Erthygl blog gwadd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau - data: helpu i wyntyllu'r dibynadwy a'r annibynadwy

Cyhoeddwyd 23/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn yr erthygl hon, mae Pennaeth Swyddfa Casnewydd Mark Pont o'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn amlinellu rôl y Swyddfa a rhai o'r materion yn ymwneud â defnyddio data ac ystadegau.

Mae ystadegau yn ased cyhoeddus gwerthfawr. Ond, fel sy'n wir gydag unrhyw ased, gallant gael eu camddefnyddio, mae'n bosibl na chânt eu cynnal a'u cadw, neu gallant fod yn hen. Nod y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR), sy'n rhan o Awdurdod Ystadegau'r DU, yw diogelu'r ased cyhoeddus gwerthfawr hwn.

Cyrhaeddiad statudol OSR yw “ystadegau swyddogol”. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu'r ystadegau hynny a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru a'i chyrff a noddir. Ond nid ystadegau swyddogol yw'r unig ffynhonnell ddata sy'n sail ar gyfer trafodaeth gyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru a'i chyrff a noddir hefyd yn cyhoeddi cyfoeth o ddata arall – ymchwil, rheoli gwybodaeth ac ati, gydag elusennau, sefydliadau ymchwil a chwmnïau hefyd ac yn cyhoeddi ystadegau ar faterion cyfoes.

Yn yr OSR, ein nod yw diogelu'r ased hwn trwy gynnal rhinweddau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth, sy'n ffurfio tair colofn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, a oedd yn dathlu ei blwyddyn gyntaf yn ddiweddar. Nod y Cod yw darparu'r fframwaith i sicrhau bod ystadegau'n ddibynadwy, o ansawdd da, a'u bod yn werthfawr – eu bod yn mesur y pethau sydd angen eu mesur fwyaf. Gyda'i gilydd, mae'r tair colofn yn hybu hyder y cyhoedd mewn ystadegau.

Rydym wedi croesawu ymdrechion ystadegwyr Llywodraeth Cymru i ddilyn y Cod ac wedi croesawu'r rôl y mae Aelodau’r Cynulliad wedi ei chwarae wrth hyrwyddo'r safonau da hyn, er enghraifft drwy oruchwylio'n ofalus y gofynion ynghylch mynediad cyn rhyddhau.

Mae egwyddorion y Cod hefyd yn berthnasol i'r data a'r sefydliadau eraill y sonnir amdanynt uchod, gan gynnig cyfle i sefydliad:

  • Gymharu ei brosesau, dulliau ac allbynnau yn erbyn y safonau a gydnabyddir sy'n ofynnol gan y Cod ar gyfer ystadegau swyddogol; a
  • Dangos i'r cyhoedd ei ymrwymiad i ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Mae'r OSR wedi croesawu ymrwymiad gwirfoddol ystod eang o gyrff, gan gynnwys cyrff swyddogol fel Cymwysterau Cymru, i ddilyn egwyddorion allweddol y Cod. Yn yr OSR rydym yn parhau i annog eraill i fyfyrio ar yr hyn y mae'r Cod yn ei olygu iddyn nhw.

Gyda chymaint o ddata ar gael, rhan allweddol gylch gwaith yr OSR yw diogelu rôl ystadegau wrth wneud penderfyniadau a dadleuon cyhoeddus. Mae hyn yn golygu helpu pobl i adnabod data dibynadwy a'u galluogi i ddefnyddio'r data cywir yn y ffordd gywir. Fel dywedodd Syr David Spiegelhalter, cyn-lywydd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol, mewn erthygl blog diweddar, un o'r meini prawf ar gyfer gwybodaeth dda yw ei bod yn asesadwy – dylai partïon perthnasol, os oes angen, allu archwilio'r gwaith ac asesu ei ansawdd. Yn aml, mae camddehongli a chamddefnyddio yn deillio o'r diffyg asesu hwn.

Yn aml, gofynnir i'r OSR ymchwilio a gwneud sylwadau ar achosion posibl o gamddefnyddio ystadegau. Fel corff gwarchod ystadegau y DU, rydym yn ymwneud â gohebiaeth reolaidd gyda chynrychiolwyr etholedig – ac eraill fel aelodau o'r cyfryngau a'r cyhoedd – sy'n pryderu am y ffordd y defnyddir (a chamddefnyddir) ffeithiau a ffigurau mewn adroddiadau, areithiau ac agweddau eraill ar ddadl gyhoeddus. Er enghraifft, gydag ymyriadau diweddar yn ymwneud â chymariaethau'r Prif Weinidog o amseroedd aros damweiniau ac achosion brys rhwng Cymru a Lloegr, a honiadau o gamddefnyddio ystadegau ar y Gymraeg. Mae'r ddwy enghraifft hynny'n dangos pwysigrwydd cael cyfeiriad tryloyw a chlir at ffynonellau data er mwyn llywio trafodaeth gyhoeddus yn well.

Yn ogystal â herio a rhoi sylwadau ar ansawdd a defnydd ystadegau, mae'r OSR hefyd yn chwarae rôl gefnogol. Mae canllawiau i helpu i gydymffurfio â'r Cod ar gael ar dudalennau gwe'r Cod, y mae'r linc ar gael uchod, ac mae canllawiau pellach ar ddefnyddio ystadegau ar gael ar wefan Gwasanaethau Ystadegol y Llywodraeth.

Mae rhagor o wybodaeth am OSR, y tîm a'r hyn rydym yn ei wneud ar gael ar ein gwefan.


Erthygl gan Mark Pont, Pennaeth Swyddfa Casnewydd, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau