Mapio mynediad at wasanaethau bancio

Cyhoeddwyd 26/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/02/2021   |   Amser darllen munud

Mae pandemig y Coronafeirws yn cyflymu newidiadau i’r ffordd yr ydym yn talu am nwyddau a gwasanaethau. Mae nifer y cyfleusterau sy'n darparu mynediad at arian parod yn gostwng wrth i ganghennau banc a pheiriannau ATM barhau i gau. Mae adroddiadau yn y cyfryngau hefyd yn trafod cynnydd i derfynau o ran talu â chardiau digyswllt a bod rhai busnesau yn gwrthod cymryd taliadau arian parod.

Roedd ymchwiliad diweddar i fynediad at fancio gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd yn edrych yn fanwl ar y ddarpariaeth banciau, cymdeithasau adeiladu a pheiriannau ATM sy’n lleihau. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu a gwella mynediad at arian parod ac i:

… fapio’r bylchau mewn gwasanaethau bancio yn gyffredinol - mynediad at fanciau, Swyddfeydd Post, peiriannau ATM rhad ac am ddim i’w defnyddio a chysylltedd ar gyfer bancio digidol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor a nododd y byddai angen dull gweithredu sy’n cynnwys llawer o randdeiliaid.

Patrwm daearyddol cyfnewidiol bancio manwerthu

O dan Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd, bu’r Athro Cyswllt Mitchel Langford o Brifysgol De Cymru yn edrych yn fanwl ar sut y gall y technolegau mapio digidol diweddaraf arwain at well dealltwriaeth o’r ddarpariaeth bancio manwerthu yn ddaearyddol. Cyhoeddwyd yr adroddiad llawn, sef Edrych yn fanwl ar batrymau daearyddol tirwedd newidiol gwasanaethau bancio manwerthu yng Nghymru (PDF, 3.09 MB) fel papur ymchwil Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ac yn cyd-fynd ag ef roedd mapiau cysylltiedig.

Dulliau traddodiadol ar gyfer mesur gwasanaeth a ddarperir

Mae'r gwaith ymchwil yn tynnu sylw at gyfyngiadau dulliau dadansoddi traddodiadol wrth ystyried dirywiad darpariaeth canghennau. Yn draddodiadol, y ddau ddull a ddefnyddiwyd oedd 'pellter y rhwydwaith' a'r 'dull cynhwysydd'.

Mae Pellter y rhwydwaith yn adrodd ar y pellter teithio rhwng canolfan â phoblogaeth eithaf sylweddol a'i banc neu gymdeithas adeiladu agosaf. Mae'r mapiau hyn yn dangos, er bod y pellter teithio cyfartalog wedi cynyddu o 2.8km yn 2008 i 3.8km yn 2018, mae'n ymddangos bod y codiadau mwyaf wedi'u crynhoi mewn cymunedau gwledig.

Pellter teithio i'r gangen agosaf, a phellter uwch fesul etholaeth, 2008-2018

Tri map. Mae'r map cyntaf yn dangos y pellter teithio i'r gangen banc agosaf yn 2008, mae'r ail fap yn dangos y pellter teithio i'r gangen banc agosaf yn 2018 ac mae'r trydydd map yn dangos y gwahaniaeth rhwng y pellteroedd teithio yn 2008 a 2018

Mae pellter y rhwydwaith yn syml ac yn reddfol ond nid yw'n ystyried cydbwysedd o ran y cyflenwad â’r galw mewn ardal leol. Gall hyn atal y dull rhag nodi ardaloedd â mynediad cymharol wael mewn ardaloedd trefol, lle gall canghennau fod yn agos yn gorfforol ond eu bod wedi’u rhannu ymhlith poblogaeth leol fawr.

Mae'r dull cynhwysydd yn nodi’r cydbwysedd rhwng y cyflenwad a’r galw mewn ardal ddiffiniedig drwy rannu nifer y canghennau yn yr ardal â'i phoblogaeth. Defnyddir y dull hwn yn aml i werthuso hygyrchedd ar gyfer meysydd gweinyddol fel awdurdodau lleol ac etholaethau Senedd. Nid yw'n ystyried y pellteroedd teithio gwirioneddol sydd eu hangen i gyrraedd canghennau.

Caiff y sgorau cyflenwad a galw eu cyfrifo gan ddefnyddio'r dull cynhwysydd ar gyfer etholaethau

Dau fap. Mae'r map cyntaf yn dangos nifer y canghennau banc ar gyfer pob 10,000 o'r boblogaeth fesul etholaeth yn 2008. Mae'r map cyntaf yn dangos nifer y canghennau banc ar gyfer pob 10,000 o'r boblogaeth fesul etholaeth yn 2018.

Yn 2008 roedd 791 o ganghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru yn gwasanaethu poblogaeth oedolion o 2,466,956, sy'n 3.2 cangen ar gyfer pob 10,000 o drigolion ar gyfartaledd. Erbyn 2018 lleihawyd nifer y safleoedd i 532 yn sgîl cau canghennau, a gostyngodd y gymhareb hon ledled y wlad i 2.4 cangen ar gyfer pob 10,000 o drigolion.

Mae mapio'r gymhareb ym mhob etholaeth yn 2008 a 2018, a’r newid yn y sgorau hyn, unwaith yn rhagor, yn dangos sut mae’r dirywiad yn amrywio'n ddaearyddol ymhlith rhanbarthau lleol.

Dull dalgylch cyfnewidiol dau gam gwell

Mae'r gwaith ymchwil yn annog defnyddio techneg fapio ddatblygedig o'r enw 'dalgylch cyfnewidiol dau gam gwell’ (E2SFCA). Gall y dull hwn fapio hygyrchedd gwasanaethau ar lefel fwy gronynnog na'r dulliau traddodiadol. Gellir darllen manylion am sut y caiff ei gyfrifo yn y papur ymchwil llawn.

Fel y dull cynhwysydd, mae’ dull dalgylch cyfnewidiol dau gam yn mapio nifer y canghennau y pen o'r boblogaeth. Mae’r amcangyfrifon yn seiliedig ar fodel mwy realistig o ymddygiad defnyddwyr, fodd bynnag, ble y gall preswylwyr ddefnyddio unrhyw gangen a geir o fewn pellter teithio penodol y gellir ei oddef. Nid ydynt wedi'u cyfyngu i ddefnyddio canghennau o fewn ffiniau gweinyddol lleol. Mae'r map isod yn dangos newidiadau mewn hygyrchedd rhwng 2008 a 2018 a adroddwyd ar sail y dull dalgylch cyfnewidiol dau gam ar lefel Ardal Allbwn.

Newidiadau mewn hygyrchedd yn seiliedig ar y Dull Dalgylch Cyfnewidiol Dau Gam

Un map yn dangos newidiadau o ran hygyrchedd i ganghennau banc rhwng 2008 a 2018 drwy ddefnyddio'r fethodoleg dalgylch cyfnewidiol dau gam gwell. Gall y dull hwn fapio hygyrchedd gwasanaethau ar lefel fwy gronynnog na'r dulliau traddodiadol.

Mae'r gwaith ymchwil yn defnyddio'r un fethodoleg dull dallgylch cyfnewidiol dau gam i edrych yn fanwl ar fynediad at Swyddfeydd Post a pheiriannau ATM i’w defnyddio am ddim. Roedd hefyd yn ystyried teithiau a wnaed ar fws, ac felly'n darparu amcangyfrifon o hygyrchedd at wasanaethau bancio i'r bobl sy'n dibynnu ar y math hwn o drafnidiaeth gyhoeddus.

Sut y gellid defnyddio'r gwaith ymchwil hwn yn y dyfodol?

Gellir defnyddio'r modelau hyn hefyd i edrych yn fanwl ar senarios yn y dyfodol. Er enghraifft, pe bai cangen leol yn cau, faint ymhellach y mae'n rhaid i breswylwyr deithio i gyrraedd cangen arall o'r un darparwr? Neu beth allai effeithiau posibl dileu llwybr bws neu gyflwyno llwybr bws newydd fod?

Cynhaliwyd y gwaith ymchwil yn ystod pandemig y Coronafeirws gan ddefnyddio cyfresi data a oedd yn dyddio cyn cychwyn y pandemig. Mae effeithiau llawn y pandemig ar ddarpariaeth canghennau yn y dyfodol, ar newidiadau cymdeithasol yn y ffordd y mae pobl yn cynnal eu materion ariannol, neu ar nifer y bobl sy'n defnyddio bancio digidol a thrafodion heb arian, i gyd i ddod i’r amlwg yn y dyfodol. Bydd y wybodaeth a gesglir ac a gyflwynir yn y gwaith ychwil hwn yn feincnod gwerthfawr i werthuso materion o'r fath sy'n peri pryder yn y dyfodol.


Erthygl gan Mitchel Langford (Prifysgol De Cymru) a Helen Jones (Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru)