cy

cy

Dŵr i bawb - mynd i'r afael â thlodi dŵr yng Nghymru sy'n ymwybodol o'r hinsawdd

Cyhoeddwyd 11/11/2021   |   Amser darllen munudau

Wrth feddwl am 'dlodi', mae'n annhebygol mai dŵr fyddai'r peth cyntaf i ddod i feddwl rhywun. Yn hytrach, efallai y byddech yn meddwl am y cynnydd diweddar ym mhris tanwydd, pobl yn ciwio mewn banciau bwyd, neu aelwydydd sy'n wynebu'r posibilrwydd o orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref neu fwyta.

Fodd bynnag, mae tlodi dŵr yn realiti rhy gyfarwydd i lawer o aelwydydd.

Mae'r erthygl westai hon gan Lia Moutselou o'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCGC), y corff sy'n cynrychioli defnyddwyr dŵr yng Nghymru, yn ymchwilio i'r mater hwn ymhellach drwy ganfyddiadau ei adroddiad Adolygiad Fforddiadwyedd Annibynnol. Barn yr awduron a geir yma, nid barn Senedd Ymchwil na’r Senedd.

Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod rhai aelwydydd yn gwario llai ar hanfodion eraill er mwyn talu eu bil dŵr. Mae methu prydau bwyd neu ddogni’r defnydd o ddŵr ymhlith dim ond rhai o'r penderfyniadau y mae cwsmeriaid yn eu gwneud i oroesi. Mae hynny er gwaethaf y ffaith na ellir torri'r cyflenwad dŵr am beidio â thalu.

Adolygiad Fforddiadwyedd Annibynnol ar Ddŵr

Ym mis Hydref 2020, gofynnodd Llywodraeth Cymru - ynghyd â Defra yn Lloegr - inni arwain adolygiad annibynnol o'r cymorth fforddiadwyedd presennol ar gyfer cwsmeriaid dŵr sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol yng Nghymru a Lloegr.

Fel rhan o'r adolygiad, gwnaethom gasglu a dadansoddi tystiolaeth gan sefydliadau sy'n canfod eu hunain ar y rheng flaen yn helpu'r rhai hynny sydd mewn caledi ledled Cymru a Lloegr.

Gwnaethom hefyd gomisiynu ton ymchwil newydd yn ymchwilio i ystod o faterion, gan gynnwys effeithiolrwydd y cymorth presennol, a'r ffyrdd gorau o ymgysylltu â'r cwsmeriaid anoddaf eu cyrraedd.

Lansiwyd adroddiad yr Adolygiad Fforddiadwyedd Annibynnol ym mis Mai 2021. Canfu, er gwaethaf ymdrechion gorau gan y sector i gadw biliau dŵr yn isel ac i gefnogi'r rhai hynny sydd mewn angen, fod cwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr yn dal i ystyried eu bil yn anfforddiadwy

Nid oes un diffiniad o dlodi dŵr - mae’r Adolygiad Fforddiadwyedd Annibynnol yn ei ddiffinio fel gwario mwy na 5 y cant o incwm yr aelwyd ar filiau dŵr ar ôl costau tai.

Canfu ein gwaith ymchwil fod 175,000 o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi dŵr, ond dim ond 35 y cant o'r aelwydydd hynny sy'n cael y cymorth sydd ei angen arnynt o dan y trefniadau presennol.

Tynnodd yr adolygiad sylw hefyd at glytwaith o gymorth. Mae amrywiadau mewn meini prawf cymhwyster a chyllid cynlluniau tariff cymdeithasol cwmnïau dŵr yn creu 'loteri cod post' o gymorth. Mae aelwydydd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn cael lefelau gwahanol iawn o gymorth - neu ddim cymorth o gwbl - yn dibynnu ar ble maen nhw.

Mae dau gwmni dŵr Cymru yn rhedeg cynlluniau cymorth - Dŵr Cymru  a Hafren Dyfrdwy - sy’n helpu tua 7 y cant a 2 y cant o'u cwsmeriaid yn y drefn honno, gyda chymorth sy’n cyfateb i oddeutu £28m yn 2021. Dim ond tua 61,000 o gwsmeriaid y mae'r cynlluniau hyn yn eu codi’n llawn o dlodi dŵr, sy'n golygu nad yw'r system bresennol yn mynd yn ddigon pell.

Yn olaf, tynnodd yr adolygiad sylw at rwystrau eraill a all rwystro mynediad defnyddwyr at gymorth. Roedd rhwystrau meddyliol ac emosiynol, gan gynnwys amharodrwydd pobl i fynd i’r afael â’u hanawsterau ariannol ymhlith dim ond ychydig o'r rhwystrau sy’n atal cymorth i'r cwsmeriaid anoddaf eu cyrraedd 

Beth wnaeth yr Adolygiad Fforddiadwyedd Annibynnol ei argymell?

Tariff cymdeithasol sengl

Er mwyn mynd i'r afael â thlodi dŵr, roedd yr adolygiad yn cynnig y dylid creu tariff cymdeithasol sengl ar gyfer Cymru a Lloegr, a dylai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru arwain y diwydiant o ran ei ddylunio a’i weithredu. Byddai hyn yn rhoi cymorth wedi'i dargedu i'r rhai hynny sydd ei angen, mewn ffordd fwy cost-effeithiol.

Byddai'r cymorth a gynigir gan y tariff cymdeithasol sengl yn gosod isafswm o gymorth ariannol, gyda chwmnïau dŵr yn cael y dewis i gyfrannu mwy o'u cyllid eu hunain at fesurau cymorth fforddiadwyedd ehangach.

Addasu i newid yn yr hinsawdd

O ddechrau'r adolygiad, gwnaethom ystyried rôl fforddiadwyedd o ran newid yn yr hinsawdd. Mae fforddiadwyedd biliau dŵr yn bryder allweddol wrth ystyried y buddsoddiad sydd ei angen i addasu i newid yn yr hinsawdd. Gall darparu cymorth cynhwysfawr i'r rhai hynny sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr helpu i leihau rhwystrau i fuddsoddi mewn gwrthsefyll hinsawdd.

Er ein bod yn cydnabod na fydd dod â thlodi dŵr i ben yn datrys newid yn yr hinsawdd, mae synergedd o gymryd agwedd gydgysylltiedig tuag at y ddwy her. Bydd helpu cwsmeriaid i ddefnyddio dŵr yn ddoeth ac yn effeithlon fel rhan o fesurau cymorth fforddiadwyedd o gymorth i gwsmeriaid leihau allyriadau carbon ac hefyd o gymorth i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Clirio'r rhwystrau i gymorth rhagweithiol

Roedd yr adolygiad hefyd yn canolbwyntio ar aelwydydd ledled Cymru sydd ond yn cael a chael i dalu eu bil dŵr. Trwy gydweithio i fabwysiadu argymhellion ehangach yr adroddiad, gallai llywodraethau a'r sector dŵr sicrhau bod y cwsmeriaid hyn yn cael cymorth cyn iddynt fynd i dlodi dŵr.

Er mwyn sicrhau hyn, gwnaethom ddechrau gweithio gyda chwmnïau dŵr ac arbenigwyr eraill i ddatblygu disgrifiadau cyffredin ar gyfer rhai cynlluniau cymorth, gan geisio gwella ymwybyddiaeth a dod â’r dryswch i ben ynghylch y cymorth sydd ar gael. Mae hyn hefyd yn golygu y byddai pobl sy'n symud i Gymru, o Gymru ac o fewn Cymru yn cael mwy o eglurder ynghylch pa gymorth y gallant ei gael.

Mae'r pandemig a thywydd eithafol amlach wedi ynysu grwpiau anodd eu cyrraedd ymhellach. Tynnodd yr adolygiad sylw at yr angen am ddull rhagweithiol o adnabod cwsmeriaid sydd angen cymorth.

Byddai gwella’r data a gedwir am gwsmeriaid, a sut y gellir ei ddefnyddio a'i rannu yn caniatáu i gwmnïau dŵr ddeall amgylchiadau unigolion yn well. Yn ei dro, gallai hyn fod o gymorth i adnabod cwsmeriaid sydd angen cymorth ariannol, a rhoi cyngor a chymorth iddynt ar yr adeg bwysicaf iddynt. Mae'n hanfodol bod y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael cymorth. 

Fforddio dŵr

Mae dŵr mor sylfaenol i'n bywydau bob dydd nes ei fod yn cael ei ystyried yn un o’n hawliau dynol sylfaenol. Er bod pawb yn dibynnu ar ddŵr, ni all pob un ohonom fforddio talu amdano.

Mae un o bob wyth cwsmer yng Nghymru yn dweud bod eu bil dŵr yn anfforddiadwy.

Ar hyn o bryd nid yw’r gefnogaeth gan gwmnïau dŵr yn cyrraedd pawb sydd ei hangen fwyaf:

Mae 175,000 o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi dŵr

Mae 60,000 yn cael rhywfaint o gymorth gyda dŵr. Nid yw 144,000 yn cael unrhyw gefnogaeth o gwbl.

3 prif argymhelliad CCW i ddileu tlodi dŵr yng Nghymru a Lloegr:

Cyflwyno tariff cymdeithasol sengl cynaliadwy. Dylai'r tariff hwn fod â meini prawf cymhwysedd cyson a dylai fod yn hygyrch i bob cwsmer.

Trwy rannu gwybodaeth a data, dylai cwmnïau gynyddu’r wybodaeth sydd ganddynt i wella’r ffordd maent yn nodi’r cwsmeriaid y mae angen cymorth ariannol arnynt.

Dylai cwmnïau dŵr ddefnyddio dull rhagweithiol o nodi'r cwsmeriaid hynny a allai fod angen cymorth.

Mae ble rydych chi'n byw yng Nghymru yn effeithio ar ba gymorth sydd ar gael i chi ar hyn o bryd.

Mae Mariam wedi ymddeol ac mae’n byw ar ei phen ei hun. Mae ei hincwm yn isel felly mae'n cael help trwy gynllun tariff cymdeithasol ei chwmni dŵr, gan dalu dim ond £32 y flwyddyn am ei gwasanaethau dŵr.
Mae Sian yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd ac mae ganddi incwm tebyg i Mariam. Mae hi'n cael help gan ei chwmni dŵr, ond mae'n rhaid iddi dalu bil dŵr o £250.

Gallwch ddarllen mwy am yr adolygiad annibynnol, yr argymhellion llawn a'r camau nesaf yn adolygiad fforddiadwyedd CCW.

Beth sydd nesaf?

Mae'r adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gefnogi newidiadau yn y gyfraith a fyddai'n paratoi'r ffordd ar gyfer tariff cymdeithasol sengl. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu argymhellion yr adolygiad annibynnol ac wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i ymchwilio i dariff cymdeithasol sydd o fudd i bobl Cymru.

Mae'r adolygiad hefyd wedi rhoi cychwyn i brosiectau peilot sy'n ceisio gwella’r cymorth. Mae Dŵr Cymru yn cynyddu gwelededd cymorth ariannol ar filiau ac amlenni. Wrth i wahanol gynlluniau peilot ledled Cymru a Lloegr ddod ar waith byddwn yn asesu'r hyn sy'n gweithio'n dda ac yn rhannu arfer gorau ar draws cwmnïau dŵr a ffiniau cenedlaethol.

Yr hyn sy'n ein cyffroi yw'r gobaith, nid yn unig o fynd i'r afael â thlodi dŵr, ond hefyd rhoi mwy o dawelwch meddwl i aelwydydd ac un peth yn llai i boeni amdano - ar adeg pan mae llawer ohonom yn dod yn fwy ymwybodol o effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn crefu am sicrwydd.

Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch ag Ellen.jones@ccwater.org.uk.


Erthygl gan Lia Moutselou, Uwch Reolwr Polisi Cymru, Cyngor Defnyddwyr Dŵr