Mae'n fis Gorffennaf di-blastig, ac wrth i ymwybyddiaeth o lygredd plastig gynyddu yng Nghymru, mae cymunedau, o bentrefi i siroedd, yn cyhoeddi eu haddewidion ynghylch mynd yn ddi-blastig.
Mae plastigau yn elfennau hyblyg, defnyddiol a gwydn o'n bywyd beunyddiol. Fodd bynnag, oherwydd eu gwydnwch, gallant gael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd. Mae ymchwil yn dangos mai llai nag un rhan o bump o'r holl blastig sy'n cael ei ailgylchu yn fyd-eang. Os bydd arferion cyfredol yn parhau, amcangyfrifir erbyn 2050, bydd tua 12 biliwn tunnell o wastraff plastig mewn safleoedd tirlenwi neu yn yr amgylchedd.
Yn 2017, yng nghyfres y BBC, Blue Planet II, cafodd gwylwyr ddarlun llwm o sut mae llygredd plastig yn effeithio ar amgylcheddau'r dyfroedd a'r anifeiliaid sy'n byw ynddynt. Ym mis Mehefin, lledaenwyd y neges gan y cyflwynydd, Syr David Attenborough, drwy longyfarch Gŵyl Glastonbury, sef gŵyl fwyaf y byd ar dir glas:
…this great festival has gone plastic-free. That is more than a million bottles of water that have not been drunk by you at Glastonbury. Thank you. Thank you.
Yn ddiweddar, yng nghyfres y BBC, War on Plastic with Hugh and Anita, edrychwyd ar faint o blastig a ddefnyddir ac a grëir gennym, ac i ble mae'n mynd ar ôl inni gael gwared arno. Canfu'r gyfres fod plastig a ailgylchwyd yn Rhondda Cynon Taf wedi mynd i dir diffaith ym Maleisia.
Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin), cynhaliodd yr elusen cadwraeth forol, Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth (SAS), brotest y tu allan i Senedd y DU yng nghwmni 'creadur' 15 troedfedd o hyd, gan alw ar i Aelodau Seneddol lofnodi addewid #GenerationSea i:
…support the fight to stop plastic pollution, act fast to tackle the climate crisis, stop sewage from being let back into the sea and to fully protect areas for sea life to flourish.
Mae'r adroddiadau mawr a gyhoeddwyd a'r rhaglenni a ddarlledwyd er mwyn amlygu'r materion a'r ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn fyd-eang ac yn genedlaethol wedi symbylu Llywodraeth Cymru a chymunedau ledled Cymru i weithredu.
Cynigion y Llywodraeth
Rhwng mis Chwefror a mis Mai 2019, Ymgynghorodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Thrysorlys EM ar gynigion ar y cyd gyda'r nod o leihau gwastraff plastig. Roedd y cynigion yn cynnwys Cyfrifoldeb Estynedig y Cynhyrchydd (EPR) gan Defra ar gyfer pecynnu a Chynllun Dychwelyd Ernes (CDE) (y ddau'n berthnasol i Gymru), a'r dreth ar gynhyrchu a mewnforio deunydd pacio plastig gan Drysorlys EM. Disgwylir i'r ymatebion i'r ymgynghoriad gael eu cyhoeddi'n fuan.
Mae'r cynigion hyn ar gyfer lleihau gwastraff plastig yn ategu cynlluniau gweinidogol Cymru i symud tuag at economi gylchol, gan sicrhau na fydd cynhyrchion plastig na deunydd pacio plastig fyth yn wastraff, ond yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi. Ym mis Ebrill 2019, lansiodd Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog, Gronfa Economi Gylchol werth £6.5 miliwn i helpu Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu yn y dyfodol:
Mae economi gylchol yn parhau i ddefnyddio adnoddau mor hir â phosib, drwy adfer ac adfywio deunyddiau yn hytrach na’u gwaredu.
Trafodwyd cyflwyno'r mesurau hyn mewn adroddiad ar lygredd plastig a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019 gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Croesawodd y Pwyllgor y rhan a chwaraewyd gan Lywodraeth Cymru yn yr ymgynghoriadau ar y cyd, ond nododd:
…rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn barod i arwain ac, os bydd angen, gweithredu ar ei phen ei hun.
Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n gwahardd y cyflenwad o wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm yn Lloegr o fis Ebrill 2020 (gyda rhai eithriadau). Daeth hyn yn sgil ymgynghoriad lle roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi gwaharddiad.
Partneriaeth Moroedd Glân Cymru
Yn 2017, datblygodd Llywodraeth Cymru ac ystod o randdeiliaid y Cynllun Gweithredu Sbwriel Morol cyntaf i Gymru (2018-2020). Ymunodd Cymru ag ymgyrch #MoroeddGlân y Cenhedloedd Unedig a sefydlodd Bartneriaeth Moroedd Glân Cymru, er mwyn ysgogi a chydlynu gweithredu ledled Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus, WWF Cymru, SAS Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
Cymunedau di-blastig
Mae ardal forol Cymru yn fwy na arwynebedd ei thir, ac mae dros 60 y cant o'r boblogaeth yn byw ac yn gweithio ar yr arfordir. Mae llawer o'r cymunedau hyn yn dod yn gefn i'w gilydd fel rhan o ymgyrch Arfordiroedd Di-blastig SAS, trwy fynd yn 'ddi-blastig' neu drwy gynnal un o'i ddigwyddiadau Glanhau'r Traethau.
Yn 2017, dechreuodd y gwneuthurwr ffilmiau Gail Tudor ymgyrchu dros 'Aber-porth ddi-blastig', gyda siopau, tafarndai a busnesau lleol yn newid eu pethau plastig untro am bethau amgenach a mwy cynaliadwy, fel poteli llaeth gwydr a gwellt papur. Yn fuan wedyn, dyfarnodd SAS mai Aber-porth oedd y gymuned ddi-blastig gyntaf yng Nghymru. Wedi hynny, Aberystwyth a orfu yn y ras i fod y dref fawr gyntaf i fod yn ddi-blastig.
Yn dilyn ymgyrch a barodd 18 mis dan arweiniad yr actifydd Sian Sykes, llwyddodd Ynys Môn i fod y sir ddi-blastig gyntaf yn y DU. Sian Sykes oedd y person cyntaf erioed i badlfyrddio o gwmpas Cymru. Er mwyn tynnu sylw at broblem llygredd plastig, dim ond eitemau cynaliadwy a gariai, a byddai'n codi gwastraff plastig ar y ffordd.
Mae clybiau chwaraeon hefyd wedi derbyn yr her i fynd yn ddi-blastig. Clwb Rygbi Uplands oedd y clwb chwaraeon di-blastig cyntaf yng Nghymru; fe'i cydnabuwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru am stopio a defnyddio fersiynau plastig wydrau peint, cwpanau coffi, cyllyll a ffyrc, pecynnau bwyd a gwellt yfed.
Nid yw hi wedi bod yn hollol ddiffwdan i'r cymunedau di-blastig. Mae llawer o drigolion a busnesau lleol wedi tynnu sylw at y ffaith bod newid i eitemau cynaliadwy yn gallu bod yn llawer drutach ac yn llai cyfleus. Dywed Mike Allen, perchennog siop yn Aber-porth, nad yw'n gallu dod o hyd i neb sy'n gallu gwerthu bisgedi na brechdanau heb blastig, ond dywedodd Oliver Box o dafarn y Ship yn Aber-porth:
One thousand plastic straws cost just £1, while the same number of paper straws is £10. We are putting a jar on the bar where we hope customers will contribute in a small way to what we are trying to do.
Mae rhai wedi beirniadu'r camau i gael gwared ar rai eitemau plastig untro. Fel yr eglura Prifysgol Caerdydd er enghraifft (gweler yr adran 'Canlyniadau anfwriadol'), mae gwellt plastig yn gallu bod yn hanfodol i rai pobl anabl yn eu bywyd bob dydd, ac mae cyflenwadau meddygol plastig yn caniatáu ymarfer hylan, sydd yn ei dro wedi arwain at ddatblygiadau mawr ym maes meddygaeth. Mae beirniadaeth arall yn cynnwys y costau carbon uwch o gludo hylifau mewn gwydr yn hytrach na phlastig, a'r defnydd posibl o liwiau gwenwynig ar gyfer deunyddiau naturiol, fel cotwm a gwlân, sy'n cymryd lle deunyddiau synthetig.
Mentrau eraill yng Nghymru
Yn aml mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran materion amgylcheddol; er enghraifft, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i godi tâl o 5c am fagiau plastig, ac yng Nghymru y gwelwyd y senedd gyntaf i gyhoeddi argyfwng hinsawdd.
Nod Llywodraeth Cymru yw bod yn ddiwastraff erbyn 2050. Golyga hyn y bydd yr holl wastraff yn cael ei ailgylchu; ni fydd dim yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae nifer y siopau diwastraff yn codi yng Nghymru. Nod y rhain yw defnyddio dim deunydd pacio, neu ychydig ohono, neu ddeunydd pacio cynaliadwy, gan adael i'w cwsmeriaid lenwi eu cynwysyddion eu hunain a phrynu dognau llai o fwyd. Yn 2018, gobeithiai'r archfarchnad gadwyn Iceland (y cwmni mwyaf yng Nghymru yn ôl trosiant) mai hi fyddai brif fanwerthwr cyntaf y byd i ddileu deunydd pacio plastig am eu holl gynhyrchion o'i brand ei hun erbyn diwedd 2023. Ymgynghorodd Iceland â Greenpeace ynglŷn â'r cynlluniau a chadarnhaodd ei bod yn cefnogi'r cynllun dychwelyd ernes ar gyfer poteli.
Amcangyfrifir bod miliwn o boteli plastig yn cael eu prynu o gwmpas y byd bob munud. Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n hyrwyddo dŵr yfed am ddim mewn gorsafoedd ail-lenwi ledled Cymru. Eleni, ar Ddiwrnod Ail-lenwi Cenedlaethol, dadorchuddiodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC, dapiau ail-lenwi newydd ym Maes Awyr Caerdydd; y gobaith yw y byddant yn lleihau'r defnydd o boteli plastig untro. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn rhan o'r 'Chwyldro Ail-lenwi', ar ôl cofnodi llawer o adeiladau'r cyngor fel gorsafoedd ail-lenwi. Bellach, mae dros 1,100 o sefydliadau sy'n cynnig ail-lenwi dŵr am ddim o amgylch Cymru.
Erthygl gan Holly Tipper, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau.