Diweddariad – Ymateb i’r coronafeirws newydd (COVID-19)

Cyhoeddwyd 09/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Mae hwn yn fater sy'n esblygu ac mae'r erthygl hon yn gywir ar adeg ei hysgrifennu.

Ar 14 Chwefror 2020, cyhoeddodd Gwasanaeth Ymchwil y Senedd erthygl yn amlinellu ymateb Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i COVID-19. Mae'r blog hwn yn rhoi diweddariad pellach ar y feirws yng Nghymru.

Cadarnhawyd yr achos cyntaf o’r coronafeirws yng Nghymru ar 28 Chwefror 2020, a’r ail ar 5 Mawrth 2020. Erbyn hyn, mae 6 o achosion wedi’u cadarnhau yng Nghymru a disgwylir i'r nifer hwn gynyddu ymhellach. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi dweud ei fod yn disgwyl i achosion godi ym mis Ebrill a bod ar eu huchaf yn ystod mis Mai neu fis Mehefin.

Erbyn hyn, mae 285 o achosion wedi’u cadarnhau yn y DU (2pm, dydd Llun 9 Mawrth 2020), ac mae tri o bobl wedi marw.

Cafodd yr achos cyntaf yng Nghymru ei gadarnhau yn Abertawe. Roedd yr ail glaf o Gaerdydd. Roeddynt ill dau wedi dychwelyd yn ddiweddar o deithiau tramor. Nid oedd cysylltiad rhwng y ddau achos mwyaf diweddar. Roedd y naill unigolyn a’r llall wedi teithio o wahanol rannau o’r Eidal yn ôl i Gymru. Daw un claf o ardal Castell Nedd Port Talbot a daw’r un arall o ardal Casnewydd.

Cynllun gweithredu Coronafeirws Llywodraeth y DU

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun gweithredu sef Coronavirus action plan: a guide to what you can expect ar 3 Mawrth 2020. Mae'r cynllun gweithredu ar y cyd hwn rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodi ymateb fesul cam i'r feirws. Cafodd y pwyslais ei roi i ddechrau ar y camau Cyfyngu ac Ymchwil, ond roedd cynllunio ar gyfer Oedi a Lliniaru hefyd ar waith.

Dyma gamau cyffredinol cynllun Llywodraeth y DU i ymateb i COVID-19:

  • Cyfyngu: canfod achosion cynnar, mynd ar drywydd cysylltiadau agos, ac atal y clefyd rhag cydio yn y DU cyhyd ag sy'n rhesymol bosibl.
  • Oedi: arafu'r ymlediad yn y DU, os bydd yn cydio, gan leihau’r effaith pennaf a’i wyro i ffwrdd o dymor y gaeaf.
  • Ymchwil: deall y feirws yn well a'r camau a fydd yn lleihau ei effaith ar boblogaeth y DU; bod yn arloesol wrth ymateb gan gynnwys diagnosteg, cyffuriau a brechlynnau; defnyddio'r dystiolaeth i lywio datblygiad y modelau gofal mwyaf effeithiol.
  • Lliniaru: cynnig y gofal gorau posibl i bobl sy'n mynd yn sâl, cefnogi ysbytai i gynnal gwasanaethau hanfodol a sicrhau cefnogaeth barhaus i bobl sy'n sâl yn y gymuned i leihau effaith gyffredinol y clefyd ar gymdeithas, gwasanaethau cyhoeddus ac ar yr economi.

Esboniodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ar 5 Mawrth 2020, fod Cymru yn dal i fod wrth gam cyfyngu'r feirws. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa'n symud tuag at y cam oedi, ond newid graddol oedd hynny.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Chris Whitty wrth ASau ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 5 Mawrth 2020 ei bod hi bellach yn debygol iawn bod y feirws yn mynd i ledu mewn ffordd sylweddol a’i bod yn debygol iawn nad oes gan rai pobl sydd bellach wedi’u heintio yn y DU unrhyw gysylltiad ag achosion tramor.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn cyhoeddi’n ffurfiol pan fydd yn newid o'r cam cyfyngu i’r cam oedi – nid yw hyn wedi digwydd eto.

Cadeiriodd Prif Weinidog y DU gyfarfod brys Cobra y bore hwn i benderfynu a yw'n bryd dwyn materion i’r cam nesaf. Bydd y DU yn parhau i fod wrth y cam cyfyngu yn ei hymateb i’r feirws, am y tro. Bydd mwy o weithredu wrth y cam oedi i arafu lledaeniad y feirws. Mae ymyriadau fel cau ysgolion a gwahardd digwyddiadau mawr yn opsiynau posibl a amlinellir yn y cynllun gweithredu ar y cyd. Yng Nghymru, mae canllawiau ar gyfer lleoliadau addysgol i’w cael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd p'un a fydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dilyn gweithredoedd gwledydd eraill trwy ganslo digwyddiadau cyhoeddus er enghraifft, yn dod yn gliriach dros y dyddiau a'r wythnosau i ddod. Awgrymodd Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, mewn un cyfweliad teledu (5 Mawrth 2020) nad yw pethau fel cau ysgolion nac atal llawer o bobl rhag ymgynnull yn gweithio cystal, efallai, nag y mae pobl yn ei dybio o ran atal y lledaeniad. Byddai’n rhaid i’r dystiolaeth wyddonol, meddai, gefnogi camau o'r fath.

Y cyngor sy’n cael ei roi uwchlaw dim yw ‘golchwch eich dwylo’n drylwyr ac yn aml'.

Ymateb Llywodraeth Cymru – y camau nesaf

Mae Llywodraeth Cymru, gan gynnwys GIG Cymru wedi paratoi'n dda i ymateb i epidemig COVID-19 yng Nghymru, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru. Dywedodd fod gan GIG Cymru gynlluniau sydd wedi ennill eu plwyf o ran y ffliw ac y byddai’r rheini’n caniatáu ymateb effeithiol i gleifion yr effeithir arnynt gan COVID-19.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael canmoliaeth am ymateb yn gyflym er mwyn canfod achosion ac eisoes wedi profi dros 630 o bobl am y feirws, gyda'r nod o atal COVID-19 rhag lledaenu. Yng Nghymru, cafodd y rhan fwyaf o’r cleifion hyn – tua 90 y cant, eu profi am y feirws yn eu cartrefi.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd pob cam angenrheidiol i amddiffyn iechyd pobl Cymru.

Cynllunio cyfredol

Roedd datganiad cychwynnol Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19 yn canolbwyntio ar gydweithredu, a chydweithio agos rhwng pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ac asiantaethau iechyd cyhoeddus er mwyn cydlynu camau mewn ymateb i COVID-19.

Anfonwyd y claf cyntaf a gadarnhawyd yng Nghymru i uned ynysu arbenigol yn Lloegr, sy’n arbenigo mewn trin achosion o'r fath.

Yn ôl y bwriad, mae'r trefniant hwn wedi newid wrth i nifer yr achosion a gadarnhawyd gynyddu ledled y DU. Nid yw cleifion o Gymru bellach yn cael eu trin mewn unedau ynysu arbenigol yn Lloegr, ond yn hytrach o fewn GIG Cymru.

Erbyn hyn, mae'n anochel y bydd angen trin cleifion am y feirws yn ysbytai Cymru. Mae hyn yn debygol iawn o roi pwysau ar gapasiti, yn enwedig mewn unedau gofal dwys, wrth i'r feirws ledu.

Yn yr wythnosau i ddod, bydd Llywodraeth Cymru dan bwysau i wneud yn siŵr bod mynediad digonol i welyau gofal critigol wrth i nifer yr achosion gynyddu. Ar hyn o bryd mae gan Gymru lai o achosion o gymharu â nifer yr achosion yn y DU drwyddi draw, a bydd Gweinidogion yn gobeithio bod hynny’n rhoi mwy o amser i'r GIG yng Nghymru gynllunio a pharatoi. Bydd symud brig y feirws ymhellach i ffwrdd o bwysau'r gaeaf ar y GIG yn helpu i sicrhau bod mwy o allu i ymateb.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19

Nid yw hyd a lled COVID-19 a'i fygythiad yng Nghymru – fel ar draws y DU – yn dal i fod yn hysbys, gan fod dealltwriaeth o'r feirws a'r afiechyd y mae'n ei achosi yn dal i ddatblygu. Gellir dod o hyd i wybodaeth swyddogol am COVID-19 a'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU drwy'r lincs canlynol:

Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn yfory (dydd Mawrth 10 Mawrth 2020).


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru