Llun o gweithiwr gofal yn dal dwylo gyda dynes

Llun o gweithiwr gofal yn dal dwylo gyda dynes

Gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig: Agweddau’r cyhoedd a’u profiadau – rhan 2

Cyhoeddwyd 09/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/05/2022   |   Amser darllen munud

Dyma’r ail erthygl mewn cyfres ag iddi ddwy ran, sy’n archwilio canfyddiadau gwaith ymchwil newydd gan Dr Simon Williams ar agweddau’r cyhoedd at ofal cymdeithasol – a phrofiadau ohono – ddwy flynedd ar ôl i’r pandemig ddechrau.

Roedd yr erthygl gyntaf yn ystyried canfyddiadau'r cyhoedd, mynediad at wasanaethau a chysondeb ac ansawdd gofal cymdeithasol. Mae'r erthygl hon yn ystyried safbwyntiau ar y gweithlu gofal cymdeithasol a mynd i'r afael â phrinder staff, yn ogystal â diwygio gofal cymdeithasol.

Mae adroddiad ymchwil llawn Prifysgol Abertawe ar gael ar yma.

Mynd i’r afael â phrinder yn y gweithlu

Mae'r pandemig wedi gwaethygu'r problemau presennol o ran recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, ac erbyn hyn mae'r sector yn wynebu argyfwng staffio digynsail.

Cyn y pandemig amcangyfrifwyd bod 95% o’r gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Mae’r astudiaeth yn nodi mai’r her i wasanaethau gofal cymdeithasol yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn dewis darparu gofal gan mai dyna sy’n well ganddyn nhw wneud, ac nid o reidrwydd oherwydd diffyg darpariaeth ffurfiol gofal cymdeithasol.

O ran y gweithlu gofal cyflogedig, canfu’r ymchwil:

  • roedd bron â bod pob un o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid rhoi’r un gwerth i ofal cymdeithasol â gofal iechyd (95%), ac y dylai gweithwyr gofal cymdeithasol gael eu gweld yn gyfartal â gweithwyr gofal iechyd.  Cytunai’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr y dylai staff gofal cymdeithasol gael cyflog, amodau gwaith a chyfleoedd datblygu gyrfa tebyg i staff y GIG wrth gam cyfatebol yn eu gyrfâu.
  • teimlai ymatebwyr nad oedd gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn un ddeniadol iawn  – iddyn nhw’n bersonol, nac i eraill yn gyffredinol.

Y prif resymau a roddwyd dros hynny oedd cyflog a thelerau ac amodau gwaith anfoddhaol; diffyg sicrwydd gyrfa a chyfleoedd i wneud cynnydd; gorweithio, ac effeithiau hynny; diffyg cydnabyddiaeth neu werth yn cael ei roi i'r proffesiwn; gwell cyfleoedd mewn sectorau eraill; a straen ychwanegol y pandemig ar y gweithlu.

“fe’m tarodd, bron y gellir dweud mai hwn yw’r cyflogwr yn niffyg dim arall”; “Cewch gyflog gwell yn Lidl's.”

Dadleuai eraill – er gwaethaf eu hymrwymiad i’r rôl – fod pobl yn gadael rolau gofal oherwydd y cyflog isel a’r oriau hir a hynny am waith a oedd yn emosiynol feichus, ac yn beryglus yn ystod y pandemig:

“Partner fy nhad, gorfu iddi roi’r gorau iddi gan y byddai hi’n gweithio diwrnodau 15 awr ac efallai y byddai’n gweld 20 o bobl, wrth ddarparu gofal personol ar hyd yr M4, gan ofalu am rywun heb deulu, felly roedd ’na ymdeimlad o euogrwydd emosiynol …

Gyda dyfodiad y pandemig, roedden nhw’n gofyn iddyn nhw i beryglu eu bywydau eu hunain gyda chyfarpar diogelu personol oedd yn annigonol, dim digon o arian a dim seibiant, a’r ofn y bydden nhw’n mynd â’r feirws adre gyda nhw”. (Alys, menyw, 30au)

At ei gilydd, roedd y cyfranogwyr yn teimlo y dylid trawsnewid gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol. Daw’r astudiaeth i’r casgliad – ar sail y dystiolaeth – y dylai Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ystyried gwella cydnabyddiaeth ar gyfer gwaith cymdeithasol a’i wneud yn waith mwy atyniadol, gyda:

  • gwelliannau pellach i gyflog a sefydlogrwydd swyddi gweithwyr gofal cymdeithasol;
  • gwell amodau gwaith a chyfleoedd datblygu gyrfa i weithwyr gofal cymdeithasol; a
  • diwygio sylweddol yn hyfforddiant, achrediad, a datblygiad proffesiynol gweithwyr gofal cymdeithasol.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach er mwyn cynyddu cyflog a bodloni’r cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru ac i ariannu ymgyrch recriwtio genedlaethol. Mae hefyd yn dweud ei bod yn cymryd camau i broffesiynoli’r sector a gwella cyfleoedd i wneud cynnydd mewn gyrfa.

Diwygio gofal cymdeithasol

Caiff ei dderbyn yn eang ei bod yn hen bryd diwygio gofal cymdeithasol yn sylfaenol, ond, hyd yn hyn, methiant fu gwireddu trawsnewidiadau sylweddol.

Teimlai mwyafrif helaeth y rheini a ymatebodd i’r arolwg fod angen diwygio’r system ofal yng Nghymru (86%), ac y dylai diwygio’r system gofal cymdeithasol fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (94%).

Yn gyffredinol, teimlai'r cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws bod angen mwy o gyllid a buddsoddiad ar ofal cymdeithasol, a theimlai’r rhan fwyaf na ddylai pobl orfod talu gormod am eu gofal.

“Nid yw’n cael yr hyn sydd ei angen arno, ond a fydd hynny byth yn newid?” (Gareth, Dyn, 60au)

Teimlai mwyafrif sylweddol o ymatebwyr yr arolwg y dylai lleihau costau gofal cymdeithasol i’r rheini sydd ei angen fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (85%).

Daw Dr Williams i'r casgliad y byddai cynigion a thrafodaethau ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol yn debygol o gael eu croesawu gan lawer o'r cyhoedd yng Nghymru. Yn benodol, roedd cefnogaeth sylweddol i’r syniad o system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig a chydgysylltiedig, gyda gofal cymdeithasol yn llai dibynnol ar gyllid preifat (e.e. drwy ymgorffori gofal cymdeithasol yn y GIG, neu sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru).

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp o arbenigwyr i wneud argymhellion i gefnogi’r uchelgais o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, a hynny am ddim pan fo’i angen. Dywedodd yn flaenorol y byddai’r grŵp arbenigol yn anelu at ddarparu argymhellion erbyn diwedd mis Ebrill 2022, ac y byddai cynllun ar gyfer rhoi’r argymhellion ar waith yn cael eu ddatblygu erbyn diwedd 2023.

Hyrwyddo diddordeb ehangach mewn gofal cymdeithasol

Mae’r astudiaeth hon yn awgrymu bod sylweddol ymhlith y cyhoedd i ddiwygio gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi y gallai mynd i’r afael â’r canfyddiad bod gofal cymdeithasol i oedolion yn rhywbeth sy’n bennaf ar gyfer yr henoed, fod yn her ehangach. Y gwir amdani yw bod tua 25 y cant o oedolion sy'n cael cymorth y wladwriaeth o dan 65 oed (e.e. oedolion iau ag anableddau neu anawsterau dysgu).

Er bod cyfranogwyr y grwpiau ffocws yn dadlau bod (neu y dylai) iechyd a gofal cymdeithasol gael eu cysylltu’n ddiwrthdro, fe wnaethant awgrymu hefyd nad yw llawer o bobl yn dechrau meddwl am ofal cymdeithasol mewn gwirionedd, neu nad ydyn nhw’n ystyried ei fod o bwys hyd nes y bydd ei angen arnyn nhw.

Caiff y pwynt hwn ei ategu gan y ffaith – er bod ystod oedran eang o ymatebwyr i'r arolwg – mai oedran cyfartalog y sampl oedd 64 oed. Yn ôl Dr Williams, mae hynny’n debygol o adlewyrchu'r ffaith bod gan oedolion hŷn fwy o brofiad a diddordeb mewn gofal cymdeithasol.

Un o’r heriau sy’n ein hwynebu yw hyrwyddo mwy o ddiddordeb mewn gofal cymdeithasol – a gwerthfawrogiad ohono – i’r cyhoedd yn fwy eang, gan gynnwys oedolion iau.  Wedi’r cyfan, i’r rhan fwyaf o oedolion oedran gweithio, mae effeithiolrwydd y system ofal yn uniongyrchol berthnasol i’n hanwyliaid nawr, ac i ni’n hunain yn y dyfodol. Mae pob un ohonom yn heneiddio ac yn gobeithio byw bywyd hir, felly mae'n debygol y bydd angen i'r mwyafrif ohonom gael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth yn ddiweddarach mewn bywyd.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru