Cyhoeddwyd 27/06/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Cafodd
fideo yn dangos entrepreneuriaid ifanc yn lleisio barn am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yng Nghymru i sefydlu eu busnes eu hunain ei gyflwyno adeg Ymchwiliad Pwyllgor a'i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad.
Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal
Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc yng Nghymru ac fe wyliodd y fideo yn ei gyfarfod ar 12 Mehefin 2013. Cafodd y fideo ei lunio a'i olygu o ffilm o tua 35 cyfweliad gyda phobl ifanc ledled Cymru sydd yn ymwneud â dechrau busnes.

Mae'r
fideo tua 13 munud o hyd ac mae pum rhan iddo:
- Menter mewn Addysg
- Gwybodaeth a Mentora
- Cyllid a Chefnogaeth
- Cyd-destun Economaidd a Rhanbarthol
- Yr Ysbryd Entrepreneuraidd
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.