Coronafeirws: diweddariad mis Tachwedd ar y farchnad lafur

Cyhoeddwyd 10/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

A yw’r ystadegau swyddogol wedi dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?

Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 10 Tachwedd 2020 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Medi 2020, y cyfnod ar ôl gweithredu mesurau cadw pellter cymdeithasol oherwydd y coronafeirws. Nid yw ffigurau arolwg mis Tachwedd yn adlewyrchu nifer y bobl sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo oherwydd y coronafeirws.

Mae ystadegau diweddaraf Cyllid a Thollau EM ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws (CJRS) yn dangos bod 130,400 o weithwyr yng Nghymru wedi cael eu rhoi ar ffyrlo fel ar 31 Awst 2020. Mae hyn yn cynrychioli cyfradd dderbyn o 10 y cant. Cafodd 68,100 o fenywod a 62,300 o ddynion eu rhoi ar ffyrlo o dan y CJRS yng Nghymru fel ar 31 Awst.

Beth mae ffigurau diweddaraf yr arolwg o'r llafurlu yn ei ddangos?

Mae'r arolwg o'r llafurlu yn arolwg chwarterol o gartrefi o tua 80,000 o oedolion. Mae'r arolwg yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau am gyflogaeth a'r farchnad lafur. Gan fod pobl yn dal i fod ar ffyrlo, ac mae’r oedi amser i’r data hyn, nid yw hyn yn adlewyrchu effaith lawn y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru.

Ar gyfer mis Gorffennaf 2020 tan fis Medi 2020 y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed neu’n hŷn yng Nghymru oedd 4.6 y cant, o’i chymharu â 2.7 y cant yn y chwarter blaenorol (rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mehefin 2020). Mae hyn yn gynnydd o 28,000 o bobl o'r chwarter blaenorol i fyny i 70,000, sef y cynnydd chwarterol mwyaf o blith gwledydd y DU.

Ffynhonnell: SYG, Regional labour market: Headline indicators for Wales

Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru (4.6 y cant) yn is na Lloegr (4.8 y cant), ond yn uwch na’r Alban (4.5 y cant) a Gogledd Iwerddon (3.6 y cant).

Canran y bobl 16 oed neu’n hŷn sy'n ddi-waith, gwledydd y DU; Gorffennaf 2015 – Medi 2015 i Gorffennaf 2020 - Medi 2020.

Ffynhonnell: SYG, Labour market in the regions of the UK: Tachwedd 2020

Mae data o'r arolwg o’r llafurlu ar gael sy'n dangos y gyfradd ddiweithdra yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mehefin 2020. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod cyfraddau diweithdra yn gostwng gydag oedran ar gyfer dynion a menywod. Yn y grwpiau oedran 16-24 a 50-64, mae cyfraddau diweithdra dynion yn uwch na menywod.

Cyfradd ddiweithdra yn ôl oedran a rhyw yng Nghymru; 12 mis hyd at fis Mehefin 2020.

Mae data ar ddiweithdra hefyd ar gael yn ôl etholaeth seneddol. Mae’r map rhyngweithiol isod ar gyfer y 12 mis hyd at fis Mehefin 2020 yn dangos mai Gorllewin Aberawe oedd â'r gyfradd uchaf (6.7 y cant) ac mai Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro oedd â’r isaf (1.2 y cant).

Noder: Mae maint y sampl yng Nghanol Caerdydd yn rhy fach i roi amcangyfrif.

A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?

Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu cyhoeddi'n fisol ac maent yn fwy amserol. Fodd bynnag, gall pobl mewn gwaith hefyd fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol a gellid eu cynnwys yn y nifer sy'n hawlio budd-daliadau. Mae’r SYG yn nodi;

As part of the response to the pandemic, the rules about who can claim Universal Credit have changed, meaning an increased proportion of those claiming may actually still be in some kind of work. Because of these reasons, the change in the claimant count almost certainly ends up overstating any underlying change in unemployment.

Mae’r SYG hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i greu amcangyfrifon o gyflogeion sy’n cael eu talu drwy'r system Talu Wrth Ennill. Roedd y data Talu Wrth Ennill a addaswyd yn dymhorol rhwng mis Mawrth 2020 a mis Hydref 2020 yn dangos gostyngiad o 782,000 o bobl yn y DU sy’n cael eu talu drwy'r system hon. Nid yw'r data hyn ar gael ar lefel Cymru eto.

Nifer yr hawlwyr – wedi'i haddasu'n dymhorol

Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2020 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu o 58,576 ym mis Mawrth 2020 i 114,216 ym mis Hydref 2020, sef cynnydd bach o 116,202 ym mis Medi 2020.

Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Hydref 2018 i fis Hydref 2020

Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol

Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.

Diffiniadau

Mae nifer y bobl ddi-waith yn y DU yn cynnwys pobl sy'n bodloni'r diffiniad o ddiweithdra a nodir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn diffinio pobl ddi-waith fel:

  • y rhai heb swydd, sydd wedi bod wrthi'n chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf
  • y rhai allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i'w dechrau yn y pythefnos nesaf

Mae cyflogaeth yn mesur nifer y bobl 16 oed neu’n hŷn sydd mewn gwaith cyflogedig. Y prif fesur o gyflogaeth ar gyfer y DU yw'r gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed.

Y prif fesur o anweithgarwch yn y DU yw cyfradd y rhai rhwng 16 a 64 oed heb swydd nad ydynt wedi chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.


Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru