Enw newydd i'r Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ond y cynigion addysg yn siomi ymgyrchwyr

Cyhoeddwyd 13/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/10/2020   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae pwyslais newydd i'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (fel y'i gelwir bellach), sef trais yn erbyn menywod a marched. Trafodwyd gwelliannau Cyfnod 2 i'r Bil gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 22 Ionawr. Mae crynodeb lawn o'r newidiadau i'w gweld yn y Nodyn Ymchwil. Blog-cy Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y Bil mewn sawl ffordd:
  • ychwanegwyd adran newydd sy'n cyfeirio'n benodol at 'drais yn erbyn menywod a merched' ac sy'n diffinio'r term. Mae teitl byr y Bil wedi newid hefyd;
  • mae adran newydd wedi'i hychwanegu sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i roi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno adroddiad ar sut y maent yn mynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu sefydliadau addysgol, gan gynnwys drwy addysg ryw;
  • mae'r Bil wedi'i ddiwygio i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion ymgynghori cyn cyhoeddi neu ddiwygio'r strategaeth genedlaethol. Yn yr un modd, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ymgynghori ar strategaethau lleol;
  • bellach, mae adran 12 yn cynnwys cyfeiriadau at newid agweddau, comisiynu gwasanaethau a pholisïau'r gweithle fel enghreifftiau o faterion y caiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau arnynt; ac
  • mae teitl y Cynghorydd Gweinidogol wedi'i newid i gael gwared ar y cyfeiriad at 'drais ar sail rhywedd'.
Ni dderbyniodd y Pwyllgor unrhyw rai o welliannau'r gwrthbleidiau, gan gynnwys cais Jocelyn Davies i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol mewn perthynas â churo plant a chynigion addysg Peter Black. Croesawodd ymgyrchwyr y ffocws newydd ar fenywod, ond roeddent yn hynod o siomedig bod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud o ran addysg yn y Bil hwn ar ddiwedd Cyfnod 2. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfnod 1 ar 14 Tachwedd, ac roedd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Tachwedd 2014. Er bod y Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, gwnaed argymhellion i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r Bil drwy:
  • ei seilio ar hawliau i sicrhau bod gan ddioddefwyr hawl i wasanaethau;
  • cyfeirio at 'drais yn erbyn menywod' yn y Bil, er mwyn mynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd achosion o drais yn erbyn menywod, ond gan sicrhau hefyd fod dioddefwyr o ba ryw bynnag yn gallu defnyddio gwasanaethau;
  • darparu ar gyfer rhaglenni addysg gorfodol ar berthnasau iach;
  • creu safonau gofynnol ar gyfer strategaethau lleol;
  • sicrhau bod y cynghorwr yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a bod ganddo'r pŵer i gynnal ymchwiliadau;
  • mabwysiadu diffiniad y Cenhedloedd Unedig o 'drais yn erbyn menywod' a diffiniad y Swyddfa Gartref o 'drais a cham-drin domestig'.
Mae'r Bil bellach yng Nghyfnod 3 a bydd yr holl Aelodau Cynulliad yn ystyried gwelliannau pellach yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth. I gael rhagor o wybodaeth am y Bil, gweler y cofnod blog hwn.
Erthygl gan Hannah Johnson ac Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.