cy

cy

COP26 – nawr yw’r amser i weithredu

Cyhoeddwyd 01/11/2021   |   Amser darllen munudau

Please make no mistake - climate change is the biggest threat to security that modern humans have ever faced.
There is no going back - no matter what we do now, it's too late to avoid climate change and the poorest, the most vulnerable, those with the least security, are now certain to suffer.
If we bring emissions down with sufficient vigour we may yet avoid the tipping points that will make runaway climate change unstoppable. In November this year, at COP26 in Glasgow, we may have our last opportunity to make the necessary step-change.

Sir David Attenborough addressing the UN Security Council 2021

O 1-12 Tachwedd, bydd oddeutu 30,000 o gynrychiolwyr a 200 o arweinwyr y byd yn mynd i 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow. O dan gyd-lywyddiaeth y DU a'r Eidal, mae COP26 yn nodi adeg allweddol yn yr ymdrechion i godi uchelgais hinsawdd fyd-eang.

Mae’r trafodaethau yn cael eu hystyried yn eang fel y cyfle olaf i gyflawni ymrwymiadau i gadw’r cynnydd yn y tymheredd byd-eang o fewn 1.5 – 2°C. I gyflawni nodau COP 26, bydd yr uwchgynhadledd yn trafod amrywiaeth o themâu, gan gynnwys trafnidiaeth, natur, ynni, rhyw, addasu'r hinsawdd a grymuso ieuenctid.

Un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer COP26 yw gweithredu Cytundeb 2015 Paris yn llawn, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob parti baratoi, cyfathrebu a chynnal targedau cenedlaethol i leihau nwyon tŷ gwydr. Gelwir y rhain yn Gyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol (NDCs), ac maent yn nodi ymdrechion pob plaid i leihau allyriadau cenedlaethol. Er nad yw Cymru, ynghyd â gwledydd eraill y DU, yn un o lofnodwyr Cytundeb Paris, mae’r Deyrnas Unedig gyfan yn un ohonynt. Fel un sy’n cyfrannu’n sylweddol at allyriadau’r DU – yn enwedig yn y sectorau diwydiant ac amaethyddiaeth - mae cyfraniad Cymru yn hanfodol i arweinyddiaeth a gweithredu hinsawdd y DU ar y llwyfan byd-eang.

Nid yw llawer o bleidiau eto wedi nodi toriadau digonol mewn allyriadau yn eu NDCs i gadw cynhesu byd-eang o fewn terfynau "diogel". Mae’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn cael ei yrru gan allyriadau sy’n cronni dros amser, sy’n golygu ei bod yn hanfodol lleihau nwyon tŷ gwydr ar unwaith. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau i sero net erbyn 2050. Mae sero net yn golygu cydbwysedd rhwng allyriadau yn ôl ffynhonnell (e.e. trafnidiaeth ac amaethyddiaeth) a gwarediadau gan ddalfeydd (e.e. coed a mawn). Dyma’r cyflwr lle mae ein cyfraniad at gynhesu byd-eang yn dod i ben. Mae rhestr lawn o wledydd sydd wedi nodi ymrwymiadau neu bolisïau cyfreithiol rwymol ar sero net, a’r dyddiad erbyn pryd y mae angen eu cyflawni, ar gael ar olrheiniwr sero net the Energy and Climate Information Unit (corff cynghori annibynnol).

Fframwaith newid yn yr hinsawdd

COP yw cynhadledd ryngwladol Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC). Caiff ei chynnal bob blwyddyn ac mae gwledydd sydd wedi llofnodi’r confensiwn a phartïon eraill yn mynd iddi.

Mabwysiadwyd yr UNFCCC ym 1992 yn ystod Uwchgynhadledd y Ddaear, a gynhaliwyd yn Rio de Janeiro. Mae wedi ei gadarnhau gan 196 o Wladwriaethau (gan gynnwys y DU), sydd yn ffurfio’r “Partïon” sy’n rhan o’r Confensiwn. Nod y cytundeb yw ‘sefydlogi crynodiadau nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer ar lefel a fyddai'n atal ymyrraeth anthropogenig beryglus â'r system hinsawdd’. Mae'r Energy and Climate Intelligence Unit wedi creu rhestr ddefnyddiol o gyfarfodydd COP blaenorol, o Berlin ym 1995 i Glasgow yn 2021.

Arweinir yr UNFCCC gan asesiadau gwyddonol o’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC). Cyhoeddir y rhain bob saith mlynedd ac maent yn nodi cyflwr byd-eang y newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf yr IPCC ym 1990. Cyhoeddwyd y Chweched Asesiad, Climate Change 2021: The physical science basis, ym mis Awst 2021. Mae'n trafod y ddealltwriaeth fwyaf cyfredol ynghylch gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd.

Cafodd yr adroddiad sylw ar draws y byd. Galwodd y Cenhedloedd Unedig yr adroddiad yn “god coch” ar gyfer dynoliaeth, a dywedodd yr IPCC bod ‘dylanwad dynol yn bendant wedi cynhesu’r atmosffer, y cefnfor a’r tir’. Dywedodd yr IPCC:

The scale of recent changes across the climate system as a whole and the present state of many aspects of the climate system are unprecedented over many centuries to many thousands of years.

Blaenoriaethau'r DU

Nododd Alok Sharma, y Darpar Lywydd ar gyfer y trafodaethau, bedwar nod allweddol yn y DU ar gyfer COP26 mewn araith ym mis Mawrth 2020:

  • Dylai pob gwlad gyflwyno Cyfraniadau a Benderfynir yn Genedlaethol (NDCs) mwy uchelgeisiol, gan ymrwymo i doriadau pellach mewn allyriadau carbon erbyn 2030;
  • Dylai pob gwlad ymrwymo i sicrhau allyriadau sero net cyn gynted â phosibl;
  • Dylai gwledydd datblygedig gyflawni eu hymrwymiadau, gan gynnwys cyflawni nod 2020 US$100 biliwn o gyllid y flwyddyn ar gyfer yr hinsawdd; a
  • Dylid ceisio cytuno ar becyn sy'n bwrw ymlaen â Chytundeb Paris.

Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd am y cynnydd a wnaed o ran y nodau i Senedd y DU mewn datganiad ysgrifenedig ar 18 Mawrth 2021.

Cymru a COP26

Nid yw'n glir yn union beth fydd rôl Llywodraeth Cymru yn COP26, er ein bod yn gwybod y bydd Gweinidogion a swyddogion Cymru yn mynd i Glasgow fel rhan o ddirprwyaeth y DU. Ochr yn ochr â COP26, mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau COP Cymru gan gynnwys:

I gael gwybod mwy am sut mae Cymru'n mynd rhagddo ar y llwybr i sero net, a'r ddeddfwriaeth sy'n cefnogi’r camau gweithredu, darllenwch ein herthygl materion o bwys.

I gael gwybodaeth fanylach am COP26, darllenwch y papurau briffio hyn gan Ganolfan Wybodaeth Senedd yr Alban a Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin. Cadwch lygad am ragor o erthyglau a negeseuon trydar gan Ymchwil y Senedd yn ystod COP26 ac Wythnos Hinsawdd Cymru.

Yr angen i gyflawni

Roedd adroddiad yr IPCC yn glir o ran ei ganfyddiadau, ac mae cydnabyddiaeth eang o’r angen i gyflawni Cytundeb Paris. Ond cafwyd sibrydion efallai na fydd COP26 yn gallu cyflawni ei uchelgais. Bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar gyflwyno NDCs mwy uchelgeisiol a thrafodaethau ynghylch mater anodd cyllid hinsawdd. Yn seiliedig ar ymrwymiadau presennol Aelod-wladwriaethau, mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio:

…the world is on a catastrophic pathway to 2.7-degrees of heating, instead of 1.5 we all agreed should be the limit, Science tells us that anything above 1.5 degrees would be a disaster.

Bydd sylw’r byd ar Glasgow yn yr wythnosau sydd i ddod.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru