Faint o ddinasyddion Ewrop wnaeth gais i aros yng Nghymru ar ôl Brexit?

Cyhoeddwyd 23/11/2022   |   Amser darllen munud

Mae dinasyddion Ewrop a oedd yn byw yn y DU cyn Brexit wedi gorfod gwneud cais i aros.  

Ar 30 Mehefin 2022, roedd bron i 6.7 miliwn o geisiadau wedi eu cyflwyno i gynllun Llywodraeth y DU, y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (“y Cynllun”).  

Rhoddir statws dros dro (“preswylydd cyn sefydlu”) neu barhaol (“preswylydd sefydlog”) i ymgeiswyr llwyddiannus. Daw statws preswylydd cyn sefydlu i ben ar ôl pum mlynedd, a rhaid ei droi’n statws preswylydd sefydlog drwy gyflwyno ail gais. 30 Mehefin 2021 oedd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r Cynllun ond mae'n parhau i fod ar agor at ddibenion ceisiadau hwyr ac ail geisiadau. 

Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw mewnfudo, mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaethau cyhoeddus a chymorth yng Nghymru, a dywed ei bod eisiau i ddinasyddion Ewrop sy'n byw yma i aros 

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd (“y Pwyllgor”) yn monitro’r Cynllun yng Nghymru, gan barhau â ffocws y Senedd ar newidiadau i’r rhyddid i symud ar ôl Brexit. 

Yr erthygl hon yw’r ddiweddaraf yn y gyfres ar ystadegau’r Cynllun ac mae’n crynhoi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol cyntaf y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2022.   

Y data diweddaraf ar geisiadau 

Hyd at 30 Mehefin 2022, cafwyd 107,860 o geisiadau o Gymru, oedd yn fwy na’r hyn a amcangyfrifwyd, sef 95,000.   

Roedd mwyafrif y ceisiadau gan bobl rhwng 18 a 64 oed (85,650 o geisiadau, neu 79.4%). Cafwyd 18,880 o geisiadau gan rai dan 18 oed (17.5%), a 3,330 gan bobl dros 65 oed (3.1%).  

Ceisiadau i’r Cynllun o Gymru yn ôl dyddiad, ceisiadau a gwblhawyd a chanlyniadau gan ddangos y canrannau a’r niferoedd 

Ffynhonnell: Ystadegau chwarterol Llywodraeth y DU ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2022 

Mae’r Pwyllgor wedi cadw llygad barcud ar geisiadau hwyr oherwydd dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y cânt eu caniatáu, a gall pobl nad ydynt yn gwneud cais golli eu hawliau. Mae nifer y ceisiadau hwyr o Gymru wedi cynyddu o 6,180 ar ddiwedd mis Mawrth i 8,030 ddiwedd mis Mehefin.  

Ceisiadau bob mis yng Nghymru i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE 

Ffynhonnell: Ystadegau chwarterol Llywodraeth y DU ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Mawrth 2022 

Canfyddiadau’r Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru 

Gofynnodd adroddiad blynyddol y Pwyllgor gwestiynau allweddol am gymorth Llywodraeth Cymru o ran y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda’r Pwyllgor yn ei eiriolaeth dros ddinasyddion yr UE/AEE a’r Swistir ac mae eisoes yn mynd i’r afael â chanfyddiadau allweddol y Pwyllgor i ryw raddau. 

Mae’r tabl isod yn dangos ymateb y Gweinidog i faterion a godwyd gan y Pwyllgor:  

Adroddiad y Pwyllgor 

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Pryderon yn ymwneud â bylchau ystadegol yn nifer y dinasyddion â statws cyn sefydlu sy’n gwneud cais i gael statws sefydlog. 

A yw Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud adnabod y dinasyddion cyn sefydlu er mwyn darparu cymorth teilwredig, gan gynnwys nodiadau atgoffa i newid eu statws dros dro i statws parhaol cyn iddo ddod i ben.  

Mae Llywodraeth Cymru’n methu penderfynu pryd y bydd angen gwneud ail geisiadau.  

Mae wedi gofyn am ddata manylach, ond mae staff Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw o fewn eu cylch gorchwyl i'w cyhoeddi. Ers hynny, mae'r Swyddfa Gartref wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru y bydd yn anfon nodiadau amserol at ddinasyddion â statws cyn sefydlu i’w hatgoffa i wneud cais am statws sefydlog, a chadarnhaodd y bydd y statws cyn sefydlu cyntaf yn dod i ben ganol 2023.   

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn manylu ar y camau a gymerwyd i gefnogi dinasyddion â statws cyn sefydlu, gan gynnwys ymgyrchoedd digidol wedi'u targedu a dosbarthu cardiau i atgoffa pobl bod eu statws ar ddod i ben.  

Gofyn am farn Llywodraeth Cymru am gynnydd bob mis yn y ceisiadau hwyr o Gymru yn ystod chwarter cyntaf 2022.  

A yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o unrhyw broblemau’n ymwneud â hyn, neu unrhyw broblemau’n ymwneud â dinasyddion sydd heb wneud unrhyw gais o gwbl. 

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o faterion penodol yn ymwneud â cheisiadau hwyr ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrthi “nad oes yr un dinesydd o’r UE yng Nghymru wedi bod yn destun diddymu hawliau oherwydd peidio â gwneud cais i’r Cynllun hyd yma”. 

Cyllid parhaus ar gyfer gwasanaethau cyngor a chymorth am ddim Llywodraeth Cymru i ddinasyddion Ewrop yng Nghymru sy'n gwneud cais i'r Cynllun.  

Bydd cyngor a chymorth rhad ac am ddim Llywodraeth Cymru yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu gwasanaethau cyngor y Cynllun yng Nghymru.  

Sut mae cefnogaeth i ddinasyddion Ewrop sy'n ceisio aros yng Nghymru yn cael ei gydlynu rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU 

Mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol y cafodd rhai sefydliadau Cymreig gyllid gan Lywodraeth y DU ond ni chafodd wybod am gynlluniau cyllido Llywodraeth y DU ar gyfer y dyfodol. 

Gwahoddir Llywodraeth y DU i Grŵp Cydgysylltu’r Cynllun Llywodraeth Cymru. 

Caeodd Llywodraeth y DU y cynllun trwydded teulu o dan y Cynllun ar gyfer aelodau teuluoedd o Wcráin sy’n ffoi rhag y rhyfel.  

A yw Llywodraeth Cymru yn gwybod sawl Wcrainiad yng Nghymru a wnaeth gais i’r Cynllun.  

Mae Llywodraeth Cymru yn “siomedig iawn” bod Llywodraeth y DU wedi penderfynu peidio ag ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 29 Mawrth 2022, er gwaethaf galwadau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i gadw’r llwybr hwn ar agor, yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin. Mae’r llwybr hwn bellach ar gau oni bai bod aelodau teulu yn gallu bodloni meini prawf culach ar gyfer ceisiadau hwyr.  

Mae’r Gweinidog yn nodi nad yw data Llywodraeth y DU ond yn dangos ceisiadau ‘nad ydynt yn rhai’r AEE’, ac felly nid yw’n gwybod faint o Wcreiniaid sydd wedi cyrraedd Cymru sydd wedi gwneud cais i'r Cynllun.  

Gofyn am brif ganfyddiadau a chasgliadau adolygiad Llywodraeth Cymru o adroddiad Migration Observatory. 

Ni ymdriniwyd â’r mater. 

Gofyn am gofnodion diweddaraf Grŵp Cydgysylltu’r Cynllun Llywodraeth Cymru, sef cofnodion sydd fel arfer yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor.  

Darparwyd cofnodion tri chyfarfod.  

Y camau nesaf 

Trafododd y Pwyllgor y materion hyn gyda Phwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop yr UE yn y Senedd ym mis Hydref. Bydd ei bwyllgor dilynol – sy'n cynnal cysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit – yn adrodd ar weithrediad y Cytundeb Ymadael gan ddefnyddio tystiolaeth a safbwyntiau a gasglwyd yn ystod ei daith yn y DU.  

Ar 1-2 Tachwedd, dechreuodd yr Uchel Lys glywed achos yr Awdurdod Monitro Annibynnol yn erbyn Llywodraeth y DU. Mae rheolau presennol Llywodraeth y DU yn golygu bod dinasyddion sydd wedi setlo o flaen llaw yn colli eu hawliau yn awtomatig os ydyn nhw’n methu â throsi eu statws, neu’n ailymgeisio am statws preswylydd cyn sefydlu. Fe wnaeth yr Awdurdod Monitro Annibynnol ddwyn adolygiad barnwrol yn erbyn Llywodraeth y DU, gan ei fod o’r farn bod ei safbwynt yn anghyfreithlon o dan y Cytundeb Ymadael, sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion y DU a'r UE sy'n byw yn nhiriogaethau ei gilydd. 

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 21 Tachwedd i aros am ganlyniad achos yr Uchel Lys cyn ystyried ei gamau nesaf. Mae cylch nesaf data y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr EU i fod i gael ei gyhoeddi ar 24 Tachwedd 2022. 

Erthygl gan Sara Moran, Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru