Cymru ac Ewrop casgliad erthyglau

Cyhoeddwyd 23/03/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r casgliad hwn o erthyglau yn nodi perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd.

Cafodd ei baratoi ar gyfer y cynrychiolwyr a aeth i chweched cyfarfod Pwyllgor Rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd - Grŵp Cyswllt y DU. Mae ein herthygl ddiweddar yn esbonio mai'r Senedd oedd y sefydliad cyntaf yn y DU i gynnal cyfarfod o'r grŵp hwn rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit, a sut ddigwyddodd hynny.

Mae'r casgliad yn cynnwys erthyglau ar pynciau a ganlyn:

  • cysylltiadau rhwng y DU a'r UE a chyfrifoldebau Gweinidogion Cymru;
  • sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli o ran y cysylltiadau rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit;
  • dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru;
  • Cymru a Phrotocol Gogledd Iwerddon;
  • cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid ar ôl Brexit yng Nghymru;
  • Cymru, datganoli a rhwymedigaethau rhyngwladol;
  • yr ymateb cychwynnol yng Nghymru i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru