Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.
Mae’r gyfres hon ar y DU a’r UE yn crynhoi rhannau allweddol o’r Cytundeb a’i oblygiadau i Gymru.
Mae’r canllaw hwn yn egluro’r darpariaethau yn y Cytundeb sy’n ymwneud â’r amgylchedd, yr hinsawdd ac ynni:
Mae llawer o’r meysydd a drafodir yn y canllaw hwn wedi eu datganoli i Gymru pan ddechreuodd datganoli yn 1999 a phan oedd y DU yn rhan o’r UE. Mae’r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth amgylcheddol y DU yn deillio o gyfraith yr UE.
Nawr bod cyfnod pontio Brexit wedi dod i ben, os yw’n dymuno gall y DU wyro oddi wrth gyfraith amgylchedd sy’n deillio o’r UE. Fodd bynnag, rhaid iddo barhau i fodloni ei rwymedigaethau rhyngwladol, gan gynnwys cytundebau rhwng y DU a’r UE megis y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a chytuniadau eraill megis Cytundeb Paris.
Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu rhwydwaith cymhleth o fforymau newydd rhwng y DU a’r UE, a eglurir mewn canllaw arall yn y gyfres hon. Gall trafodaethau a phenderfyniadau ar ddarpariaethau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu sy’n ymwneud â’r amgylchedd, yr hinsawdd ac ynni ddigwydd mewn sawl fforwm, gan gynnwys y Cyngor Partneriaeth, Pwyllgorau Arbenigol a phwyllgorau masnach.
Gall Llywodraeth Cymru fynychu rhai cyfarfodydd fel sylwedydd. Mae erthyglau gan Ymchwil y Senedd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ynghylch sut y caiff Cymru ei chynrychioli yn y trafodaethau rhwng y DU a’r UE.
Mae’r DU a’r UE yn nodi eu blaenoriaethau yn rhaglith y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, ac yn cydnabod:
- bod y frwydr yn erbyn newid hinsawdd yn 'elfen hanfodol' o'r cytundeb hwn a chytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol;
- ymreolaeth a hawl ei gilydd i reoleiddio;
- yr angen am bartneriaeth economaidd sy'n seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored mewn modd sy'n gydnaws ag egwyddorion datblygu cynaliadwy, a elwir yn 'sefyllfa gydradd';
- manteision masnach a buddsoddi mewn ynni a deunyddiau crai; a
- phwysigrwydd cefnogi cyflenwadau ynni cost-effeithiol, glân a diogel i’r UE a’r DU.
Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gosod y sail ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a’r UE yn Erthyglau 763-770, sy’n berthnasol i’r cytundeb hwn ac i gytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Mae dwy sail sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r amgylchedd a’r hinsawdd:
- Y frwydr yn erbyn newid hinsawdd; a
- Chydweithrediad byd-eang ar faterion o fuddiannau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a rennir.
Mae Erthygl 771 o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn dweud y dylid ystyried rhannau o’r Cytundeb hwnnw a chytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol yn ‘elfennau hanfodol’. Mae hyn yn cynnwys y ‘frwydr yn erbyn newid hinsawdd’, sydd i’w gweld yn Erthygl 764.
Mae gan elfennau hanfodol statws uwch yn y Cytundeb oherwydd gall torri amodau arwain at derfynu’r Cytundeb yn gyfan gwbl.
Dyma’r ffordd gyflymaf i derfynu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu neu gytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, o fewn 30 diwrnod. Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu hefyd yn datgan bod gweithred neu fethiant sy'n mynd yn groes i amcan a diben Cytundeb Paris yn cael ei ystyried bob amser fel achos o dorri’r Cytundeb.
Os yw’r DU neu’r UE o’r farn bod y llall wedi methu â chyflawni ei rwymedigaethau o ran yr elfennau hanfodol yn y cytundeb hwn neu gytundebau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol, gallant osod mesurau diogelu yn eu herbyn. Gall y llall ymateb gyda mesurau ail-gydbwyso.
Mae adrannau masnach y Cytundeb yn darparu:
- bod y DU a'r UE yn cadw eu hawl i reoleiddio mewn sawl maes, gan gynnwys gwasanaethau a buddsoddi, masnach ddigidol ac arfer da o ran rheoleiddio;
- byddant yn cydweithredu ar faterion ynni, gan gynnwys masnach a buddsoddi mewn ynni a deunyddiau crai, sicrwydd cyflenwadau, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, a chydweithrediad rhwng rheoleiddwyr;
- bod sefyllfa gydradd. yn cael ei chynnal rhwng y DU a’r UE ar gyfer masnach a buddsoddiad i gadw cystadleuaeth rhyngddynt yn agored ac yn deg. Mae hyn yn cynnwys rheolau penodol ar gyfer yr amgylchedd a’r hinsawdd; ac
- ystyriaeth i egwyddor datblygu cynaliadwy. Gosodir dyletswyddau ar y DU a’r UE mewn nifer o adrannau penodol ar fasnach a meysydd amgylcheddol, megis newid hinsawdd, amrywiaeth fiolegol, coedwigoedd ac adnoddau biolegol morol a dyframaethu.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru