Mae'r casgliad hwn o erthyglau yn nodi perthynas Cymru ag Ewrop a'r byd.
Cafodd ei baratoi ar gyfer y cynrychiolwyr a aeth i chweched cyfarfod Pwyllgor Rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd - Grŵp Cyswllt y DU. Mae ein herthygl ddiweddar yn esbonio mai'r Senedd oedd y sefydliad cyntaf yn y DU i gynnal cyfarfod o'r grŵp hwn rhwng y DU a'r UE ar ôl Brexit, a sut ddigwyddodd hynny.
Mae'r casgliad yn cynnwys erthyglau ar pynciau a ganlyn:
- cysylltiadau rhwng y DU a'r UE a chyfrifoldebau Gweinidogion Cymru;
- sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli o ran y cysylltiadau rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit;
- dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru;
- Cymru a Phrotocol Gogledd Iwerddon;
- cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid ar ôl Brexit yng Nghymru;
- Cymru, datganoli a rhwymedigaethau rhyngwladol;
- yr ymateb cychwynnol yng Nghymru i ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru