer Athrawon (SNCT). Mae’r SNCT yn gorff teiran sy’n cynnwys aelodau o sefydliadau addysgu, awdurdodau lleol, a Llywodraeth yr Alban.

Yn Lloegr, mae’r sefyllfa’n debyg i Gymru, lle gall ysgolion gyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau neu drwy gyflogaeth uniongyrchol. Ceir cytundeb fframwaith hefyd rhwng y sefydliad caffael cyhoeddus, sef Gwasanaeth Masnachol y Goron,  a chyflenwyr dethol sy'n darparu staff dros dro. 

Yng Ngogledd Iwerddon, ceir model canoledig sy'n cynnwys system archebu athrawon ar-lein wedi'i rhwydweithio a chofrestr o athrawon cyflenwi sy’n gweithredu ar draws y mwyafrif o ysgolion. Dim ond athrawon cyflenwi sydd ar Gofrestr Athrawon Cyflenwi Gogledd Iwerddon sy'n gallu gweithio dros dro mewn ysgolion sy'n derbyn cymorth grant.

Awgrymwyd system Gogledd Iwerddon i’r Pwyllgor Deisebau fel model arfaethedig ar gyfer Cymru. Fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd ddweud wrth y Pwyllgor Deisebau yn 2019 mai mater i benaethiaid unigol a'u cyrff llywodraethu yw'r cyfrifoldeb statudol am staffio a lleoli staff mewn ysgolion. Fel y cyfryw, nid oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i orfodi’r defnydd o system ganolog.

Sut i ddilyn y ddadl

Mae datganiad y Gweinidog wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 6 Rhagfyr 2022. Caiff y Cyfarfod Llawn ei ddarlledu ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar Gofnod Trafodion y Senedd.

Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru