Mae trais yn erbyn menywod a merched yn pontio ffiniau daearyddol, rhaniadau diwylliannol, a statws economaidd. Mae bywyd menyw yn cael ei golli'n drasig i drais gan ddynion bob 3 diwrnod yn y Deyrnas Unedig, gydag un o bob pedair menyw yn dioddef rhyw fath o gam-drin domestig yn ystod eu hoes.
Gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Threchu Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig (‘Confensiwn Istanbul’) ym mis Gorffennaf 2022. O'r herwydd, mae Llywodraethau'r DU a Chymru bellach wedi'u rhwymo gan gyfraith ryngwladol i amddiffyn menywod a merched rhag trais.
Mewn canfyddiadau rhagarweiniol yn dilyn ymweliad swyddogol â'r DU, nododd Reem Alsalem, Rapporteur Arbennig i'r Cenhedloedd Unedig:
Entrenched patriarchy at almost every level of society, combined with a rise in misogyny that permeates the physical and online world, is denying thousands of women and girls across the UK the right to live in safety, free from fear and violence,
Gwnaeth y Rapporteur Arbennig bwysleisio rôl arweiniol y DU o ran cryfhau ei fframwaith cyfreithiol yn erbyn trais tuag at fenywod a merched, a dywedodd bod y fframwaith ledled y DU wedi'i ategu gan ddeddfwriaeth a pholisïau pwysig yn y gwledydd datganoledig. Fodd bynnag, ychwanegodd fod bwlch sylweddol rhwng polisi a gweithredu yn rhwystro ymdrechion y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig i fynd i'r afael â'r mater hwn yn llawn.
Mae’r bwlch rhwng polisi a gweithredu yn cael ei briodoli i nifer o ffactorau, gan gynnwys patriarchaeth wedi’i ymwreiddio a chynnydd mewn casineb at fenywod, sy’n effeithio ar fannau ffisegol ac ar-lein. Mae safbwynt y Deyrnas Unedig ar hawliau dynol rhyngwladol, yn enwedig o ran mudwyr, hefyd yn cael ei ddyfynnu.
Mae ein herthygl, 'Gwneud Cymru yn lle diogel i fod yn fenyw' yn wynebu'r realiti llym fod mathau amrywiol o drais yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched; o gam-drin corfforol ac ymosodiadau rhywiol i fanipwleiddio emosiynol ac aflonyddu.
Wrth i Aelodau o'r Senedd baratoi ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater (ar 8 Mai), mae'r erthygl hon yn edrych ar y camau sydd eu hangen i 'atal yr epidemig' a sut y gellir mesur cynnydd.
Adroddiad y Pwyllgor: mynd i’r afael â’r “epidemig”
Gwnaeth adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd nodi rhai camau sydd eu hangen i wella diogelwch menywod a merched yng Nghymru.
Ffigur 1 – Camau allweddol o ran diogelu menywod a merched rhag trais – a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
(Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd)
Mesur cynnydd
Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o strategaethau a chyfreithiau i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd. Mae hyn yn cynnwys ei Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26. Mae'r strategaeth gyffredinol hon yn nodi'r amcanion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.
Mae'n cyd-fynd â diben y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol (VAWDASV) (Cymru) 2015 ac mae ganddo chwe amcan allweddol sy'n canolbwyntio ar atal, cefnogaeth i oroeswyr a newid diwylliannol.
O dan Adran 11(1) o Ddeddf VAWDASV (Cymru) 2015, caiff Gweinidogion Cymru eu gorfodi i gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol ar gyfer mesur cynnydd tuag at amcanion y Ddeddf. Rhaid i'r dangosyddion hyn gael eu hadolygu a'u diwygio’n rheolaidd.
Mae’r dangosyddion cenedlaethol cyfredol ar gyfer asesu cynnydd yn ymwneud â strategaeth flaenorol Llywodraeth Cymru (fe'u mabwysiadwyd yn 2019).
Mae strategaeth 2022-2026 yn ehangu’r cwmpas i gynnwys aflonyddu ar y stryd ac yn y gweithle ac mae'n pwysleisio y bydd diogelwch menywod yn dod o newid y diwylliant sy'n methu â mynd i'r afael â gwrywdod gwenwynig. Bydd y meysydd ffocws newydd hyn yn gofyn am ddangosyddion ychwanegol neu wedi'u diweddaru i fesur y cynnydd yn gywir.
Mae grŵp gorchwyl wedi cael ei sefydlu i adolygu’r dangosyddion cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gwaith ar y gweill:
- nodi ffyrdd o sicrhau bod profiad byw pobl yn cael ei gofnodi;
- mae cynlluniau dadansoddol yn cael eu datblygu i ddiwallu anghenion ehangach y dystiolaeth;
- mae ymarfer mapio ar y gweill i nodi ffynonellau data.
Mae Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno dangosyddion newydd ar frys i olrhain y ffordd y caiff ei strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ei gweithredu. Maen nhw'n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu tryloywder ac atebolrwydd drwy ddarparu adroddiadau cynnydd cynhwysfawr.
Y dirwedd o ran data
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y dangosyddion diwygiedig yn cael eu datblygu mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid ac arbenigwyr yn y maes. Maen nhw'n dweud eu bod yn canolbwyntio ar sicrhau y gellir casglu'r data ar gyfer y dangosyddion hyn yn ddibynadwy ac yn foesegol.
Yn seiliedig ar gwmpas ehangach strategaeth VAWDASV ar gyfer 2022-2026, mae rhai dangosyddion newydd posibl y gellid eu hystyried yn cynnwys digwyddiadau aflonyddu ar y stryd ac yn y gweithle. Roedd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn pwysleisio pwysigrwydd gwell dealltwriaeth o gyfran y gwasanaethau sy'n hygyrch i unigolion ag anableddau, neu sy'n cynnig cymorth mewn sawl iaith, yn ogystal â chanran y gweithwyr proffesiynol sy'n dweud bod ganddynt fwy o hyder wrth drin achosion VAWDASV ar ôl hyfforddi.
Mae'n werth nodi hefyd ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio set ddata o ffynonellau data amrywiol ar drais yn erbyn menywod a merched, gan gwmpasu gwahanol fathau o gam-drin fel trais domestig, ymosodiadau rhywiol, a phriodas dan orfod.
Ffigur 2: Y ffigurau diweddaraf ar y dangosfwrdd trais yn erbyn menywod ar gyfer Cymru a Lloegr
Mae'r ffigurau diweddaraf ar y dangosfwrdd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn dangos yr hyn a ganlyn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr:
Hefyd, roedd 1,194 o atgyfeiriadau camfanteisio rhywiol i’r mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol yn y DU yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2018. Yn ogystal â'r ffigurau a gyhoeddwyd ar y dangosfwrdd, mae’r data a gofnodir gan yr heddlu yn dangos:
|
Nid yw strategaeth genedlaethol nac adroddiad cynnydd blynyddol Llywodraeth Cymru yn cynnwys data penodol i Gymru.
Gall Cymru fod yn lle sy’n saffach nag unrhyw le arall i fod yn fenyw
Nod strategaeth Llywodraeth Cymru yw gwneud Cymru yn wlad sy’n saffach nag unrhyw le arall i fod yn fenyw.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dweud bod hon yn ddi-os yn dasg heriol ond nid yn gwbl afrealistig.
Mae'n dweud y gall llywodraethau gymryd camau sylweddol tuag at y nod hwn trwy weithredu strategaethau cynhwysfawr, buddsoddi adnoddau, a blaenoriaethu diogelwch a llesiant menywod a merched.
Er nad oes unrhyw wlad wedi cyflawni hyn yn llawn, mae nifer o wledydd wedi gwneud cynnydd nodedig ac yn enghreifftiau o'r hyn y gellir ei gyflawni gydag ymdrech ac ymrwymiad ar y cyd.
Ffigur 3: Enghreifftiau rhyngwladol
Gwlad yr Iâ: Mae Gwlad yr Iâ yn gyson yn cyrraedd brig mynegeion byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac fe'i gelwir yn aml yn un o'r gwledydd mwyaf diogel i fenywod. Mae ei llywodraeth wedi gweithredu strategaeth Fforwm Cydraddoldeb Cenedlaethau i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd. Sweden: Mae gan Sweden fframwaith cyfreithiol cryf a gwasanaethau cymorth ar gyfer goroeswyr trais ar sail rhywedd. Mae Llywodraeth Sweden wedi gweithredu cosbau cyfreithiol llym i gyflawnwyr, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwasanaethau cymorth arbenigol. Norwy: Mae Norwy wedi cymryd camau mawr i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a brwydro yn erbyn trais yn erbyn menywod. Mae ganddo gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer menywod, heddwch a diogelwch (2023-2030). Seland Newydd: Mae Seland Newydd wedi gweithredu dulliau arloesol i fynd i'r afael â thrais ar sail rhywedd, gan gynnwys cyflwyno strategaeth 25 mlynedd i ddileu trais teuluol a thrais rhywiol. Canada: Mae gan Canada strategaeth trais ar sail rhywedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn mentrau atal, gwasanaethau cymorth, a diwygiadau cyfreithiol i amddiffyn hawliau a diogelwch menywod a merched. |
Er bod y gwledydd hyn wedi gwneud cynnydd, mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau ledled y byd. Ond maen nhw'n dangos ei bod yn bosibl cyflawni'r uchelgais o wneud unrhyw wlad y lle mwyaf diogel yn y byd i fenywod a merched.
Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn 24/7 Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ffoniwch 0808 80 10 800 |
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru