Mae pryder sylweddol am effaith y biliau ynni cynyddol ar y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a sut y bydd hyn yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau.
Ochr yn ochr â chostau ynni, mae eitemau eraill fel cyfarpar, bwyd a thanwydd yn mynd yn ddrytach i ddarparwyr iechyd a gofal.
Er y bydd nifer o gartrefi a busnesau'n anelu at leihau eu defnydd o ynni, yn aml mae angen gwres, golau a chyfarpar ar wasanaethau iechyd a gofal o fore gwyn tan nos er mwyn iddynt allu gweithredu.
Heb gynnydd mewn cyllid i dalu am y diffyg hwn, bydd gan wasanaethau iechyd a gofal lai i'w wario ar feysydd eraill. Fel y dywedodd conffederasiwn y GIG:
Simply put, money spent on rocketing energy prices is money that cannot be spent on patient care.
Disgrifiodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg y pwysau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd fel yr her costau gweithredu.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar ddifrifoldeb y pwysau costau byw sy’n wynebu gwasanaethau iechyd a gofal, a’r canlyniadau tebygol.
Mae erthyglau eraill wedi canolbwyntio ar y pwysau y mae gofalwyr di-dâl a phobl anabl sy'n defnyddio gofal yn eu hwynebu. Mae Ymchwil y Senedd hefyd wedi cyhoeddi canllaw ar gymorth a gwybodaeth ar gostau byw.
Beth yw’r problemau?
GIG Cymru
Mae’r GIG yng Nghymru yn disgwyl y bydd ei gostau ynni yn mwy na dyblu dros fisoedd y gaeaf ac i’r flwyddyn nesaf. Mae pedwar o blith y saith Bwrdd Iechyd Lleol yn rhagweld cynnydd o fwy na 200% yn y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru:
The increase in prices will have a detrimental impact on people's health and wellbeing and demand on the NHS's services, and it will have an impact on the NHS's finances.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd yn ddiweddar fod y GIG yng Nghymru yn wynebu biliau ynni ychwanegol o £207 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon.
Dywedodd uwch arweinydd gwasanaethau acíwt Conffederasiwn y GIG, Rory Deighton:
…the gap in funding from rising inflation will either have to be made up by fewer staff being employed, longer waiting times for care, or other areas of patient care being cut back.
Daw hyn ar adeg pan fo GIG Cymru eisoes yn wynebu ôl-groniad o ran amseroedd aros.
Gofal cymdeithasol i oedolion
Mae Fforwm Gofal y Pum Gwlad (sy’n cynnwys cymdeithasau gofal o'r Alban, Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon) yn galw am ymyrraeth frys yn yr argyfwng ynni ym maes gofal cymdeithasol. Dywedodd fod yr argyfwng ynni presennol yn cyflwyno bygythiad gwirioneddol i gynaliadwyedd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol ac:
Social care and support providers are facing eye-watering increases in excess of 400% in their energy costs, both gas and electricity costs, which is simply unsustainable. The current energy crisis comes at a time when the sector is experiencing the worst workforce pressures the sector has ever known.
Mae adroddiadau bod cartrefi gofal yn gorfod lleihau eu lefelau staffio; lleihau faint o fwyd a ddarperir a’i ansawdd; a chynyddu eu ffioedd i breswylwyr er mwyn gallu ymdopi â chostau ynni uchel. Dywedodd 81% o gartrefi gofal mewn arolwg a gynhaliwyd gan ITV y byddai’n rhaid iddynt gynyddu’r ffioedd i breswylwyr, rhwng 5% a 15%. Dywedir bod y sector gofal yn wynebu storm berffaith o gostau sy’n sylweddol uwch, gwasgfa ar ffioedd a phrinder staff.
Yn ôl Fforwm Gofal y Pum Gwlad, mae'r cynnydd enfawr mewn biliau ynni wedi arwain at gau nifer o gartrefi gofal, a sefydliadau gofal cartref yn trosglwyddo pecynnau gofal yn ôl ac yn gorfod gwrthod busnes newydd. Yn ôl y Fforwm, heb gymorth a chyllid, bydd y costau cynyddol yn arwain at lawer mwy o ddarparwyr gofal yn cau ac yn rhoi’r gorau i ddarparu gofal.
O ran pobl sy'n cael cymorth i fyw gartref, mae ein herthygl ddiweddar yn tynnu sylw at y ffaith bod costau petrol uchel yn peri i weithwyr gofal cartref adael y sector, sy’n gwaethygu’r prinder staff.
Hosbisau
Mae Hospice Uk wedi rhybuddio bod hosbisau'n wynebu cynnydd o £115 miliwn mewn costau blynyddol.
Mae hosbis plant Tŷ Hafan yn Sili, Bro Morgannwg, yn cefnogi 300 o blant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau, a'u teuluoedd. Dywedodd yr elusen ei bod wedi ei tharo gan gynnydd blynyddol o £500,000 yn ei bil ynni.
Adroddodd hosbisau eraill fod eu prisiau ynni wedi cynyddu hyd at seithwaith ac mae arweinwyr hosbisau wedi rhybuddio y gallant orfod lleihau neu gau eu gwasanaethau'n gyfan gwbl oherwydd costau anghynaladwy.
Beth y mae llywodraethau’n ei wneud i helpu?
Ar 21 Medi, cyhoeddodd llywodraeth y DU y Cynllun Cymorth Biliau Ynni, sy'n capio prisiau ynni i ddefnyddwyr ynni annomestig, gan gynnwys ysbytai, cartrefi gofal a hosbisau, am 6 mis (sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023). Mae wedi dweud y bydd y cymorth y tu hwnt i'r dyddiad hwn yn targedu’r sefydliadau mwyaf bregus, a chaiff ei lywio gan adolygiad wedi’i arwain gan Drysorlys EM.
Croesawodd arweinwyr iechyd a gofal y gefnogaeth, ond mynegwyd pryderon na fyddai'n ddigon i leddfu pwysau’r costau ynni ar gyllidebau'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, ac nad yw'n caniatáu ar gyfer cynllunio tymor hwy.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru fod yr ad-daliad ynni gan Lywodraeth y DU yn parhau i adael diffyg o £100 miliwn o ran costau ynni GIG Cymru.
Dywedodd Tŷ Hafan fod y cap ar brisiau ynni wedi gostwng y cynnydd yn ei fil i £300,000.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei chyllideb hosbis flynyddol £2.2 miliwn. Dywedodd Julie Morgan AS fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Thŷ Hafan a hosbisau eraill i ddeall yn well yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu, a gweld beth y gall ei wneud i helpu.
Beth sydd o'n blaenau?
Nid oes dwywaith bod darparwyr iechyd a gofal yn wynebu sefyllfaoedd ariannol hynod anodd y gaeaf hwn a thu hwnt.
Mae pryder hefyd ynghylch beth fydd yn digwydd yn y Gwanwyn, gan fod disgwyl i’r cynllun cymorth ddod i ben ddiwedd mis Mawrth 2023. Fel y nododd Hospice UK, nid yw Llywodraeth y DU wedi amlinellu eto sut y bydd gwasanaethau'n cael eu cefnogi gyda’u biliau ynni ar ôl y dyddiad hwn. Dywedodd Tŷ Hafan:
Six months gives us a bit of a stay of execution and we are determined to keep our doors open but it’s really, really challenging.
Adroddodd Conffederasiwn GIG Cymru y gallai byrddau iechyd ledled Cymru weld eu costau nwy a thrydan yn treblu yn y flwyddyn ariannol nesaf. A dywedodd y Gweinidog Iechyd y bydd rhedeg y GIG yng Nghymru y flwyddyn nesaf heb arian ychwanegol gan lywodraeth y DU yn uffern ar y ddaear.
Erthygl gan Bonnie Evans ac Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Bonnie Evans gan y Cyngor Ymchwil Meddygol a alluogodd yr Erthygl Ymchwil hon i gael ei chwblhau.