Prif ddelwedd yr erthygl yw Siambr y Senedd oddi uchod.

Prif ddelwedd yr erthygl yw Siambr y Senedd oddi uchod.

Dau ddegawd o ddiwygio: sut y mae trafodaethau am setliad cyfansoddiadol Cymru wedi siapio’r Senedd?

Cyhoeddwyd 28/06/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r ffordd y mae deddfau’n cael eu gwneud ar gyfer Cymru wedi cael ei dylanwadu’n drwm dros y 25 mlynedd diwethaf gan gyfres o gomisiynau, pwyllgorau a phaneli a gafodd eu cynnull i asesu gweithrediad y setliad datganoli.

Mae’r cyrff hyn, sy’n aml yn cynnwys cyn-wleidyddion a gweision sifil, ochr yn ochr ag academyddion a chynrychiolwyr busnes a chymdeithas sifil, wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o lywio'r broses ddeddfu yng Nghymru.

Bydd yr erthygl hon yn edrych ar y rôl y mae’r grwpiau hyn wedi’i chwarae a sut y mae eu canfyddiadau allweddol wedi dod i ddylanwadu ar ddeddfu yng Nghymru.

Comisiwn Richard – golwg gyntaf ar ddiwygio

Yn gynnar yn nhymor cyntaf y Cynulliad, fel y'i gelwid ar y pryd, cytunodd Llafur Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fel rhan o’u clymblaid, i sefydlu comisiwn annibynnol i ymchwilio i bwerau a threfniadau etholiadol y Cynulliad "i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu er lles gorau pobl Cymru".

Cyhoeddodd y Comisiwn, a gadeiriwyd gan yr Arglwydd Richard, un o'r Arglwyddi Llafur a chyn arweinydd Tŷ’r Arglwyddi, ei adroddiad yn 2004. Roedd yn cynnwys cynnig i roi pwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad, gan nodi materion a fyddai’n cael eu cadw'n ôl ar gyfer San Steffan. Wrth wneud hynny, argymhellodd y Comisiwn y dylai’r Cynulliad gynyddu mewn maint i 80 o aelodau a chael ei rannu’n ddau gorff ar wahân – gweithrediaeth a deddfwrfa – gan ddod â’r strwythur ‘corff corfforedig’ a oedd yn ei le ers 1999 i ben.

Rhoddwyd rhai o argymhellion y Comisiwn ar waith yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, a sefydlodd set gyfyngedig o bwerau deddfu sylfaenol i’r Cynulliad, gyda’r posibilrwydd o ehangu’r pwerau hyn yn dilyn pleidlais mewn refferendwm, a gynhaliwyd yn 2011. Mae ein herthygl ar deddfu yng Nghymru yn trafod hyn yn fanylach.

Comisiwn Silk – datganoli cyllidol a deddfwriaethol

Yn dilyn y bleidlais gadarnhaol yn refferendwm 2011, sefydlwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (a elwir yn Gomisiwn Silk) fel rhan o gytundeb clymblaid Llywodraeth y DU rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cafodd y Comisiwn y dasg o adolygu "trefniadau ariannol a chyfansoddiadol Cymru". Fe’i cadeiriwyd gan Syr Paul Silk, cyn Glerc y Cynulliad, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad a dau aelod annibynnol.

Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf y Comisiwn ar ddatganoli cyllidol ym mis Tachwedd 2012. Gwnaeth yr adroddiad 33 o argymhellion y dywedodd y Comisiwn y byddent yn "grymuso Llywodraeth Cymru ac yn dod â mwy o gyfrifoldeb drwy roi i Gymru ei phwerau trethu a benthyca ei hun”. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ganfyddiadau Comisiwn Holtham ar Setliad Ariannu i Gymru. Cafodd llawer o'r argymhellion eu rhoi ar waith yn Neddf Cymru 2014.

Yn ei ail adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014, argymhellwyd y dylai’r model datganoli i Gymru gael ei ddisodli gan ‘fodel cadw pwerau yn ôl’, gyda deddfwriaeth newydd yn nodi’r pwerau a fyddai’n cael eu cadw'n ôl ar gyfer Senedd y DU. Argymhellodd hefyd y dylid datganoli pwerau dros elfennau o drafnidiaeth, caniatáu prosiectau ynni a phlismona.

Argymhellodd yr adroddiad hefyd y dylid cynyddu maint y Cynulliad “er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaeth craffu yn well” ac y dylid cydnabod y sefydliad fel “sefydliad parhaol, gyhyd â bod mwyafrif pobl Cymru’n ewyllysio hynny".

Nodwyd ymateb Llywodraeth y DU i'r ail adroddiad yn 'Pwerau at Bwrpas' a datblygwyd newidiadau i'r setliad datganoli yn Neddf Cymru 2017.

Diwygio’r Senedd – sefydliad sy’n newid ac yn esblygu

Gan ragweld y bydd y Senedd yn cael pwerau newydd dros ei maint a'i threfniadau deddfwriaethol o dan Ddeddf Cymru 2017, sefydlwyd Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i ddarparu:

cyngor cadarn, gwleidyddol ddiduedd ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen i gynrychioli pobl Cymru yn effeithiol, y system etholiadol fwyaf addas, a’r oedran pleidleisio isaf.

Fe wnaeth y Panel, dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister, gyfres o argymhellion ar gyfer newidiadau i faint y Senedd, ei system etholiadol a phwy allai bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

Rhoddwyd rhai o'r argymhellion hyn ar waith yn Neddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, sef gostwng yr oedran pleidleisio i 16, caniatáu i ddinasyddion tramor penodol bleidleisio a newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru neu Welsh Parliament.

Heb y consensws gwleidyddol i roi gweddill y diwygiadau a argymhellwyd gan y Panel Arbenigol ar waith, sefydlodd y Senedd Bwyllgor Diwygio Etholiadol y Senedd i edrych ar argymhellion y Panel ac amlinellu “trywydd ar gyfer diwygio” fel sail i safbwyntiau polisi a maniffestos pleidiau gwleidyddol ar gyfer etholiad 2021 y Senedd.

Yn dilyn yr etholiad hwnnw, sefydlwyd Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ym mis Hydref 2021 i lunio cynigion i’w cynnwys ym Mil Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Senedd. Gwnaeth y Pwyllgor 31 o argymhellion, yr oedd rhai ohonynt yn wahanol i’r rhai a wnaed mewn adroddiadau blaenorol a rhai ond wedi'u cytuno gan fwyafrif aelodau'r Pwyllgor yn unig.

Mae dau Fil Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno i’r Senedd gyda’r nod o roi'r argymhellion hyn ar waith. Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a basiwyd gan y Senedd ar 8 Mai 2024, yn ehangu maint y Senedd i 96 o Aelodau ac yn cyflwyno system etholiadol rhestr gaeedig. Mae Bil Senedd Cymru (Rhestr Ymgeiswyr Etholiadol), a fyddai’n cyflwyno cwotâu rhywedd gorfodol ar gyfer etholiadau’r Senedd, yn dal i gael ei ystyried gan y Senedd.

Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru – sgwrs sy'n parhau?

Nid cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon oedd diwedd y drafodaeth ar gyfansoddiad Cymru. Sefydlwyd Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o’i chytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, ym mis Tachwedd 2021, gyda dau amcan bras:

  1. ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni; a
  2. ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

Daeth adroddiad terfynol y Comisiwn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024, i’r casgliad fod y setliad datganoli presennol “mewn perygl o gael ei erydu'n raddol” a heb weithredu ar frys "ni fydd setliad hyfyw i’w ddiogelu”. Argymhellodd y Comisiwn y dylid datganoli rhagor o bwerau dros feysydd fel cyfiawnder, plismona a gwasanaethau rheilffyrdd.

Er ei fod wedi dod i’r casgliad nad yw’r setliad presennol yn “sail ddibynadwy na chynaliadwy” ar gyfer llywodraethu Cymru, nid aeth mor bell ag argymell ffordd benodol ymlaen, gan nodi yn lle hynny dri “opsiwn hyfyw”: atgyfnerthu datganoli, ffederaliaeth ac annibyniaeth.

Fodd bynnag, ni chafodd adroddiad y Comisiwn gefnogaeth unfrydol gan y Senedd, ac felly Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ystyried a gweithredu ei argymhellion.

Newidiadau i ddod

Drwy gydol y cyfnod datganoli, bu trafodaeth barhaus bron am bwerau a maint y Senedd. Mae deddfwriaeth bellach wedi’i phasio a fydd yn cynyddu nifer Aelodau’r Senedd o 60 i 96.

Mae’n debygol y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar sut y mae’r Senedd yn gweithredu a’r capasiti sydd ar gael o fewn ei haelodaeth i gyflawni ei rôl o graffu ar Lywodraeth Cymru ac ar ddeddfwriaeth.


Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru