canolfan frechu

canolfan frechu

Imiwnedd yn gwanhau? Atgyfnerthu imiwnedd yn erbyn COVID-19

Cyhoeddwyd 01/12/2021   |   Amser darllen munudau

Mae datblygu brechlynnau i frwydro yn erbyn COVID-19 wedi bod yn gyflawniad rhyfeddol. Ar 24 Tachwedd 2021, mae Cymru wedi rhoi 2,465,562 o ddosau cyntaf brechlyn COVID-19, sef 77.8 y cant o'i phoblogaeth gyfan, a 2,260,038 o ail ddosau, sef 71.3 y cant o'i phoblogaeth gyfan. Mae 806,297 o bobl wedi cael brechiad atgyfnerthu neu drydydd dos.

Canran cyfanswm y boblogaeth sydd wedi cael dos cyntaf, ail ddos, a thrydydd dos o’r brechlyn.

fap sy'n dangos canran y boblogaeth gyfan ar draws y Deyrnas Unedig ar 24 Tachwedd 2021 sydd wedi cael dos cyntaf, ail ddos, a thrydydd dos o frechlyn. Mae hyn wedi'i ddadansoddi yn ôl y pedair gwlad unigol. Cymru, dos cyntaf, 77.8%. Cymru, ail ddos, 71.3%. Cymru, trydydd dos, 25.4%. Lloegr, dos cyntaf, 75.5%. Lloegr, ail ddos, 68.5%. Lloegr, trydydd dos, 24.2%. Yr Alban, dos cyntaf, 75.5%. Yr Alban, ail ddos, 72.1%. Yr Alban, trydydd dos, 28.1%. Gogledd Iwerddon, dos cyntaf, 71.8%. Gogledd Iwerddon, ail ddos, 66.7%. Gogledd Iwerddon, trydydd dos, 18.2%.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU

Sylwer: Mae poblogaeth pob gwlad yn y DU yn seiliedig ar ddata diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ond mae'r ymdrechion i imiwneiddio yn cael eu cymhlethu gan imiwnedd sy’n gwanhau. Mae'r erthygl hon yn esbonio pam mae lleihad mewn imiwnedd yn bwysig a sut mae'r ymgyrch i roi brechiad atgyfnerthu yn ceisio atal heintiau ymhlith y rhai sydd eisoes wedi cael brechiad.

Beth yw imiwnedd sy’n gwanhau?

Brechu yw un o'r dulliau iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol, a phob blwyddyn amcangyfrifir ei fod yn atal tua 4-5 miliwn o farwolaethau yn fyd-eang o ganlyniad i glefydau. Yn sylfaenol, mae brechu'n gweithio drwy gynhyrchu ymchwydd o gelloedd imiwnedd sy'n cynhyrchu gwrthgyrff a moleciwlau imiwnedd eraill ar gyfer pathogen penodol (feirws sy'n gallu achosi clefyd, fel COVID-19).

Mae rhai brechlynnau fel y brechlyn MMR (y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela) yn rhoi imiwnedd gydol oes i’r rhai sydd wedi eu cael. Ond mae lefelau gwrthgyrff o frechlynnau eraill, megis y brechlyn ffliw a brechlynnau COVID-19, yn dechrau lleihau ar ôl y brechiad cyntaf. Mewn rhai achosion gall leihau i lefelau sy'n is na'r hyn sydd ei angen er mwyn iddynt amddiffyn yn llwyddiannus rhag haint.

Gall imiwnedd sy'n gwanhau, lle mae pobl sy'n cael eu himiwneiddio yn erbyn feirws penodol golli rhai o'u gwrthgyrff amddiffynnol, ymhlith ffactorau eraill, arwain at ostyngiad mewn effeithiolrwydd y brechlyn. Dros amser, gall pobl sydd wedi cael eu brechu’n flaenorol fod mewn perygl o gael eu heintio.

Beth mae'r dystiolaeth bresennol yn ei ddweud am imiwnedd sy’n gwanhau a brechlynnau COVID-19?

Mae brechlynnau AstraZeneca a Pfizer wedi bod yn hollbwysig er mwyn lleihau lledaeniad ac effaith COVID-19. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gynyddol o ostyngiad mewn imiwnedd yn dilyn yr ail ddos o’r ddau frechlyn.

Mae astudiaeth imiwnoleg yn y DU yn awgrymu bod lefelau gwrthgyrff yn gostwng dros gyfnod o 3-10 wythnos ar ôl ail ddos o'r naill frechlyn neu'r llall. Dangosodd astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a oedd yn defnyddio data clinigol o’r byd go iawn fod effeithiolrwydd y brechlyn yn erbyn clefyd symptomatig yn gostwng tua 10 wythnos ar ôl yr ail ddos, a hynny ar gyfer brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca.

Gwelwyd gostyngiadau mewn effeithiolrwydd brechlynnau dros amser hefyd yn Israel, Qatar a'r Unol Daleithiau. Yn sgil y gostynigadau hyn, gwelwyd bod angen edrych yn fanwl i ddilyn unrhyw batrymau o ran imiwnedd sy’n gwanhau.

Gwnaeth Cell Cyngor Technegol Cymru (TAC), sy'n rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i gefnogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru yn ystod argyfyngau, gyhoeddi crynodeb o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar imiwnedd sy’n gwanhau ar 10 Tachwedd 2021. Mae llai o dystiolaeth ar gyfer imiwnedd o ganlyniad i haint. Yn achos llawer o glefydau heintus feirysol, ar ôl gwella mae cyfnod lle mae’r unigolyn wedi’i amddiffyn rhag cael ei heintio eto gan yr haint gwreiddiol. Fodd bynnag mae’r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn parhau i ddangos tystiolaeth gref sy’n cefnogi gwerth brechu, p'un a ydych wedi cael COVID-19 ai peidio.

Y rhaglen brechiad atgyfnerthu

Un agwedd ar yr ymateb COVID-19 i imiwnedd sy’n gwanhau yw cyflwyno trydydd dos, a elwir yn frechlyn 'atgyfnerthu'.

Dechreuwyd yr ymgyrch i gyflwyno brechiad atgyfnerthu yng Nghymru ganol mis Medi. Roedd hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i gynnig dos atgyfnerthu o'r brechlyn COVID-19 i bobl mewn grwpiau blaenoriaeth un i naw, a oedd yn cynnwys pobl dros 50 oed, gweithwyr rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a phobl â chyflyrau iechyd isorweddol. Mae'r cynnig hwn bellach wedi'i ymestyn i'r rhai rhwng 40 a 49 oed, chwe mis neu’n fwy ar ôl eu hail ddos.

Mae’r 806,297 o bobl sydd wedi cael brechiad atgyfnerthu neu drydydd dos ar 24 Tachwedd 2021 yn cynrychioli 25.4 y cant o'r boblogaeth gyfan.

Canran y bobl sydd wedi cael brechiad atgyfnerthu yn ôl grŵp blaenoriaeth

dabl sy'n dangos canran y bobl yng Nghymru ar 24 Tachwedd 2021 sydd wedi cael brechiad atgyfnerthu yn ôl grŵp blaenoriaeth. Ymhlith y rhai sy’n 70 oed neu’n hŷn, preswylwyr cartrefi gofal a gweithwyr gofal iechyd, mae'r gyfradd dros 70 y cant. Mae 62 y cant o weithwyr cartrefi gofal a 6.5 y cant o'r rhai rhwng 65 a 69 oed wedi cael brechiad atgyfnerthu. Mae canran y rhai mewn grwpiau eraill sydd wedi cael brechiad atgyfnerthu yn sylweddol is; dim ond yn ddiweddar y mae wedi dechrau cael ei gynnig i'r grwpiau hynny.

Mae Aelodau o'r Senedd wedi lleisio pryderon ynghylch cynnydd araf ar y rhaglen brechiadau atgyfnerthu, a’r ffaith bod rhai o'r bobl sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu yn dal i aros.

Cafwyd adroddiadau hefyd am bryderon ynghylch cynnydd araf a niferoedd bach yn manteisio ar y brechiad atgyfnerthu yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dadleuwyd bod natur fwy cymhleth y rhaglen frechu bresennol, gyda llawer o wahanol grwpiau ar wahanol gamau yn yr ymgyrch frechu, yn creu rhai heriau o ran sicrhau bod y nifer fwyaf posibl yn manteisio ar y brechlyn.

Mae Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen i’r brechiad atgyfnerthu gael ei gyflwyno’n eang i gael effaith, ac mae wedi annog pobl i gael eu brechiad atgyfnerthu (a brechiad ffliw y gaeaf) i gefnogi'r GIG y gaeaf hwn. Mae’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) wedi nodi bod y senarios yn y dyfodol y mae wedi'u modelu ar gyfer y gaeaf hwn yn rhagdybio y bydd y brechiad atgyfnerthu’n cael ei gyflwyno’n gyflym ac yn eang.

Pa mor effeithiol yw'r brechiad atgyfnerthu?

Rydym ar gam cynnar yn y rhaglen. Fodd bynnag, mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o Israel, a adroddwyd hefyd gan y Gell Cyngor Technegol yn awgrymu bod brechiadau atgyfnerthu yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gyfraddau heintiau a salwch difrifol.

Mae canfyddiadau diweddar gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn awgrymu bod y brechiad atgyfnerthu yn rhoi lefel amddiffyn o dros 90 y cant yn erbyn COVID-19 symptomatig mewn oedolion dros 50 oed.

Mae brechiadau atgyfnerthu yn debygol o gael effaith sylweddol ar gyfraddau heintiau a salwch difrifol y gaeaf hwn, felly bydd angen i lunwyr polisïau gadw llygad ar y nifer sy'n manteisio arnynt. Bydd angen iddynt hefyd ddilyn y dystiolaeth ynghylch pa mor hir y mae'r brechiad atgyfnerthu yn amddiffyn yn erbyn y feirws, ac a ddylid argymell brechiad COVID blynyddol yn y frwydr barhaus yn erbyn COVID-19.


Erthygl gan Božo Lugonja a Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru