Ffigurau diweddaraf y farchnad lafur ar gyfer mis Gorffennaf 2022

Cyhoeddwyd 19/07/2022   |   Amser darllen munudau

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2022 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mai 2022.

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae’r Arolwg o’r Llafurlu yn arolwg aelwydydd chwarterol o oddeutu 80,000 o oedolion. Gan y bu pobl ar ffyrlo o hyd yn ystod rhan o’r cyfnod adrodd diweddaraf (mis Medi 2021 i fis Tachwedd 2021), nid yw’r arolwg o’r llafurlu eto’n adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio eu bod wedi gwneud newidiadau i’r arolwg o’r llafurlu:

Mae’r ymatebion i’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) wedi cael eu hail-bwysoli i boblogaethau newydd sydd wedi’u deillio drwy ddefnyddio cyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, i ganiatáu ar gyfer tueddiadau gwahanol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Bydd yr ail-bwysoli yn rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.

Rhwng mis Mawrth a mis Mai 2022 roedd y gyfradd diweithdra ymhlith pobl 16+ oed yng Nghymru yn 3.8 y cant, sy’n uwch na 3.0 y cant yn ystod y chwarter blaenorol (mis Rhagfyr 2021 i fis Chwefror 2022). Mae hyn yn gynnydd o 13,000 o bobl ers y chwarter blaenorol i 58,000.

Prif ystadegau mis Mawrth 2022 i fis Mai 2022 o'u cymharu â'r chwarter blaenorol o fis Rhagfyr 2021 i fis Chwefror 2022. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith pobl 16+ oed yn 3.8 y cant gyda 58,000 o bobl yn ddi-waith, sef cynnydd o 13,000 ers y chwarter blaenorol.	Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16-64 yw 73.7%, gyda 1,472,000 o bobl 16 oed a hŷn mewn cyflogaeth, sy’n ostyngiad o 1,000 o'r chwarter blaenorol. Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16-64 yw 23.4%, gyda 446,000 o bobl yn economaidd anweithgar, sy’n ostyngiad o 2,000 o’r chwarter blaenorol.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae'r gyfradd diweithdra yng Nghymru (3.8%) yr un ag yn Lloegr (3.8%) ac yn uwch na Gogledd Iwerddon (2.6%) a’r Alban (3.5%).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Mawrth 2017 – Mai 2017 i Mawrth 2022 – Mai 2022.

graff llinell o gyfraddau diweithdra ymhlith pobl 16 oed a hŷn yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon  Mae pob un yn dangos gostyngiad cyffredinol, ac roedd y gyfradd yn llai na 4% yn 2019. Gwelwyd cynnydd mawr yn gyffredinol ers dechrau 2020. Nodir y ffigurau presennol uchod.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Gorffennaf 2022

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu yn dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y cyfraddau diweithdra uchaf ymhlith dynion a merched yn y grŵp oedran 16-24. Yn y grwpiau oedran 16-24 a 50-64 mae’r gyfradd diweithdra yn uwch ymhlith dynion na merched.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021

Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion rhwng 16 a 24 yn 14.1 y cant, o’i gymharu â 10.1 y cant ymhlith merched. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion 25-49 oed yn 3.2 y cant o’i gymharu â 3.3 y cant ymhlith merched. Mae’r gyfradd diweithdra ymhlith dynion 50-64 oed yn 2.8 y cant o’i gymharu â 2.6 y cant ymhlith merched.

Mae data diweithdra hefyd ar gael fesul etholaeth seneddol. Mae’r map isod yn dangos mai Gorllewin Abertawe oedd â’r gyfradd uchaf (11.3 y cant) a Pen-y-bont ar Ogwr oedd â’r gyfradd isaf (1.9 y cant) ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021.

Map rhyngweithiol o gyfraddau diweithdra fesul etholaeth, ar gyfer y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2021.

Noder: Mae meintiau'r samplau ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a'r Rhondda yn rhy fach i roi amcangyfrifon.

A oes data arall y gallwn ei ddefnyddio i weld beth sy'n digwydd yn y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill. Mae’r data a addaswyd yn dymhorol ar gyfer Talu Wrth Ennill ym mis Mehefin 2022 (1,296,296) yn dangos bod nifer y cyflogeion ar gyflogres yng Nghymru yn uwch na’r nifer ym mis Chwefror 2020. Bu cynnydd o 972 o gyflogeion ar gyflogres rhwng mis Mai 2022 a mis Mehefin 2022.

Nifer yr hawlwyr - wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2022 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 63,801 ym mis Mehefin 2022.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Ionawr 2019 i fis Mehefin 2022

Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Mehefin 2022 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,365 ym mis Mawrth 2020 i 119,865 ym mis Awst 2020, ac yna wedi lleihau i 63,801 ym mis Mehefin 2022.

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru