Rhes o dai brics coch wedi'u hadeiladu o'r newydd. Peth gwyrddni ar y ffryntiadau

Rhes o dai brics coch wedi'u hadeiladu o'r newydd. Peth gwyrddni ar y ffryntiadau

“System decach a mwy blaengar” – y camau cyntaf tuag at ddiwygio trethi lleol

Cyhoeddwyd 15/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae diwygio cyllid llywodraeth leol a threthiant lleol wedi bod ar yr agenda wleidyddol ers tro. Er gwaethaf rhai newidiadau graddol i gyfraith trethiant lleol ers sefydlu’r system bresennol dros 30 mlynedd yn ôl, nid yw’r system wedi newid fawr ddim yn y bôn.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir ei bwriad i “geisio diwygio’r dreth gyngor i sicrhau system decach a mwy blaengar” yn ystod y Senedd hon. Ym mis Tachwedd 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) sy’n cynnig diwygio’r trefniadau presennol, a gosod y sylfeini ar gyfer newidiadau deddfwriaethol ychwanegol yn y dyfodol.

Mae’r erthygl hon yn ystyried rhai o brif gynigion y Bil a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.

Ailbrisio’n rheolaidd

Ymhlith y cynigion mwyaf trawiadol yn y Bil yw’r rheini a fydd yn sefydlu cylchoedd pum mlynedd statudol ar gyfer ailbrisio’r dreth gyngor (gan ddechrau yn 2030) a chynigion i ailbrisio ardrethi annomestig (ardrethi busnes) yn amlach, sef bob tair blynedd yn lle bob pump (gan ddechrau yn 2026).

Sicrhau cydbwysedd wrth ddiwygio’r dreth gyngor

Ar hyn o bryd codir treth gyngor ar 1.4 miliwn o anheddau trethadwy yng Nghymru. Mae pob eiddo yn cael ei roi mewn un o naw band ar sail gwerth yr eiddo ym mis Ebrill 2003, sef y tro diwethaf y cafodd y dreth gyngor ei hailbrisio yng Nghymru. Er cyd-destun, mae biliau treth gyngor yn Lloegr a’r Alban yn seiliedig ar brisiadau 1991.

Nod y Bil yw sicrhau bod eiddo domestig yn cael ei ailbrisio’n amlach er mwyn “gwella tegwch y system ardrethi annomestig a'i hymatebolrwydd i newidiadau economaidd.”. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cylch ailbrisio pum mlynedd gan y byddai hynny’n sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y manteision sy'n deillio o ailbrisiadau a'r costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â nhw”. Amcangyfrifir y gallai'r broses ailbrisio nesaf gostio hyd at £18 miliwn i'w gweinyddu.

Clywodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai'r Senedd dystiolaeth o blaid y newid, gan gynnwys tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn nodi bod y cynnig yn “gam beiddgar”. Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) o’r farn y byddai’r newid yn gwella’r sefyllfa bresennol sydd ar hyn o bryd yn pennu treth gyngor ar sail gwerth cymharol anheddau dros 20 mlynedd yn ôl. Dywedodd yr IFS fod dros 40 y cant o anheddau yn y band anghywir i bob pwrpas.

Er bod cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig i ailbrisio’r dreth gyngor bob pum mlynedd, roedd pryderon hefyd. Nododd CLlLC ei bod yn debygol y bydd ailbrisio’n cael effaith sylweddol ar bob trethdalwr, p’un ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, ac roedd y Pwyllgor yn pryderu y byddai ailbrisio yn ystod argyfwng costau byw hefyd yn peri pryder i lawer.

System ardrethi annomestig cyflym sy’n gallu ymateb i newidiadau

O’i gymharu ag ailbrisio’r dreth gyngor, mae ailbrisio ardrethi annomestig wedi bod yn mynd rhagddo’n fwy rheolaidd, a chynhaliwyd y cylch diwethaf yn 2023. Yn gyffredinol, mae’r gwaith o ailbrisio ardrethi wedi mynd rhagddo bob pum mlynedd, ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau dros sefydlu “cylch mwy cyflym ac ymatebol”. Y rhesymeg dros hyn yw y byddai’n creu mwy o sefydlogrwydd i fusnesau a biliau ardrethi cywirach. Byddai hefyd yn cyd-fynd â’r newidiadau a wnaed yn diweddar i’r drefn o ailbrisio ardrethi annomestig yn Lloegr.

Mae'n ymddangos bod rhanddeiliaid yn gefnogol ar y cyfan i newid o'r fath gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn nodi: “there is a greater need to provide sticking plasters on sectors affected by external shocks through reliefs”. Byddai ailbrisio’n rheolaidd yn arwain at lai o newidiadau dramatig mewn ardrethi busnes o un cyfnod ailbrisio i’r llall ac, yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru, gellid sicrhau bod mwy o gysylltiad rhwng ardrethi a phrisiau’r farchnad. Serch hynny, cytunodd pob un o’r rhanddeiliaid na ddylai’r drefn o ailbrisio’n amlach ychwanegu at faich gweinyddol busnesau.

Hysbysiadau cyhoeddus – y cyfryngau print ynteu’r cyfryngau digidol

Er y cynigion uchod, y rhan o’r Bil a lwyddodd i ennyn yr ymateb mwyaf i ymgynghoriad y Pwyllgor oedd y gofyniad i awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau’r dreth gyngor ar-lein. Ar hyn o bryd mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi'r hysbysiadau hyn mewn papurau newydd. Amcangyfrifir y gallai'r newid arbed tua £385,000 i awdurdodau lleol dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Roedd mwyafrif yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gwrthwynebu'r newid. Cyfeiriodd unigolion a chyrff yn ymwneud â’r cyfryngau print at yr effeithiau niweidiol posibl o ran allgáu digidol, democratiaeth leol a hyfywedd papurau newydd lleol. Fodd bynnag, er ei bod yn cydymdeimlo â’r heriau ariannol sy’n wynebu’r cyfryngau print lleol, pwysleisiodd CLlLC mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu ar yr hyn sy’n gweithio orau yn eu hardal. Dywedodd Wrecsam.com, platfform newyddion ar-lein wrth y Pwyllgor fod hysbysiadau cyhoeddus yn “gymhorthdal” i’r cyfryngau print, a chânt eu llywodraethu gan “gyfraith sydd wedi dyddio”.

Ar ôl clywed trafodaeth drylwyr ar y mater, galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y mae’n bwriadu monitro’r modd y caiff darpariaethau’r Bil eu rhoi ar waith. Roedd y Pwyllgor yn pryderu am yr effaith anfwriadol bosibl ar hygyrchedd a thryloywder, ond yn cydnabod mai awdurdodau lleol sydd “yn y sefyllfa orau i benderfynu sut i gyhoeddi’r wybodaeth hon”.

Fframwaith ar gyfer newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol

Yn ogystal â’r cynigion a nodir uchod, yn ei hanfod, mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (rheoliadau) ar amrywiaeth eang o faterion trethiant lleol. Mae hyn yn cynnwys rhyddhad ardrethi annomestig, esemptiadau, lluosyddion a gostyngiadau treth gyngor.

Dywed Llywodraeth Cymru y byddai pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth “yn lleihau ein dibyniaeth ar ddarpariaethau y bu'n rhaid eu ceisio yn aml ym Miliau Senedd y DU”. Mae hefyd yn ceisio datblygu trefn sy’n gallu ymateb yn well i newidiadau cymdeithasol ac economaidd.

Dywedodd nifer o randdeiliaid eu bod yn pryderu am y darpariaethau yn y Bil sy’n rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Dywedodd y Sefydliad Siartredig Trethu y dylid cadw is-ddeddfwriaeth ar gyfer materion gweinyddol yn bennaf a bod y defnydd helaeth o bwerau rheoleiddio eang yn y Bil hwn yn tanseilio gwaith hanfodol y Senedd o graffu ar waith y llywodraeth.

Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyllid yn pryderu ynghylch defnyddio is-ddeddfwriaeth yn y Bil, gyda’r cyntaf yn codi amheuon difrifol:

Nid ydym yn ystyried bod y Bil yn cynrychioli ffordd briodol i lywodraeth ddeddfu. Ni ddylai llywodraeth gynnig deddfwriaeth sylfaenol sy'n creu pwerau i wneud rheoliadau helaeth er mwyn galluogi llywodraethau'r dyfodol i 'feddwl yn greadigol'. Mae hyn yn hwyluso’r broses o osgoi gwaith craffu manwl gan Aelodau o Senedd a etholwyd yn ddemocrataidd.

Daeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i’r casgliad hwn:

… oherwydd natur y newidiadau posibl y gellid eu gwneud mewn rheoliadau yn y dyfodol, dylai darpariaethau penodol yn y Bil fod yn ddarostyngedig i gyfle ychwanegol i’r Senedd graffu arnynt.

Byddai gweithdrefnau cymeradwyo gwell ar gyfer rheoliadau drafft Llywodraeth Cymru yn gwarantu bod pwyllgorau perthnasol y Senedd yn cael “amser priodol i graffu”, y tu hwnt i’r hyn a ddarperir ar gyfer is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol.

Beth nesaf?

Gwnaeth Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd 18 o argymhellion mewn perthynas â’r Bil.

Ar 16 Ebrill, bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ai peidio. Os bydd y Senedd yn penderfynu cefnogi'r Bil, bydd Aelodau o'r Senedd yn cael cyfleoedd eraill i ddiwygio'r Bil cyn i bleidlais derfynol gael ei chynnal.

Bil galluogi yw hwn yn bennaf, ac mae’n cynnig fframwaith i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud nifer o newidiadau polisi yn y dyfodol drwy is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, os caiff ei phasio, Cymru fydd yr unig wlad ym Mhrydain i fod â phroses systematig o ailbrisio eiddo domestig yn rheolaidd.

Gallwch ddilyn y ddadl yn fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru