Dangosfwrdd ystadegau COVID-19

Cyhoeddwyd 05/04/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/06/2022   |   Amser darllen munudau

Mae ein dangosfwrdd COVID-19 yn dangos data ynghylch derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau yng Nghymru. Rydym wedi cynnwys siartiau cryno sy’n cael eu diweddaru'n rheolaidd ac yn cael eu hadolygu wrth i'r data newid.

Wrth i’r rhaglen brofi symud i ffwrdd o gyfundrefn brofi cyffredinol ac arferol i ddull sydd wedi'i dargedu, rydym wedi symud ffocws y dangosfwrdd tuag at ddata ar dderbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau o ganlyniad i COVID-19.

Mae'r tab cyntaf yn dangos data ar dderbyniadau i'r ysbyty. Cliciwch ar y saethau ar y gwaelod i weld y data ar gyfer marwolaethau. Gellir gweld yr holl ddelweddau ar sgrin lawn drwy hofran drostynt a chlicio ar “focus mode”.

Dehongli statws brechlyn

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro na ddylid dehongli'r data hwn fel mesur o effeithiolrwydd brechu:

Yng nghyd-destun cyfradd frechu uchel iawn ymysg y boblogaeth, hyd yn oed gyda brechlyn hynod effeithiol, byddai disgwyl i gyfran fawr o’r achosion ddigwydd mewn unigolion sydd wedi'u brechu, a hynny oherwydd bod cyfran fwy o'r boblogaeth wedi’i brechu nag sydd heb ei brechu.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn monitro effeithiolrwydd brechlynnau ar gyfer COVID-19.

Diffiniadau o nifer y bobl yn yr ysbyty

Mae nifer y bobl sydd yn yr ysbyty am resymau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn golygu nifer y gwelyau wedi’u staffio a ddefnyddir gan glaf sy'n bodloni'r diffiniad o glaf lle bo ‘Cadarnhad’ neu ‘Amheuaeth’ neu sy’n ‘Gwella’ o COVID-19.

Mae claf 'nad yw’n glaf COVID-19' yn glaf nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf o ran ‘Cadarnhad’, ‘Amheuaeth’ neu sy’n ‘Gwella’ o COVID-19. Adroddir bod cleifion sy'n cael haint COVID-19 yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty ac wedyn yn bodloni'r meini prawf israddio yn gleifion nad oes ganddynt COVID-19.

Gellir gweld diffiniadau manwl gywir a gwybodaeth ansawdd ystadegol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diffiniad o farwolaethau gormodol

Defnyddiwyd y cyfartaledd pum mlynedd rhwng 2015 a 2019 i wneud cymhariaeth â nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2020 a 2021. Mae hyn yn darparu cymhariaeth ar gyfer nifer y marwolaethau a ddisgwylir bob wythnos mewn blwyddyn arferol (sef blwyddyn heb bandemig COVID-19). Bydd nifer y marwolaethau a gofrestrir yn 2022 yn cael ei gymharu â’r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer 2016, 2017, 2018, 2019 a 2021.

Rhaid bod yn ofalus wrth ddehongli marwolaethau gormodol ar gyfer mis Ionawr 2022. Mae'r cyfartaledd pum mlynedd a ddefnyddir i gyfrifo marwolaethau gormodol yn cynnwys marwolaethau a gofrestrwyd ym mis Ionawr 2021 – cyfnod a welodd rai o'r niferoedd uchaf o farwolaethau wythnosol yn sgil COVID-19. Mae hyn yn lleihau nifer y marwolaethau gormodol, a gall esbonio’n rhannol pam fod gwerthoedd negyddol mawr ar gyfer y niferoedd o farwolaethau gormodol ym mis Ionawr 2022.

Ffynonellau data

Cyhoeddir data ar dderbyniadau i’r ysbyty ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae data sy’n deillio o arolwg ynghylch statws brechlyn cleifion mewnol ysbytai yn cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data ar farwolaethau cofrestredig wythnosol a marwolaethau gormodol, ynghyd â dadansoddiad marwolaethau misol.

Mae ystadegau COVID-19 yn cael eu hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei ddangosfwrdd ac yn cael eu diweddaru bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ystod o ddata ynghylch nifer yr achosion a gadarnhawyd, episodau profi, marwolaethau, derbyniadau i'r ysbyty, ymgynghoriadau â Meddygon Teulu yn ymwneud ag anadlu, galwadau i Galw Iechyd Cymru ac 111, gwyliadwriaeth o ran ysgolion, profion llif unffordd a brechiadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod yr holl ddata a gyhoeddir ar ei ddangosfwrdd yn rhai dros dro ac y byddant yn destun adolygiad yn y dyfodol.

Mae dangosfwrdd rhyngweithiol Llywodraeth Cymru ar COVID-19 yn darparu trosolwg o’r data, ynghyd ag effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y pandemig ar y gymdeithas a’r economi.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi data brechu ar ei ddangosfwrdd. Mae'r data diweddaraf yn cael eu dadansoddi yn ein herthyglau ar ddata brechu COVID-19.

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi data dyddiol o bob rhan o'r DU ar ddangosfwrdd . Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ei gwefan ac mae Cofnodion Cenedlaethol yr Alban yn cyhoeddi diweddariad wythnosol ar farwolaethau COVID-19. Mae'r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ei dangosfwrdd.

O ran cael gwybodaeth fyd-eang am COVID-19, mae gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ddangosfwrdd sy’n dangos achosion a marwolaethau a gadarnhawyd. Hefyd, mae Our World in Data yn cyhoeddi gwybodaeth am brofion, achosion, marwolaethau a derbyniadau i’r ysbyty.


Erthygl gan Joe Wilkes, Helen Jones a Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru