Delwedd o rywun yn cyfrif pleidleisiau mewn etholiad Senedd.

Delwedd o rywun yn cyfrif pleidleisiau mewn etholiad Senedd.

Etholiad y Senedd 2026: Egluro’r rheolau, troseddau a therfynau gwario newydd

Cyhoeddwyd 19/12/2025

Mae llawer wedi newid ers y tro diwethaf i Gymru bleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai 2021.

Mae ein herthygl gyntaf yn y gyfres hon yn rhoi trosolwg o rai o'r prif newidiadau sydd ar ddod yn 2026, gan gynnwys newidiadau i faint y Senedd a'r system etholiadol. Ond rydym hefyd wedi gweld llawer o newidiadau i'r deddfau a'r rheolau sy'n llywodraethu sut y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal.

Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar y newidiadau hyn yn fanwl a’u hystyr ar gyfer ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol a chyfranogwyr eraill yn yr etholiad. Nod y newidiadau yw gwneud yr etholiadau'n fwy agored a hygyrch i'r cyhoedd ac amddiffyn pleidleiswyr ac ymgyrchwyr rhag cael eu bygwth. 

Gorchymyn Cynnal Etholiadau cwbl ddwyieithog

Mae'r rheolau a'r gweithdrefnau ynghylch cynnal etholiadau'r Senedd wedi'u nodi mewn darn o is-ddeddfwriaeth, a elwir yn aml yn Orchymyn Cynnal Etholiadau. Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wneud y Gorchymyn hwn a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd.

Cafodd y Gorchymyn ei ail-wneud yn llwyr yn 2025 am y tro cyntaf ers 2007. Cafodd ei wneud yn Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf, gan sicrhau bod yr holl reolau, ffurflenni a chyfarwyddiadau cysylltiedig ar gael yn ddwyieithog.

Ailddatganodd Gorchymyn 2025 y rheolau a'r gweithdrefnau presennol yn bennaf gan ddefnyddio “iaith fodern a chlir” ond cafodd rhai newidiadau sylweddol eu gwneud i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 a Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. Mae'r Gorchymyn hefyd yn defnyddio iaith niwtral o ran rhywedd am y tro cyntaf.

Byddwn yn edrych ar rai o'r newidiadau hyn yn fanwl yn yr erthygl hon, yn ogystal â'r rhai a wnaed gan ddarnau eraill o ddeddfwriaeth y mae’r Senedd a Senedd y DU wedi cytuno arnynt.

Newidiadau i'r drosedd o ddylanwad amhriodol

Dylanwad amhriodol yw pan fydd rhywun yn ceisio rhoi pwysau i orfodi etholwr i bleidleisio (neu beidio â phleidleisio) mewn ffordd na fyddai wedi'i wneud pe na bai pwysau wedi'i roi. Mae'n drosedd etholiadol hirsefydlog ac roedd fersiwn flaenorol yn berthnasol i etholiadau'r Senedd drwy Orchymyn 2007.

Gwnaeth adolygiad o gyfraith etholiadol argymell y dylid ailddrafftio a moderneiddio'r drosedd gan fod y geiriad a oedd yn bodoli wedi'i fynegi'n wael ac yn anodd ei orfodi.

Gwnaeth Deddf Etholiadau 2022, a basiwyd gan Senedd y DU, ddiweddaru'r drosedd gan ei bod yn berthnasol i etholiadau a gedwir yn ôl. Yng Nghymru, etholiadau a gedwir yn ôl yw etholiadau Senedd y DU a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu. Yn 2023, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'n diweddaru'r drosedd mewn perthynas ag etholiadau datganoledig. Cafodd hyn ei ddwyn ymlaen drwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 ar gyfer etholiadau llywodraeth leol a Gorchymyn Cynnal Etholiadau 2025 ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Mae'r drosedd newydd wedi'i chryfhau i roi pwysigrwydd cyfartal i fygwth niweidio enw da person, yn ogystal â'r ffocws blaenorol ar achosi niwed corfforol iddynt. Mae diffiniad y drosedd hefyd wedi egluro pwysigrwydd 'bwriad' – nawr, i fod yn euog o ddylanwad amhriodol “mae’n ddigon sefydlu bwriad i ddylanwadu’n amhriodol ar berson, hyd yn oed os nad oedd y gweithgaredd yn llwyddiannus yn y cyswllt hwn”.

Mae rhywun a gafwyd yn euog o ddylanwad amhriodol yn ystod etholiad y Senedd yn euog o 'arferion llwgr' a gallai wynebu dedfryd o garchar o hyd at flwyddyn neu ddirwy, yn ogystal â gwaharddiad pum mlynedd rhag cofrestru i bleidleisio a chael ei ethol i'r Senedd neu awdurdod lleol yng Nghymru.

Bygwth ymgeiswyr

Gwnaeth Deddf Etholiadau 2022 hefyd sefydlu sancsiwn etholiadol newydd sef gorchymyn anghymhwyso, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â bygwth ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig. Gall llys osod gorchymyn anghymhwyso ar rywun a gafwyd yn euog o drosedd a ysgogwyd gan elyniaeth tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholiadol berthnasol. Pe bai'n cael ei orfodi, byddai'n gwahardd rhywun rhag sefyll am swydd etholedig, cael ei ethol i swydd etholedig neu ddal swydd etholedig am 5 mlynedd.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddarpariaethau yn Neddf Etholiadau 2022, mae hon yn berthnasol i etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol yng Nghymru.

Rhagor o fanylion ar ddeunyddiau ymgyrchu digidol

Newid arall a wnaed gan Ddeddf Etholiadau 2022 yw'r gofyniad bod rhaid i ddeunyddiau ymgyrchu digidol, fel postiadau cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu ar wefannau, gynnwys enw a chyfeiriad yr hyrwyddwr ac unrhyw berson y mae'r deunydd yn cael ei gyhoeddi ar ei ran (nad yw'n hyrwyddwr). Mae hyn yn adlewyrchu'r gofynion hirsefydlog ar gyfer deunydd ymgyrchu nad yw'n ddigidol (h.y. wedi'i argraffu), fel taflenni. Mae hyn yn berthnasol i bob etholiad yn y DU, gan gynnwys ar gyfer y Senedd.

Cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol ganllawiau statudol ar argraffnodau digidol ym mis Tachwedd 2023.

Datganiad aelodaeth o blaid

Mae gofyniad newydd i ymgeiswyr wneud datganiad ynghylch a ydynt wedi bod yn aelod o unrhyw bleidiau gwleidyddol cofrestredig yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad o'r etholiad.

Cafodd hyn ei gyflwyno am y tro cyntaf ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn 2021. Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru “na ddylai fod yn dderbyniol i rywun sefyll am etholiad heb ddatgan ei aelodaeth o blaid wleidyddol, os yw’n aelod”.

Ar gyfer ymgeiswyr ar restr plaid wleidyddol, dim ond os ydynt wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol wahanol i'r llall y maent yn sefyll drosti y bydd angen iddynt wneud datganiad.

Os bydd ymgeisydd yn fwriadol yn peidio â chynnwys datganiad o aelodaeth o blaid sy'n cydymffurfio â'r gofynion newydd, bydd yn euog o arfer llwgr.

Dull newydd ar gyfer gwariant ymgyrchu

Mae'r system etholiadol newydd sy'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiad 2026 yn golygu bod angen dull gwahanol ar gyfer rheoli faint o arian y gall pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol ei wario yn y cyfnod cyn yr etholiad.

Am y tro cyntaf, bydd y cyfnod rheoleiddiedig – y cyfnod y bydd gofyn i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol (neu eu hasiantau) gyfrif am dreuliau etholiad – yr un peth ar gyfer pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol. Mae'r cyfnod rheoleiddiedig yn dechrau bedwar mis cyn yr etholiad a drefnwyd – yn yr achos hwn 7 Ionawr 2026.

Bydd y terfyn gwariant ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn dibynnu ar faint o etholaethau y maent yn ymgeisio amdanynt a nifer yr ymgeiswyr y maent yn eu cyflwyno yn yr etholaethau hynny. Ar gyfer pob etholaeth maent yn sefyll ynddi, gall plaid wleidyddol ychwanegu £52,500 ar gyfer un ymgeisydd, i fyny graddfa symudol hyd at £70,000 am o leiaf chwe ymgeisydd yn sefyll. Mae'r terfyn gwariant yn derfyn cenedlaethol, felly nid oes angen gwario hwn mewn etholaeth benodol.

Ar gyfer ymgeiswyr unigol mae'r terfynau gwariant ymgyrchu yn syml - £52,500 - y terfyn cyfatebol i blaid wleidyddol sydd ag un ymgeisydd yn sefyll mewn un etholaeth.

Mae gwariant sy'n ymwneud â diogelwch wedi'i eithrio rhag cyfrif tuag at derfynau gwariant ar gyfer ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol. Mae hyn yn ymateb i argymhelliad gan y Jo Cox Civility Commission ac yn dod ag etholiadau’r Senedd yn unol â’r dull a ddefnyddir ar gyfer etholiadau a gedwir yn ôl.

Canllawiau’r Comisiwn Etholiadol

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y rheolau ar gyfer ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol yn etholiad y Senedd, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi canllawiau manwl ar gyfer:

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru