Hawl i ofal plant yn y blynyddoedd cynnar: Cwestiynau Cyffredin

Cyhoeddwyd 29/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae system bresennol gofal plant yng Nghymru yn gymhleth. Gwyddom hefyd am gynlluniau ar gyfer rhagor o ddarpariaeth am ddim i’w darparu ar gyfer gwahanol grwpiau o blant mewn gwahanol ffyrdd drwy ehangu'r Cynnig Gofal Plant a gofal plant Dechrau'n Deg. Gan fod gallu manteisio ar y gofal plant hwn yn dibynnu ar gymhwysedd, gall ei gwneud yn anodd i rieni a gofalwyr ddeall eu hawliau a llywio eu ffordd drwyddynt. Nod ein dogfen Cwestiynau Cyffredin newydd yw esbonio mwy am y sefyllfa bresennol a beth sy'n newid.

Mae ein herthygl ddiweddar yn nodi Gofal plant yn cael sylw yn y Senedd.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru