Estyn: mae ysgolion wedi ymdopi’n dda ond nid yw’r sefyllfa wedi dychwelyd yn ôl i’r arfer eto

Cyhoeddwyd 17/03/2023   |   Amser darllen munudau

Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf gan Estyn, yr arolygiaeth addysg, yn awgrymu, er bod ysgolion yn gyffredinol wedi llwyddo i gefnogi adferiad plant a phobl ifanc, fod y pandemig COVID-19 yn parhau i daflu cysgod dros eu cynnydd.

Bydd y Senedd yn trafod y mater hwn ddydd Mawrth, ac yn clywed gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ynghylch y camau nesaf gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â ‘chenhadaeth ein cenedl’ i gyflawni “safonau uchel ac uchelgeisiau uchel i bawb”.

Yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2021/22 yw’r cyntaf gan Owen Evans fel Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant EF yng Nghymru, ac mae’n crynhoi ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgolion a lleoliadau addysg eraill a arolygwyd gan Estyn yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Fe'i cyhoeddwyd ym mis Ionawr ac fe’i trafodwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar 2 Chwefror 2023.

Yn ei ddatganiad i’r Senedd, disgwylir i’r Gweinidog ddweud mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg – rhywbeth sydd wedi bod yn uchel ar yr agenda ers dros ddegawd.

Bellach, mae’n rhaid rhoi mwy o sylw i addysgu a dysgu

Llynedd, gwnaethom ysgrifennu erthygl ar brif neges Estyn, sef y dylai llesiant dysgwyr barhau i gael ei flaenoriaethu, fel ag yr oedd yn ystod cyfnod mwyaf acíwt y pandemig. Wrth i Estyn ailddechrau ei arolygiadau yn 2022, yn dilyn seibiant oherwydd y pandemig a’r paratoadau ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru, daeth effaith lawn y pandemig ar addysg yn gliriach. Dywedodd Prif Arolygydd EF wrth y Pwyllgor:

…during the pandemic, all schools, virtually without exception, focused on the well-being and mental health of pupils, and I think that's laudable. Where the best schools focused, though, as well, was on teaching and learning, and really that's where it's fallen behind, I think, in some schools that we do need to pay attention to.

Er bod ysgolion wedi ymdopi’n dda gyda’r gwaith o gefnogi adferiad dysgwyr, ychwanegodd y byddai’r broses hon yn cymryd amser, gan nodi: “any thoughts that we’re getting back to normal here should be dispelled”.

Blwyddyn anodd arall i ysgolion

Mae ysgolion wedi parhau i wynebu heriau'r pandemig, ar yr un pryd â chyflwyno'r cwricwlwm newydd a’r diwygiadau ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Ar y cyfan, mae Prif Arolygydd EF yn gadarnhaol ynghylch y rhagolygon ar gyfer gweithredu'r diwygiadau'n llwyddiannus, tra'n nodi bod cynnydd wedi amrywio. Yn ei adroddiad blynyddol a’i dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mae Prif Arolygydd EF yn tynnu sylw at y materion a ganlyn:

  • Dechreuodd llawer o'r materion a gododd yn ystod y pandemig ddangos arwyddion graddol o welliant. Fodd bynnag, mae sgiliau llythrennedd a rhifedd, yn enwedig sgiliau llafaredd disgyblion iau, wedi bod yn araf yn gwella.
  • Mae rhai disgyblion wedi dangos ymddygiad heriol wrth iddynt ymdrechu i ailaddasu i arferion a disgwyliadau bywyd ysgol, a bu galwadau uwch am gymorth llesiant ac iechyd meddwl.
  • Mae presenoldeb yn parhau i fod yn is nag yr oedd cyn y pandemig, ond mae presenoldeb ymhlith y dysgwyr mwyaf difreintiedig yn peri mwy o bryder. Mae’r bwlch rhwng y dysgwyr mwyaf difreintiedig a dysgwyr eraill yn mynd yn fwy, yn hytrach na’n llai.
  • Erys diffygion yn ansawdd addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac nid yw'r rhan fwyaf o Gynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg awdurdodau lleol yn gwneud cynlluniau pendant ac uchelgeisiol i fynd i'r afael â hyn. Mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae diffyg ymarfer disgyblion o ran defnyddio'r Gymraeg yn ystod y cyfnodau clo, lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad yn y cartref, wedi effeithio ar eu hyder, eu rhuglder a'u tuedd i siarad yr iaith yn yr ysgol.
  • Ceir gormod o amrywiaeth yn y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc 16-19 oed ar draws ysgolion, colegau a dysgu yn y gwaith, yn dibynnu ar ble mae person ifanc yn byw.
  • Cafodd y pandemig effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig ac mae eu cynnydd addysgol wedi syrthio ymhellach y tu ôl i'w cyfoedion.

Dull gwahanol, heb gyhoeddi gradd ar gyfer ysgolion

Yn unol â’i ddull gweithredu newydd wrth gynnal arolygiadau, nid yw Estyn yn cyhoeddi gradd grynodol ar gyfer yr ysgolion y mae'n eu harolygu mwyach, yn wahanol i'r gorffennol pan ddefnyddiai bedwar categori barn, sef: ‘Ardderchog’, ‘Da’, ‘Digonol ac angen gwella’, ac ‘Anfoddhaol ac angen gwella’.

Mae Estyn yn disgrifio ei resymeg fel a ganlyn:

Mae ein dull newydd yn alinio â natur bersonol y cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd ein harolygiadau hefyd yn cynnwys mwy o drafodaethau wyneb-yn-wyneb ac yn rhoi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Credwn y bydd ein dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon sy’n eu helpu i wella heb roi’r pwyslais ar farn.

Mae’r adroddiadau arolygu y mae Estyn yn eu llunio yn cynnwys trosolwg allweddol o ganfyddiadau sy'n canolbwyntio ar gryfderau a meysydd datblygu’r ysgol. Cyhoeddir crynodeb o’r adroddiad ar wahân i rieni sy'n cynnwys yr hyn mae Estyn yn ei alw yr “wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnynt am arolygiad yn gyflym”.

Yn achos ysgolion sy’n peri pryder, mae Estyn yn parhau i osod ysgolion mewn tair lefel ar gyfer camau dilynol, sef: ‘Adolygu gan Estyn’ a dau gategori ymyrraeth statudol: ‘sydd angen gwelliant sylweddol’ ac ‘sydd angen mesurau arbennig’ (mae’r rhain mewn lefel esgynnol o bryder).

Ym mis Awst 2022 (diwedd y cyfnod adrodd):

  • roedd tair ysgol gynradd yn destun mesurau arbennig ac roedd angen gwelliant sylweddol mewn un ysgol gynradd arall (allan o gyfanswm o 1,214 o ysgolion cynradd);
  • roedd 8 ysgol uwchradd yn destun mesurau arbennig ac angen gwelliant sylweddol mewn tair ysgol uwchradd arall (allan o 178).
  • roedd dwy ysgol pob oed yn destun mesurau arbennig (allan o 27).

Mae adroddiad blynyddol Prif Arolygydd EF yn cynnwys adrannau ar bob un o'r sectorau y mae Estyn yn eu harolygu.

'Cenhadaeth genedlaethol' sy’n parhau

Cafodd y term 'cenhadaeth genedlaethol' ei fathu yn 2017 gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg blaenorol, ac mae’n cyfeirio at ymdrech “i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg y gall y genedl i gyd fod yn falch ohoni a bod a hyder ynddi”. Mae Jeremy Miles, y Gweinidog presennol, wedi parhau â’r dull hwn, gan flaenoriaethu “safonau ac uchelgeisiau uchel i bawb” a gwneud ymrwymiad i ystyried pob polisi addysg o safbwynt a yw’n helpu i daclo effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol.

Mae hyn oll yn adlewyrchu'r nod parhaus o godi safonau addysgol, a ysgogwyd gan yr “ysgytwad i system hunanfodlon” yn sgil canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn 2009.

Yn fwy diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer gwella ysgolion (Mehefin 2022) a nododd y Gweinidog ei ddull gweithredu ar ei newydd mewn datganiad ysgrifenedig a datganiad llafar ym mis Ionawr. Mae cryn dipyn o bwyslais yn cael ei roi ar y cwricwlwm newydd i helpu i godi safonau yn y tymor hir, gyda chyfres newydd o fesurau ynghylch perfformiad ysgolion yn cael eu datblygu.

O ran gwerthuso cynnydd yn ystod y degawd diwethaf, bydd yn rhaid cadw llygad barcud ar ganlyniadau PISA 2022 Cymru, y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. A fydd y gwaith o sicrhau gwelliant wedi cyflymu o gymharu â’r cyflymder cyfyngedig y tro diwethaf? A fydd Cymru yn parhau ar waelod y rhestr o ran perfformiad gwledydd y DU? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o 500 pwynt yr un ar gyfer Darllen, Mathemateg a Gwyddoniaeth?

Sut i ddilyn y ddadl a'r datganiad

Disgwyl i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad yn y Senedd ddydd Mawrth 21 Mawrth 2023, gyda’r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2021/22 yn dilyn yn ddiweddarach yr un diwrnod. Gallwch wylio’r sesiwn ar Senedd TV a darllen y trawsgrifiad yn fuan ar ôl i’r sesiwn ddod i ben.

Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru