Cytundeb masnach y DU-Awstralia: beth ydym ni'n ei wybod hyd yn hyn?

Cyhoeddwyd 09/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 15 Mehefin, ar ôl bron i flwyddyn o drafodaethau, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bod wedi cytuno ar gytundeb masnach rydd ag Awstralia. Dyma'r cytundeb masnach rydd newydd cyntaf y mae'r DU wedi'i negodi ers gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae cytundebau masnach eraill y DU wedi bod yn gytundebau treigl yr UE i raddau helaeth. Er bod y trafodaethau'n parhau, mae'r ddwy ochr wedi cyhoeddi Cytundeb mewn Egwyddor yn nodi’r hyn y maent wedi cytuno y dylid ei gynnwys yn y cytundeb terfynol. 

Beth ydym ni'n ei wybod hyd yn hyn?

Mae prif elfennau'r cytundeb yn cynnwys meysydd sy'n gyffredin i'r rhan fwyaf o gytundebau masnach rydd modern. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau ar fasnach mewn nwyddau, gwasanaethau, masnach ddigidol, caffael gan lywodraethau, a rhwystrau technegol i fasnach. Mae pennod benodol ar symudedd hefyd wedi'i chynnwys a fydd yn golygu y bydd yn haws i ddinasyddion y DU o dan 35 oed allu teithio a gweithio yn Awstralia.

Bydd y cytundeb yn dileu'r holl dariffau ar nwyddau'r DU sy’n cael eu hallforio i Awstralia a'r mwyafrif llethol o dariffau ar nwyddau Awstralia sy'n dod i mewn i'r DU. Fodd bynnag, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer masnach heb dariff, bydd busnesau’n ddarostyngedig i ofynion ‘rheolau tarddiad’. Yn eu hanfod, mae’r rheolau hyn yn cadarnhau o ble y daw nwyddau, er enghraifft bydd yn rhaid i allforiwr y DU brofi bod y cynnyrch y mae'n ei werthu yn dod o’r DU, neu fod digon o waith wedi cael ei wneud arno yn y DU iddo fod yn gymwys ar gyfer y cyfraddau tariff ffafriol o dan gytundeb masnach y DU ac Awstralia.

Er mwyn mynd i'r afael â sensitifrwydd cynnyrch penodol yn y DU, bydd tariff llawn a mynediad heb gwota ar gyfer allforion amaethyddol i'r DU o Awstralia yn cael eu cyflwyno’n raddol dros nifer o flynyddoedd, a hynny drwy ddefnyddio Cwotâu Cyfradd Tariff trosiannol (TRQ). Bydd mecanwaith diogelu dwyochrog cyffredinol yn berthnasol i holl nwyddau hefyd er mwyn darparu rhwyd diogelwch i’r diwydiant os ydynt yn wynebu niwed difrifol yn sgil cynnydd mewn allforion o ganlyniad uniongyrchol i’r cytundeb masnach rydd.

 

Cwotâu Cyfradd Tariff: swm nwyddau penodol y gellir eu mewnforio i ardal dollau ar dariff is neu dariff sero. Unwaith y bydd mewnforion yn fwy na therfyn swm y cwota, fel arfer bydd cyfradd tariff uwch yn gymwys.

Effaith bosibl ar Gymru?

Yn ôl Llywodraeth y DU, ni fydd £4.3 biliwn o allforion y DU yn ddarostyngedig i dariffau mwyach, a gall cwsmeriaid y DU ddisgwyl prisiau is a mwy o ddewis mewn nwyddau o Awstralia. Awstralia yw 21ain marchnad allforio fwyaf Cymru a'r 45fed marchnad fewnforio fwyaf gyda chyfanswm gwerth masnach mewn nwyddau yn 2020 o £158.6 miliwn.

Mae  Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif y byddai effaith gyffredinol cytundeb masnach ag Awstralia ar economi'r DU yn gyfyngedig, gyda chynnydd disgwyliedig rhwng 0.01 y cant a 0.02 y cant yn GDP y DU a chynnydd o 0.00 y cant i <0.05 y cant i GVA Cymru yn seiliedig ar amcangyfrif o newidiadau modelu i wahanol sectorau o'r economi.

Mae gwaith modelu a gynhaliwyd gan Arsyllfa Polisi Masnach y DU hefyd wedi tynnu sylw at effaith economaidd gyfyngedig y cytundeb, gyda chynnydd mewn allbwn ar gyfer y DU o 0.07 y cant a chynnydd o 0.16 y cant i Awstralia. Maent wedi dadlau bod arwyddocâd economaidd cyfanredol bach y fargen i'r DU yn deillio o faint cymharol economi Awstralia, y pellter rhwng y ddwy wlad, a thariffau lefel isel sydd eisoes yn bodoli ar nwyddau.

Fodd bynnag, gall sectorau unigol o'r economi gael eu heffeithio'n wahanol. Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU yn rhagweld y gallai bargen ag Awstralia gael effaith negyddol ar sectorau bwydydd wedi'u lled-brosesu ac amaethyddiaeth yn y DU. Rhagwelir y bydd y cytundeb yn cael effaith gadarnhaol ar sectorau eraill fel ynni, cemegau, rwber a phlastig.

Mae'r Undebau Ffermio yng Nghymru yn pryderu y gallai’r cytundeb niweidio’r sector amaethyddol, gan y gallai fod yn rhatach i ddefnyddwyr y DU brynu nwyddau o Awstralia am fod cost eu cynhyrchu yn llai. Yn ogystal, mae’r NFU wedi dadlau y gallai cytundeb heb dariffau ag Awstralia osod cynsail ar gyfer cytundebau masnach yn y dyfodol â gwledydd eraill sy’n allforio cynhyrchion amaethyddol ar raddfa fawr fel Seland Newydd ac UDA.

Sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r cytundeb?

Mae'r Prif Weinidog wedi mynegi pryderon o'r blaen am effaith bosibl cytundeb masnach ag Awstralia ar economi Cymru a’r Gymraeg. Fodd bynnag, ar 16 Mehefin, ar ôl i gytundeb gael ei gyhoeddi, dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad ysgrifenedig y gallai cytundeb masnach ag Awstralia arwain at fuddion posibl i Gymru. Dywedodd y datganiad hefyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld manylion y cytundeb eto ond ei bod wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy gydol y trafodaethau ac wedi gallu rhannu ei barn:

(…) mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir drwy gydol y trafodaethau na ddylai unrhyw fargen fasnach roi cynhyrchwyr Cymru dan anfantais na chyfaddawdu'r safonau uchel sydd mor bwysig i ni yng Nghymru. Rydym hefyd wedi mynegi rhai pryderon wrth Lywodraeth y DU, ac yn benodol o ran yr angen i sicrhau y gall ein cynhyrchwyr barhau i gystadlu ac i sicrhau nad ydynt o dan unrhyw anfantais.

Bydd Llywodraeth Cymru yn craffu ar y cytundeb mewn egwyddor ac yna cyhoeddi adroddiad yn amlinellu yr effaith bosibl ar Gymru.

Y DU yn ymuno â'r CPTPP

Mae Llywodraeth y DU o’r farn y bydd cytundeb masnach y DU ac Awstralia yn helpu i ‘agor y ffordd’ ar gyfer ymuno â'r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer ardal masnach rydd Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP). Cafodd trafodaethau mynediad y DU eu lansio’n ffurfiol gydag aelodau’r CPTPP ar 22 Mehefin 2021. Mae gan y DU gytundebau masnach eisoes â saith o'r aelodau, gan gynnwys Canada, Mecsico a Japan.

 

Mae'r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer ardal masnach rydd Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) yn gytundeb masnach rydd rhwng 11 o wledydd o amgylch y Môr Tawel. Mae’r aelodau yn cynnwys Awstralia, Canada, Chile, Japan, Mecsico, Maleisia, Seland Newydd, Singapôr, Periw, Fietnam a Brunei Darussalam.

Geiriwyd y cytundeb mewn egwyddor ar fargen fasnach y DU ac Awstralia hefyd yng nghyd-destun bwriad y DU i ymuno â'r CPTPP. Mae'r penodau ar fuddsoddi, llafur a'r amgylchedd i gyd yn cyfeirio at ddarpariaethau a phrosesau presennol y CPTPP fel meincnod ar gyfer y berthynas ddwyochrog rhwng y DU ac Awstralia. Yn ogystal, mae'r ddwy wlad wedi ymrwymo yn y bennod ar fynediad i'r farchnad nwyddau na fydd y naill ochr na'r llall yn ceisio mynediad ychwanegol na gostyngiad cyflymach yn sgil y ffaith bod y DU wedi ymuno â’r CPTPP.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae trafodaethau rhwng y DU ac Awstralia yn dal i fynd rhagddynt. Nid yw llawer o'r manylion sydd eu hangen er mwyn deall goblygiadau llawn y cytundeb i Gymru ar gael eto. Mae angen troi'r cytundeb terfynol yn destun cyfreithiol y gellir ei lofnodi wedyn cyn bod y ddwy ochr yn cychwyn eu prosesau craffu a chadarnhau priodol. I ddysgu mwy am pam mae'r Senedd yn craffu ar faterion cytundebau rhyngwladol, darllenwch ein herthygl materion o bwys ar gyfer y Chweched Senedd.

Erthygl gan Rhun Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru