TBC

TBC

Nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol: A yw’r bar wedi’i godi neu a oedd y bar yn rhy isel cyn hynny?

Cyhoeddwyd 18/10/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu, yn ystod gwaith craffu gan un o bwyllgorau'r Senedd, ei fod o'r farn bod rhai achosion o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), neu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) fel y'u gelwir bellach, wedi'u nodi’n anghywir a bod gormod o achosion wedi’u nodi yn y gorffennol. Mae'n dweud mai dyma pam y mae nifer y dysgwyr sydd ag AAA/ADY wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ar ôl i’r system ADY newydd ddechrau.

Mae’n cael ei weithredu’n raddol dros dair blynedd (Medi 2021 – Awst 2024), ac ystyr hyn yw y bydd y systemau AAA ac ADY yn gweithredu ochr yn ochr â'i gilydd tan fis Medi 2025 (ac felly cyfeirir atynt yma fel "AAA/ADY").

Mae’r diffiniad a’r prawf ar gyfer ADY yr un peth ag AAA

Mae’r ddeddfwriaeth, a sefydlodd y system newydd, yn cadw'r un diffiniad ar gyfer ADY ag ar gyfer AAA, sy'n berthnasol yn yr achosion a ganlyn:

  • pan fo plentyn yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran (ac ni ellir ei gynorthwyo drwy ddulliau dysgu gwahaniaethol yn unig), neu
  • pan mae gan blentyn anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran,
  • mae’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Mae gan bob dysgwr ag ADY sydd wedi symud i’r system newydd hawl i Gynllun Datblygu Unigol (CDU) statudol.

Mae hyn yn wahanol i'r system AAA bresennol, lle mai dim ond dysgwyr sydd â'r anghenion mwyaf difrifol/cymhleth sydd â ‘datganiadau’ y gellir eu gorfodi’n gyfreithiol sy'n nodi'r gefnogaeth y mae ganddynt hawl i'w chael, ac mae gan y mwyafrif sy’n weddill o'r rhai y nodwyd eu bod ag AAA gynlluniau anstatudol mwy cyfyngedig.

Roedd pryderon yn ystod gwaith craffu blaenorol gan y Senedd y gallai'r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu cynlluniau datblygu personol ar gyfer pob dysgwr sydd ag ADY (yn hanesyddol tua 100,000) arwain at 'godi'r bar', h.y. byddai'r trothwy ar gyfer adnabod dysgwr fel rhywun ag ADY yn uwch nag ar gyfer AAA, er bod y diffiniadau'r un fath. Gan geisio lleddfu’r pryderon hyn, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, wrth y Senedd ym mis Mawrth 2021 nad oedd yn credu y bydd y diwygiadau'n codi'r bar o ran darparu CDU gan nad yw'r prawf i benderfynu pwy sydd ag ADY wedi newid.

Mae canllawiau gweithredu Llywodraeth Cymru’n cadarnhau bod y diffiniad o ADY yr un fath ag AAA, ac ystyr hyn yw, os oes gan blentyn AAA, mae'n debygol y bydd ganddo ADY. Yn dilyn pryderon a fynegwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg presennol, ym mis Ionawr 2022 “Mae CDUau wedi’u llunio ar gyfer dysgwyr ag ADY ar bob lefel – o anghenion llai i rai cymhleth iawn”.

Beth sydd wedi digwydd i niferoedd y dysgwyr sydd ag AAA/ADY?

Fe wnaeth nifer y disgyblion mewn ysgolion y nodwyd bod ganddynt AAA/ADY ostwng 20 y cant rhwng 2020/21 a 2021/22, gan gyd-fynd â dechrau'r system newydd.

Bellach, mae 18,000 yn llai o ddysgwyr wedi’u nodi fel rhai ag AAA/ADY (92,668 yn 2020/21, 74,661 yn 2021/22). Adlewyrchir hyn mewn gostyngiad yn nifer y dysgwyr sydd ag ADY isel i gymedrol – y rhai a gefnogir o dan ‘Gweithredu gan yr Ysgol’, yr isaf o dair haen ymyrraeth. Mae nifer y disgyblion â datganiadau (hynny yw, y rhai sydd angen y lefel uchaf o ymyriadau) wedi aros yr un fath felly nid oes unrhyw awgrym bod y rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth wedi'u 'dad-ddynodi' ag AAA/ADY.

Ffigur 1: Nifer y disgyblion ysgol sy'n cael eu nodi fel rhai sydd ag AAA/ADY yn ôl lefel ymyrraeth

Mae’r graff hwn yn dangos y bu tuedd tuag i lawr yn nifer y dysgwyr y nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY ers 2016. Fodd bynnag, bu gostyngiad mawr iawn rhwng 2020/21 a 2021/22. Mae’r graff hefyd yn dangos nifer y rhai sydd ag AAA/ADY yn ôl lefel yr ymyrraeth maent yn ei chael. Lefel yr ymyrraeth â'r gostyngiad mwyaf yn 2021/22 yw Gweithredu gan yr Ysgol.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Canlyniadau’r Cyfrifiad Ysgolion, (fersiynau sawl blwyddyn)

Mae dileu rhai disgyblion o'r gofrestr AAA/ADY yn dod â chyfran yr holl ddisgyblion y nodwyd bod ganddynt AAA/ADY i lawr o 20 y cant yn 2020/21 i 16 y cant yn 2021/22.

Mae hyn yn parhau i ostwng yn gyffredinol, er bod cyfradd y gostyngiad yn llawer mwy cyflym y llynedd.

Ffigur 2: Canran yr holl ddisgyblion sydd wedi’u nodi fel rhai sydd ag AAA/ADY

Mae'r graff hwn yn dangos canran yr holl ddisgyblion a nodwyd bod ganddynt AAA neu ADY rhwng 2016 a 2022. Mae tuedd tuag i lawr wedi bod drwy gydol yr amser hwn, ond bu gostyngiad mawr iawn rhwng 2020/21 a 2021/22, o 20 y cant i 16 y cant.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Canlyniadau’r Cyfrifiad Ysgolion, (fersiynau sawl blwyddyn)

Cynigiodd Llywodraeth Cymru dri rheswm posibl mewn datganiad ystadegol, ac i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Gorffennaf, a awgrymodd naill ai:

  • Mae gormod o achosion o AAA wedi cael eu nodi yn hanesyddol, yn rhannol oherwydd cynnwys categori anhawster dysgu nad yw, wrth edrych yn ôl, yn gyfystyr ag AAA/ADY mewn gwirionedd;
  • Mae’r cydlynwyr ADY statudol newydd wedi adolygu cofrestrau AAA eu hysgolion ac wedi dileu rhai dysgwyr y mae angen y lefel isaf o gymorth arnynt.
  • O ganlyniad i ddull mwy cynhwysol y Cwricwlwm newydd i Gymru, gall rhai dysgwyr yr oedd angen Darpariaeth Dysgu Ychwanegol arnynt gael eu hanghenion wedi’u diwallu trwy'r ddarpariaeth gyffredinol.

Gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am eglurder gan y Gweinidog, gan ofyn sut mae hyn yn cyfateb â bwriadau polisi blaenorol Llywodraeth Cymru, o ystyried ei bod wedi diystyru rhagolygon o godi'r bar. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ystod y broses o basio'r Bil ADY yn 2017 y byddai'r rhai sy'n cael eu cwmpasu o dan y system newydd yn fras yr un fath ag o'r blaen ac wrth wneud rheoliadau dilynol yn 2021, roedd yn rhagweld y byddai tua 110,000 CDU oed ysgol.

Mae’r diffiniad a’r prawf ar gyfer AAA/ADY bellach yn cael ei gymhwyso'n fwy trwyadl nag o dan yr hen system.

Mae ymateb y Gweinidog i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cadarnhau, os oes gan blentyn AAA, mae hefyd yn debygol o fod ag ADY, ac mae’n dweud mai dyma fu ei safbwynt ar hyd yr amser. Dim ond y dysgwyr hynny a oedd “wedi'u gosod yn briodol” ar y gofrestr AAA yn y gorffennol fydd yn cael eu cydnabod fel rhai sydd ag ADY a chael CDU. Dywed y Gweinidog fod llawer o ddisgyblion a oedd ag 'anawsterau dysgu cyffredinol' wedi'u cynnwys yn flaenorol ar y gofrestr AAA (ac felly mewn data a gyhoeddwyd yn flynyddol) er nad oeddent yn "bodloni'r diffiniad cyfreithiol o gael AAA neu ADY".

Mae dileu’r grwpiau hyn o ddisgyblion yn “briodol" wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y dysgwyr a gofnodwyd yn 2021/22 fel rhai sydd ag AAA/ADY. Dywed Llywodraeth Cymru “bod angen diwygio'r cofrestrau” oherwydd bod “anghysondebau wedi bod yn y modd y cafodd AAA ei adrodd a'i gofrestru yn y gorffennol, a’i bod yn debygol bod gormod o achosion wedi’u nodi". Ymhlith yr anghywirdebau canfyddedig hyn oedd cynnwys y rhai ag 'anawsterau dysgu cyffredinol' ond nid AAA/ADY, yn ogystal â rhai dysgwyr ag anghenion tymor byr yn cael cymorth a oedd yn gyfyngedig o ran amser a oedd yn parhau ar gofrestrau AAA ymhell ar ôl i’r ymyriadau ddod i ben. Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn archwilio sut i olrhain disgyblion sy'n cael eu dileu o'r gofrestr AAA/ADY er mwyn sicrhau nad yw’n effeithio ar eu haddysg mewn ffordd negyddol.

Am y rhesymau hyn, mae’n ymddangos bod y diffiniad a’r prawf ar gyfer ADY o dan Ddeddf 2018, er ei fod yr un fath â’r diffiniad cyfreithiol blaenorol o AAA, bellach yn cael ei gymhwyso'n fwy trwyadl. Dywed y Gweinidog: "Nid yw'n gymaint bod y system ADY wedi 'codi'r bar', ond yn hytrach bod y bar wedi ei ostwng mewn rhai lleoliadau o dan y system flaenorol".

Fodd bynnag, efallai y bydd rhai yn gofyn pam mai dim ond nawr, yn y cyfnod gweithredu, y mae'r gor-adrodd tybiedig o AAA wedi cael ei ddarganfod. Efallai y byddan nhw hefyd yn cwestiynu a yw'r system ADY newydd yn cael ei gweithredu yn y ffordd y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ei wneud wrth fynd â'r ddeddfwriaeth drwy'r Senedd. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar eisoes wedi lleisio pryderon bod y trothwy o ran cymhwysedd ar gyfer cymorth yn cael ei godi.

Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau i graffu ar y mater hwn ac mae’n gwahodd tystiolaeth a safbwyntiau yn barhaus.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru