Gofal plant yn cael sylw yn y Senedd

Cyhoeddwyd 19/01/2024   |   Amser darllen munudau

Er bod camau breision wedi’u cymryd o ran darpariaeth gofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru, mae’r her barhaus o sicrhau mynediad syml, teg at ofal plant fforddiadwy o ansawdd uchel yn parhau i fod yn bryder difrifol.

Dyna farn Oxfam Cymru a Chlymblaid Gwneud Gofal yn Deg yn dilyn eu hymchwil diweddar. Ynddo maen nhw'n dweud bod costau gofal plant ‘yn gorfodi rhieni Cymru i dlodi ac yn eu hatal rhag cael mwy o blant.’

O ystyried y canfyddiadau hyn, nid yw'n syndod y bydd yr hawl i ofal plant blynyddoedd cynnar am ddim ac â chymhorthdal yn ganolbwynt dadl yn y Senedd unwaith eto, pan drafodir dwy ddeiseb ar y pwnc hwn ar 31 Ionawr. Bydd y ddadl hon yn dilyn lansio ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Ofal Plant ar ddechrau'r flwyddyn.

Mae system bresennol gofal plant yng Nghymru yn gymhleth. Gwyddom hefyd am gynlluniau ar gyfer rhagor o ddarpariaeth am ddim i’w darparu ar gyfer gwahanol grwpiau o blant mewn gwahanol ffyrdd drwy ehangu'r Cynnig Gofal Plant a gofal plant Dechrau'n Deg. Gan fod gallu manteisio ar y gofal plant hwn yn dibynnu ar gymhwysedd, gall ei gwneud yn anodd i rieni a gofalwyr ddeall eu hawliau a llywio eu ffordd drwyddynt. Nod ein dogfen Cwestiynau Cyffredin newydd yw esbonio mwy am y sefyllfa bresennol a beth sy'n newid.

Pam mae gofal plant o dan y chwyddwydr?

Mae costau gofal plant yn y DU ymysg yr uchaf yn y byd ac maent yn codi, gan gymryd canran uchel o incwm y cartref. Bu Arolwg Teulu a Gofal Plant Coram 2023 yn arolygu awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ac mae'n dweud:

As soaring price rises and cost of living pressures start to bite, the high cost of childcare has become unmanageable for families. Many are left in the paradoxical situation where they cannot afford not to work, but childcare costs mean that they also cannot afford to work.

Mae dyletswyddau cyfreithiol ar adurdodau lleol Cymru i sicrhau bod digon o ofal plant yn eu hardaloedd ac i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy'n ymwneud â gofal plant i rieni a gofalwyr. Eto i gyd, canfu arolwg Coram:

In Wales, there are still some gaps in availability, with no local authorities reporting enough childcare right across the borough for disabled children, parents working atypical hours and families living in rural areas.

Dywedodd ein cyhoeddiad ar Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yng Nghymru: Cyflwyniad:

[...] gall cynyddu hygyrchedd, fforddiadwyedd ac, yn bwysicaf oll, gwella ansawdd, fod yn dasg anodd pan fydd cyllidebau cyhoeddus yn cael eu cyfyngu. O ganlyniad, mae lluniwyr polisi yn wynebu penderfyniadau anodd wrth flaenoriaethu adnoddau, o ran gwasanaethau wedi’u targedu neu wasanaethau cyffredinol, a rhwng opsiynau polisi sy’n cefnogi datblygiad plant yn bennaf a’r rhai sydd wedi’u cynllunio i wella cyflogadwyedd rhieni.

Canfu ein cyhoeddiad dilynol ar Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar: Datblygu Polisi amrywiaeth o ffactorau ysgogol ar gyfer cyflwyno gofal plant am ddim o safon gan gynnwys y manteision i ddatblygiad y plentyn ei hun ochr yn ochr â'r nod o gael mwy o rieni, yn enwedig menywod, yn ôl i'r gwaith. Yn y tymor hwy, y nod yw i hyn gael effaith gadarnhaol ar gyfranogiad yn y farchnad lafur a chyfraddau cyflogaeth, helpu i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, lleihau'r ‘gosb famolaeth’ ac yn gyffredinol sicrhau buddion economaidd.

Beth mae Pwyllgorau’r Senedd wedi bod yn edrych arno?

Mae Pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn edrych ar wahanol agweddau ar ofal plant:

  • Yn 2022, cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol adroddiad ar ofal plant a chyflogaeth rhieni. Mae ei ymchwiliad dilynol newydd gael ei lansio, a bydd yn dechrau cymryd tystiolaeth tua diwedd mis Chwefror.
  • Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r argymhelliad yn adroddiad 2023 y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi plant, y dylai ariannu darpariaeth gofal plant estynedig yng Nghymru gan ddefnyddio'r cyllid canlyniadol y bydd yn ei gael o wariant gofal plant ychwanegol yn Lloegr o ganlyniad i fformiwla Barnett. Cafodd safbwynt Llywodraeth Cymru ei ailddatgan i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei waith craffu ar Gyllideb Ddrafft 2024-25.
  • Ers mis Mai 2023, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn edrych ar fynediad at ofal plant ac addysg ar gyfer plant a phobl ifanc anabl. Mae wedi edrych ar amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys "rhwystrau sy’n atal ysgolion a darparwyr gofal plant rhag cynnig darpariaeth hygyrch". Disgwylir ei gasgliadau yn ystod y misoedd nesaf, ond mae eisoes wedi nodi’n fanwl yr effaith y gall diffyg gofal plant hygyrch ei chael ar allu rhiant / gofalwyr i weithio.

Deisebau

Mae dwy ddeiseb y Senedd a fydd yn cael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddarach y mis hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

Wrth ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan:

Mae'r Cynnig Gofal Plant ar gael i deuluoedd cymwys plant 3 i 4 oed ac mae'n darparu cymorth am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu â'r cynnig o 38 wythnos yn Lloegr. Er bod hyn yn cynnwys o leiaf 10 awr ar gyfer addysg gynnar yn ystod y tymor, mae gofal plant o 30 awr ar gael bob wythnos am 9 o'r wythnosau gwyliau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog hefyd:

Fe wyddwch am y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford ym mis Awst, a oedd yn trafod y pwysau sylweddol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Oherwydd hynny, nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu cadarnhau unrhyw ddatblygiadau newydd ym maes gofal plant a sut y byddwn yn rhoi cymorth i deuluoedd ymdopi â chostau gofal plant yn y dyfodol.

Ym mis Tachwedd 2023 rhoddodd y Dirprwy Weinidog y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Deisebau.

Mae cymariaethau wedi eu gwneud rhwng y cynigion gofal plant am ddim yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth y DU yn 2023 i ddarparu gofal plant am ddim i blant rhieni cymwys sy’n gweithio o naw mis oed erbyn 2025.

Mae pryder ynghylch sut y bydd yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni gyda dadansoddiad yn awgrymu bod y sector meithrin mewn perygl o gael ei niweidio gan gorfforaethau mawr yn ymgymryd â’u rheoli'. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn awgrymu bod yr hawl i 15 awr am ddim wedi sicrhau canlyniadau eithaf di-nod yn Lloegr o ran canlyniadau plant a chael rhieni yn ôl i'r gwaith. Gan gyfeirio at ymchwil mae'n dweud:

[…] many families were already using (and paying for) childcare even before the entitlements were brought in. For these families, this means that the free entitlement functioned as a transfer (saving them money they would otherwise have spent on childcare fees), but did not necessarily substantially change their childcare decisions – and so it may not be surprising to find that the entitlement itself did not have major effects on parents’ or children’s outcomes.

Mae'r Prif Weinidog wedi gwrthod cymhariaeth â Lloegr, gan ddweud:

[…] mai’r hyn yr ydym ni'n ei weld yw ymgais yn Lloegr i ddal i fyny â gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru. Yn sicr nid yw'r ffordd arall.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon yn rhoi trosolwg o'r hawl i ofal plant yng Nghymru a Lloegr, ac mae hefyd yn cyfeirio at ffynonellau eraill o wybodaeth a chymorth.


Erthygl gan Isabel Lang a Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Isabel Lang gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.