Deddfu yng Nghymru: o ddatganoli gweithrediaeth i fodel cadw pwerau

Cyhoeddwyd 28/06/2024   |   Amser darllen munud

Mae’r ffordd y caiff deddfau eu gwneud yng Nghymru wedi newid mwy yn ystod y 25 mlynedd diwethaf nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.

O ddechreuad y Cynulliad fel sefydliad a oedd yn gwneud is-ddeddfwriaeth yn unig, mae’r Senedd wedi esblygu i fod yn ddeddfwrfa gyflawn, gan basio deddfwriaeth sylfaenol a gosod trethi ar gyfer Cymru.

Yn yr erthygl hon trafodir y gwahanol gyfnodau deddfu yn hanes y Senedd a sut y mae hyn wedi datblygu dros y chwarter canrif ddiwethaf.

1999-2007: Datganoli Gweithrediaeth

Sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel gweithrediaeth i ddechrau, heb unrhyw raniad rhwng y llywodraeth a’r ddeddfwrfa. Roedd yn gallu gwneud is-ddeddfwriaeth gyda phwerau a roddwyd iddo o dan Ddeddfau Senedd y DU.

Cyfraith a grëwyd gan Weinidogion (neu gyrff eraill) o dan bwerau a roddwyd iddynt gan ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol (megis Deddf) yw is-ddeddfwriaeth. Cafodd pwerau cychwynnol y Cynulliad i wneud deddfwriaeth eu nodi mewn cyfres o Orchmynion Trosglwyddo Swyddogaethau (symud swyddogaethau oddi wrth Weinidogion y DU) ac mewn Deddfau dilynol a basiwyd gan Senedd y DU.

Roedd y math hwn o ddatganoli yn cyfyngu ar allu’r Cynulliad i wneud penderfyniadau polisi gan y byddai angen iddo nodi pŵer perthnasol yn gyntaf. Fodd bynnag, ni wnaeth hynny atal y Cynulliad rhag gwneud rhai newidiadau sylweddol i bolisi cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1999-2007.

Fe wnaeth Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 newid y ffordd yr aseswyd disgyblion ysgol yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd. Dilëwyd y profion TASau ac, yn eu lle, caniatawyd i athrawon asesu galluoedd disgyblion.

Pasiodd y Cynulliad hefyd Orchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001. Ehangodd y Gorchymyn y cymhwystra ar gyfer angen blaenoriaethol am dai i bobl ifanc 16 a 17 oed, pobl sy’n ffoi rhag trais domestig a phobl a oedd yn ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog.

2007-18: Pwerau deddfu sylfaenol

Trawsnewidiwyd y broses ddeddfu yng Nghymru gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a oedd yn darparu ar gyfer gwahanu’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru drwy gyfraith (roedd y Cynulliad wedi cytuno ar raniad de facto yn 2002). Cyflwynwyd math o bŵer deddfu sylfaenol, a alwyd yn Fesurau gan y Cynulliad, am y tro cyntaf.

Roedd modd i'r Cynulliad basio Mesurau mewn 20 o feysydd polisi. Rhannwyd y meysydd yn 'faterion'. Ychwanegwyd pob 'mater' fesul tipyn. Gwnaed hyn drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yr oedd yn rhaid i'r Cynulliad a dau Dŷ Senedd y DU ei basio.

Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 oedd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth sylfaenol i gael ei basio gan y Cynulliad. Roedd y Mesur yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i’r GIG ystyried setlo hawliadau yn sgil esgeuluster clinigol gwerth is heb orfod cymryd camau cyfreithiol ffurfiol.

Ymhlith y Mesurau eraill a basiwyd gan y Cynulliad roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a sefydlodd y swydd Comisiynydd y Gymraeg ac a alluogodd i Safonau’r Gymraeg gael eu datblygu; Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a oedd yn integreiddio dyletswyddau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i gyfraith ddomestig Cymru; a Mesurau i sefydlu Bwrdd Taliadau a Chomisiynydd Safonau y Cynulliad.

Yn 2011, yn dilyn refferendwm, cafodd y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol llawn dros 20 o bynciau. Diflannodd y weithdrefn Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Nawr gallai’r Cynulliad basio Biliau’r Cynulliad heb fod gan Senedd y DU unrhyw rôl yn y broses ddeddfwriaethol. Ar ddiwedd y broses rhoddir Cydsyniad Brenhinol i'r Bil gan y Frenhines. Ar y cam hwnnw, daw'n Ddeddf.

Gyda'r pwerau newydd hyn, aeth y Cynulliad ati i weithio ar rai o'r darnau mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth a basiwyd yn hanes datganoli. Pasiwyd 29 o Ddeddfau rhwng 2011 a 2016, gan gynnwys y canlynol:

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 oedd y Ddeddf gyntaf i gael Cydsyniad Brenhinol.

Fe wnaeth Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 gyflwyno system i optio allan o roi organau a meinwe yng Nghymru.

Yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a rhoddwyd dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i sicrhau bod anghenion y boblogaeth bresennol yn cael eu diwallu heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn amlinellu'r fframwaith cyfreithiol sydd ei angen ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.

2018-nawr: Model cadw pwerau ar gyfer datganoli

Digwyddodd y diwygiad diweddaraf i bwerau deddfwriaethol y Senedd ym mis Ebrill 2018. Tan hynny, roedd y Senedd yn gweithredu ar sail model rhoi pwerau. Roedd hyn yn golygu mai dim ond mewn meysydd diffiniedig y gallai’r Senedd ddeddfu. Os nad oedd rhywbeth wedi’i restru fel “pwnc”, yna nid oedd o fewn “cymhwysedd deddfwriaethol” y Senedd (ei chylch gwaith ar gyfer deddfu). 

Ym mis Ebrill 2018, newidiwyd y model i fodel cadw pwerau. O dan y model hwn, mae'r rhagdybiaeth yn cael ei gwrthdroi. Mae pob maes o fewn y cymhwysedd deddfwriaethol oni bai ei fod wedi'i “gadw'n ôl” ar gyfer Senedd y DU. Mae rhai cyfyngiadau cyffredinol hefyd, ond mae popeth arall o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Roedd y newid hwn i fodel cadw pwerau yn argymhelliad allweddol a wnaed gan Gomisiwn Richard a Chomisiwn Silk ill dau ac a gyflwynwyd drwy Ddeddf Cymru 2017. Bwriad y model oedd creu "mwy o sicrwydd" ynghylch yr hyn sydd wedi’i ddatganoli a’r hyn nad yw wedi’i ddatganoli, gan arwain at lai o atgyfeiriadau i’r Goruchaf Lys ac a fyddai felly’n helpu i greu setliad datganoli “a fydd yn fwy ymarferol i’r rheini sy’n gorfod gweithio oddi mewn iddo”. Mewn gwirionedd, mae'r anghytundeb ynghylch cymhwysedd  rhwng Llywodraeth y DU a Chymru wedi parhau.

Yn y cyfnod hwn, mae’r Senedd wedi pasio rhai darnau pwysig o ddeddfwriaeth, gan gynnwys y canlynol:

Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 sy'n dileu’r amddiffyniad o ‘gosb resymol’ i rieni (neu’r rhai sy’n gweithredu in loco parentis) sy'n cael eu cyhuddo o “ymosodiad cyffredin” ar blentyn.

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a wnaeth ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru, gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol i 16, ac ehangu’r etholfraint i gynnwys dinasyddion tramor cymwys.

Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 sy'n gosod dyletswydd statudol ar rai cyrff cyhoeddus i ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol. Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddod i gonsensws neu gyfaddawd â'u hundebau llafur cydnabyddedig wrth osod eu hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Proses, nid digwyddiad

Dros y 25 mlynedd o ddatganoli, mae gallu’r Senedd i basio deddfau wedi newid ac esblygu droeon. Mae’r model cadw pwerau a gyflwynwyd yn 2018 i fod i greu “setliad datganoli mwy eglur, sefydlog a hirhoedlog i Gymru”. Ond nid yw hyn wedi atal y sgwrs am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Chytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru, wedi galw am ddatganoli pellach mewn meysydd fel plismona, cyfiawnder a gwasanaethau rheilffyrdd.

Mae ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn 2020 hefyd wedi cael effaith sylweddol ar ddeddfu yng Nghymru ac ar draws y DU. Mae ein herthygl Gadael yr Undeb Ewropeaidd yn edrych ar hyn yn fanylach.

Mae'n amlwg bod disgrifiad enwog Ron Davies o ddatganoli fel “proses, nid digwyddiad” wedi diffinio 25 mlynedd gyntaf y Senedd.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru