menywod

menywod

Gwneud Cymru yn lle diogel i fod yn fenyw

Cyhoeddwyd 23/01/2024   |   Amser darllen munudau

Mae hi'n ffaith ofnadwy fod trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i ddifetha bywydau, gydag aflonyddu, cam-drin a thrais yn rhywbeth sy'n digwydd yn ddyddiol i lawer un. Mae hi'n frawychus fod dwy fenyw bob wythnos ar gyfartaledd yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gyn-bartner yng Nghymru a Lloegr.

 

[Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol]

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn broblem barhaus sy'n bodoli ledled y byd, gan gynnwys yng Nghymru.

Dengys amcangyfrifon a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod tua 1 o bob 3 (30 y cant) o fenywod ledled y byd wedi dioddef trais corfforol a/neu rywiol yn ystod eu hoes.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn amcangyfrif bod 1.6 miliwn o fenywod rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig, sef tua 7 y cant o’r boblogaeth fenywaidd. Roedd hefyd yn amcangyfrif bod 3 y cant o fenywod rhwng 16 a 74 oed yng Nghymru a Lloegr wedi profi ymosodiad rhywiol (gan gynnwys ymgais) a 5 y cant wedi profi stelcian.

Dywed WHO fod trais yn erbyn menywod – yn enwedig trais gan bartner agos a thrais rhywiol – yn broblem iechyd fawr o ran iechyd y cyhoedd ac yn groes i hawliau dynol menywod.

Heriau yng Nghymru: aflonyddu, rhywiaeth, a chasineb at fenywod

Nid yw Cymru wedi bod yn rhydd rhag achosion o aflonyddu, rhywiaeth a chasineb at fenywod, ac mae achosion wedi cael eu hadrodd ar draws sectorau a diwydiannau amrywiol. Daw hyn yn amlwg pan fyddwch yn ystyried y penawdau canlynol yn y cyfryngau:

Adroddiad newydd yn disgrifio trais yn erbyn menywod fel endemig

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ymwybyddiaeth gynyddol a mudiadau cymdeithasol, fel #MeToo, wedi annog unigolion i ddod ymlaen a rhannu eu profiadau, gan daflu goleuni ar faint y broblem. Mae hyn wedi arwain at fwy o gydnabyddiaeth o'r angen am fesurau ataliol, cymorth i oroeswyr, ac atebolrwydd i gyflawnwyr.

Wythnos diwethaf, cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd adroddiad yn nodi sut mae “atal yr epidemig mewn trais ar sail rhywedd”.

Mae’r adroddiad yn defnyddio’r term trais ar sail rhywedd, gan ddweud bod hyn yn cwmpasu aflonyddu rhywiol, agweddau rhywiaethol, a chasineb at fenywod, yn ogystal â mathau eraill o drais rhyweddol megis cam-drin domestig, trais rhywiol, stelcian, priodas dan orfod, camfanteisio rhywiol, a thrais ar sail anrhydedd.

Mae’n disgrifio trais ar sail rhywedd fel epidemig – mae'r broblem yn un eang a threiddiol, sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn. Mae’n rhesymegol nad yw’r sgandalau yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol, agweddau rhywiaethol, a chasineb at fenywod mewn amrywiol sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt, yn ddigwyddiadau ynysig yn unig. Yn hytrach, mae’n broblem systemig ac ailadroddus sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn niwylliant neu strwythurau cymdeithas.

Dywed yr adroddiad fod angen gwneud mwy nag ymdrin ag achosion unigol yn unig er mwyn mynd i’r afael â’r broblem; mae'n gofyn am newidiadau diwylliannol a systemig cynhwysfawr i greu amgylchedd lle na chaiff aflonyddu ei oddef, a lle caiff camau atal ac atebolrwydd eu blaenoriaethu. Mae’n datgan: “ni ellir atal trais ar sail rhywedd oni bai ein bod yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau”.

Fe wnaeth y Pwyllgor weithio gyda goroeswyr a rannodd eu straeon ac a ysgogodd drafodaeth ehangach am faterion systemig. Cyfarfu aelodau grŵp cynghori’r Pwyllgor ag Aelodau mewn dwy sesiwn breifat ar wahân yn y Senedd. Bydd y grŵp yn cwrdd unwaith eto i ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i’w adroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn addo gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw

Mae datganiad agoriadol Strategaeth Llywodraeth Cymru 2022-2026 ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol yn addewid i sefydlu Cymru fel y lle mwyaf diogel i fenywod. Dywed y Gweinidog:

Gall trais cyffredinol, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar fenywod a dynion, ond dynion sy’n gyfrifol gan mwyaf o bell ffordd. Mae’n eglur mai’r gwahaniaeth mwyaf y gallwn ei wneud yw mynd i’r afael â pharodrwydd dynion i ddefnyddio trais. Nid drwy newid ymddygiad menywod y gwnawn ni sicrhau eu diogelwch. Newid y diwylliant sy’n methu â mynd i’r afael â gwrywdod gwenwynig sydd ei angen.

Mae’r strategaeth yn cydnabod bod trais ar sail rhywedd yn broblem i gymdeithas sy’n gofyn am ymateb ar y cyd. Mae’r Gweinidog yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn arwain ar yr ymateb hwn ac yn ei lywio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ffocws allweddol ar rôl dynion a bechgyn o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae hefyd yn thema allweddol yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Dywedodd yr academydd blaenllaw Dr Stephen Burrell o Brifysgol Durham y dylai llywodraethau dargedu dynion a bechgyn yn y gwaith o atal trais yn erbyn menywod i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol:

Ultimately, this violence is founded in, and plays a significant role in reproducing gender inequalities in which women’s lives are valued less and men are encouraged to expect to have more power.

Nod yr ymgyrch Iawn gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023, yw rhoi’r wybodaeth a’r hyder i ddynion ifanc feddwl am eu hymddygiad eu hunain a’i ddeall, tra hefyd yn cael sgyrsiau agored a gonest gyda’u ffrindiau am eu hymddygiad nhw.

Mae ymgyrch Iawn yn annog dynion mewn tair ffordd benodol:

Iawn i siarad Annog dynion i siarad â’i gilydd, a gweithwyr proffesiynol, am eu hymddygiad a’u perthnasau, mewn mannau diogel heb ofn cael eu barnu.

Cymorth iawn Ewch i sianeli a gwefan Iawn, a sianeli partneriaid cymeradwy, i gael gwybodaeth sydd wedi’i dilysu am faterion perthynas, yn hytrach na chael eich twyllo gan algorithmau a chamwybodaeth ar y we.

Popeth yn Iawn Cymryd camau syml mewn bywyd bob dydd i wella dy ymddygiad dy hun, a chefnogi ffrindiau a chyfoedion i wneud yr un peth.

Fe wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol lansio'r ymgyrch mewn campfa focsio yng Nghasnewydd, gan fynnu bod ymyrraeth a chamau atal cynnar yn hanfodol. Dywedodd bod yn rhaid i ni addysgu dynion a bechgyn ifanc am berthnasoedd iach a sicrhau ein bod ni’n rhoi’r cyfrifoldeb arnynt i atal trais yn erbyn menywod a merched.

Ochr yn ochr ag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, fel yr ymgyrch Iawn, mae adroddiad cynnydd blynyddol 2022 i 2023 Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hefyd wedi buddsoddi mewn rhaglenni addysgol i hyrwyddo perthnasoedd iach, a rhaglenni hyfforddi peidio â chadw’n dawel i herio agweddau cymdeithasol a gwneud cam-drin ar sail rhywedd yn fwy annerbyniol.

Yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad cynnydd blynyddol, mynegodd rhai Aelodau bryderon am barhad trais a cham-drin yn erbyn menywod a merched, gan bwysleisio’r angen am gynnydd pellach. Dywedodd Sioned Williams AS, un o aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod diffyg data penodol i Gymru sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod yn bryder, gan wneud craffu ar effeithiolrwydd y strategaeth genedlaethol a’r dull glasbrint yn her.

Y camau nesaf

Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud argymhellion penodol, gan bwysleisio'r angen am fesurau rhagweithiol, polisïau, a newidiadau diwylliannol i herio stereoteipiau niweidiol. Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd, mentrau addysgol, a deialogau parhaus fel elfennau hanfodol o ran ail-lunio agweddau cymdeithas a datgymalu normau diwylliannol sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn.

Drwy gydnabod trais ar sail rhywedd fel endemig, mae’r adroddiad yn amlygu’r rheidrwydd ar gyfer ymdrechion parhaus i herio a thrawsnewid yr agweddau sylfaenol, y normau, a’r deinameg pŵer sy’n cyfrannu at ymddygiad o’r fath.

Mae'r Pwyllgor yn eiriol dros sefydliadau i sefydlu amgylcheddau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a pharch, gan sicrhau diogelwch pob unigolyn, waeth beth fo'u rhywedd. Mae’r alwad hon yn ymestyn i Senedd Cymru, gan annog y Comisiwn i fuddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi sy’n addysgu gweithwyr ynghylch ymddygiad priodol a pheidio â chadw’n dawel. Yn ogystal, mae’r adroddiad yn tanlinellu rôl Aelodau o’r Senedd o ran dangos arweiniad a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn 24/7 Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ffoniwch 0808 80 10 800


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru