Menyw yn cynhesu ei dwylo wrth y rheiddiadur

Menyw yn cynhesu ei dwylo wrth y rheiddiadur

Ddim yn mynd i ddiflannu: y pwysau costau byw y mae aelwydydd Cymru yn eu hwynebu

Cyhoeddwyd 11/09/2023   |   Amser darllen munudau

Mae pwysau costau byw yn sicr yn parhau i fod arnom. Mae biliau ynni aelwyd cyfartalog yn dod i lawr, ond mae'r cap ar brisiau ynni yn parhau i fod yn llawer uwch na phan ddechreuodd biliau gynyddu ddiwedd 2021. Mae aelwydydd hefyd yn cael llai o gymorth gyda biliau na blwyddyn yn ôl. Mae costau tai’n cynyddu, i dalwyr morgeisi a rhentwyr.

Mae chwyddiant wedi gostwng i 6.8 y cant, a disgwylir iddo ostwng i 5 y cant erbyn diwedd 2023. Er gwaethaf hyn, mae'n dal i fod yn llawer uwch na tharged Banc Lloegr, sef 2 y cant. Ac er bod y gyfradd y mae prisiau bwyd yn cynyddu wedi arafu, ym mis Gorffennaf roeddent yn dal i fod bron 15 y cant yn uwch na blwyddyn yn ôl.

Ddydd Mercher (13 Medi), bydd dadl yn y Senedd ynghylch yr adroddiad ar ddyled a chostau byw cynyddol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae'r erthygl hon yn nodi'r materion allweddol y mae aelwydydd ar draws Cymru yn eu hwynebu, a dulliau posibl o fynd i'r afael â hwy.

Y gostyngiad uchaf erioed mewn safonau byw

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud y disgwylir y gostyngiad mwyaf erioed mewn safonau byw yn 2022-23 a 2023-24, cyn dechrau codi eto o 2024-25. Canfu’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y canlynol:

…falling real wages and rising bills and debt levels have hit households in the bottom half of the income distribution hardest, leading to a shortfall in their real disposable incomes by up to 17 per cent over the period 2019-2024.

Mae Sefydliad Bevan yn tynnu sylw bod 15 y cant o aelwydydd yn cael trafferth fforddio eitemau hanfodol, a bod gan 33 y cant arall ddigon ar gyfer y pethau sylfaenol, ond fawr ddim arall. Mae pedwar grŵp yn wynebu'r risg fwyaf o galedi ariannol: rhentwyr; pobl anabl y mae eu cyflwr yn cyfyngu arnynt yn fawr; rhieni plant dan 18 oed; a phobl sy'n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau etifeddol.

Cefnogi aelwydydd gyda biliau ynni

Nifer yr aelwydydd sy'n gofyn am gyngor gan Cyngor ar Bopeth Cymru am ddyledion ynni yn fwy nag erioed. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi darparu ystod o gymorth i helpu aelwydydd gyda biliau ynni a chostau byw. Mae Ymddiriedolaeth Trussell yn dweud, er bod y cymorh hwn yn rhoi seibiant tymor byr i aelwydydd sydd mewn cyni, nad yw wedi bod yn ddigon i'w helpu i reoli’r argyfwng costau byw am gyfnod estynedig.

Galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu dull tymor hwy o fynd i'r afael â thlodi, drwy fuddsoddi mewn ynni gwyrdd, sgiliau a diogeledd bwyd.

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn tynnu sylw na fydd y Cynllun Cymorth Tanwydd gan Lywodraeth Cymru ar waith y gaeaf hwn. Mae'n dweud na fydd cael gwared ar y cynllun yn cael gwared ar yr angen, gydag effeithlonrwydd ynni gwell yn allweddol i fynd i'r afael â hyn.

Wedi oedi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd ym mis Mehefin, y mae'n bwriadu iddi fod ar waith erbyn y gaeaf. Bydd hyn yn cefnogi aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn anheddau â thystysgrif perfformiad ynni E ac is, neu D i unigolion â chyflwr iechyd cydnabyddedig. Bydd yn cael ei arwain yn bennaf gan y galw, er y gellir datblygu dull sy'n seiliedig ar ardal gyda llywodraeth leol.

Mynd i'r afael â thlodi bwyd

Mae un o bob pump o bobl yng Nghymru wedi cael profiad o ddiffyg diogeledd bwyd dros y 12 mis diwethaf, gan fwyta llai neu hepgor prydau bwyd. Mae’r Mynegai Lleoedd â Blaenoriaeth ar gyfer Bwyd yn tynnu sylw mai'r Rhondda, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a Rhymni sy’n wynebu'r risg fwyaf o ddiffyg diogeledd bwyd.

Yn 2022-23, dosbarthodd Ymddiriedolaeth Trussell 185,320 o barseli bwyd brys ar draws Cymru, gan gynnwys 69,683 i blant. Fodd bynnag, mae wedi dweud nad banciau bwyd yw'r ateb, ac y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun tymor hir i leihau'r angen amdanynt.

Cydnabu’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol bwysigrwydd y cymorth tymor byr a gynigir gan fanciau bwyd. Mae am i Lywodraeth Cymru helpu i bontio i ddull tymor hir, mwy cynaliadwy drwy gefnogi sefydliadau i ddarparu prydau iach i gymunedau a gwella sgiliau coginio pobl.

Costau tai cynyddol

Gyda chyfraddau llog yn codi'n sydyn dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ad-daliadau morgais misol llawer o bobl eisoes wedi cynyddu. Mae Banc Lloegr yn rhagweld y bydd yn effeithio bron ar bob aelwyd sy'n talu morgais dros y tair blynedd nesaf. Mae’r Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes yn amcangyfrif y bydd aelwydydd yng Nghymru yn talu £3,000 ychwanegol y flwyddyn os byddant yn ailforgeisio ar gyfradd sefydlog yn 2023, neu £2,400 os byddant yn ailforgeisio ar gyfradd sefydlog yn 2024.

Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynlluniau i gefnogi pobl sy’n cael trafferth talu eu morgais i aros yn eu cartrefi, ac mae wedi dyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi hyn.

Er ein bod wedi clywed llawer am gynnydd i daliadau morgais dros y misoedd diwethaf, mae cynnydd mwy nag erioed mewn rhenti preifat hefyd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adrodd bod prisiau rhent yng Nghymru wedi cynyddu 6.5 y cant dros y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf 2023. Mae Homelet yn tynnu sylw bod rhenti tenantiaethau rhent preifat newydd wedi codi 9.1 y cant dros y cyfnod hwn. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar bapur gwyrdd ar dai digonol, gan gynnwys mesurau sy'n ymwneud â fforddiadwyedd tai a rhenti teg.

Creu 'system fudd-daliadau yng Nghymru'

Un o'r prif offer y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i gefnogi aelwydydd incwm isel yw grantiau prawf modd, y cyfeirir atynt weithiau fel y 'system fudd-daliadau yng Nghymru'. Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, y darperir y rhan fwyaf ohonynt gan Lywodraeth y DU. Comisiynwyd Policy in Practice gan nifer o sefydliadau i gynnal astudiaeth ddichonoldeb i ddatblygu dull mwy cydlynol o weinyddu'r grantiau hyn. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y canlynol:

  • byddai meini prawf cymhwysedd symlach yn gwella’r broses o nodi cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau yng Nghymru ac yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n eu hawlio;
  • byddai creu proses ymgeisio ddigidol gyffredin sy’n cwmpasu’r gofynion data ar gyfer yr holl fudd-daliadau yng Nghymru yn cynyddu’r nifer sy’n eu hawlio.

Galwodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru wireddu ei gweledigaeth ar gyfer 'system fudd-daliadau yng Nghymru'. Awgrymodd ddatblygu dull lle y mae aelwydydd sy'n cael un budd-dal yn cael eraill y maent yn gymwys i'w cael yn awtomatig. Nod Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi siarter fudd-daliadau erbyn diwedd y flwyddyn hon, gan nodi dan ba egwyddorion y bydd y system yn gweithredu. Mae hefyd yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer dull cyffredin o weinyddu'r grantiau hyn.

Pwysau'r gaeaf

Mae Sefydliad Bevan yn dweud nad oes arwydd y bydd pwysau costau byw’n gostwng dros y misoedd nesaf, gan amlinellu:

…there is undoubtedly more pain to come. Mortgage and rent costs are set to continue to rise, food producers are talking about high food prices becoming the norm and there are no signs of energy costs returning to 2021/22 levels.

Ym mis Mehefin, pleidleisiodd y Senedd yn unfrydol i gefnogi cynnig yn seiliedig ar themâu ymgyrch Climate Cymru, sef ‘Cynnes y Gaeaf Hwn’ a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i gefnogi aelwydydd agored i niwed y gaeaf hwn. Mae hyn yn cynnwys cynyddu rhaglenni effeithlonrwydd ynni a chefnogi ynni cymunedol; a chodi'r angen am gymorth ledled y DU gyda Llywodraeth y DU.

Fodd bynnag, cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar fod Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol yn ystod y flwyddyn. Bydd yn gweithio i liniaru'r rhain yn seiliedig ar gefnogi'r rhai sydd â'r angen mwyaf a "diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, cyn belled â phosibl". Bydd y penderfyniadau y mae'n eu gwneud, a sut y mae'n eu gweithredu, yn hynod bwysig i lawer o aelwydydd ar draws Cymru.

Gallwch wylio'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol drwy Senedd TV.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru