Gweithredu diwygiadau addysg: Pigion

Cyhoeddwyd 14/10/2024   |   Amser darllen munud

Cyn y ddadl yn y Senedd ar weithredu diwygiadau addysg ddydd Mercher yma (16 Hydref), rydym yn nodi cefndir perthnasol yn ogystal â thynnu sylw at ein herthyglau blaenorol.

  • Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn craffu ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a diwygiadau’r cwricwlwm a chyhoeddodd adroddiad interim ym mis Gorffennaf.
  • Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor CYPE fis diwethaf. Derbyniodd 4 o argymhellion, gan dderbyn 3 arall mewn egwyddor, a gwrthododd 1.
  • Cyhoeddodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ddatganiad ar weithredu ADY ar 7 Hydref. Dywedodd ei bod wedi "clywed am yr heriau" ac mai dyma’r amser i “edrych yn ôl a chymryd camau”.
  • Mae adroddiad y Pwyllgor CYPE yn canolbwyntio'n bennaf ar ADY lle mae pryder am yr hyn sydd y tu ôl i gwymp mewn niferoedd. Bu gostyngiad 44% yn nifer y disgyblion sy'n cael eu cydnabod fel rhai ag ADY ers i'r system ADY newydd ddechrau cael ei chyflwyno (cymharu 2023/24 â 2020/21).
  • Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y diffiniad o ADY yn parhau i fod yr un fath ag o dan y system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) flaenorol. Wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth, disgwyliad datganedig Llywodraeth Cymru oedd y byddai'r niferoedd yn weddol debyg.
  • Esboniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y gostyngiad yw bod ysgolion wedi adolygu eu cofrestrau AAA/ADY yn systematig ac wedi dileu dysgwyr y gellir diwallu eu hanghenion trwy ddarpariaeth “gyfannol” neu “gyffredinol”. Hefyd, nid yw’r categori blaenorol ‘anawsterau dysgu cyffredinol’ bellach wedi’i gynnwys yn y cofnodi ar gyfer AAA/ADY.
  • Ym mis Mai, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor CYPE ei bod eisiau mynd o dan groen yr hyn sy’n digwydd, a’i bod yn poeni’n fawr am y gostyngiad yn y niferoedd ADY a gofnodir.
  • Yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor CYPE, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cychwyn adolygiad o'r ddeddfwriaeth a'r Cod ADY, a'r hyn a olygir gan 'ddarpariaeth gyffredinol'. Bydd y gwaith cwmpasu ar gyfer y gwaith hwn yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd, wedi’i lywio gan adroddiad y Pwyllgor CYPE a’r gwerthusiad pedair blynedd sydd eisoes ar waith, a disgwylir canfyddiadau'r adolygiad erbyn haf 2025.
  • Ymhlith y materion a’r argymhellion eraill a godwyd yn adroddiad y Pwyllgor CYPE roedd cyllid ar gyfer darpariaeth ADY, trefniadau staffio a chydweithio rhwng y gwasanaethau addysg ac iechyd. Roedd materion yn ymwneud â'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys y cydbwysedd rhwng cysondeb a hyblygrwydd yn yr hyn y mae ysgolion yn ei addysgu a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer cymwysterau.
I gael rhagor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru, gweler ein herthyglau blaenorol:

Pigion gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru