Mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.
Mae’r gyfres newydd hon ar y DU a’r UE yn crynhoi rhannau allweddol o’r Cytundeb a’i oblygiadau i Gymru.
Mae’r canllaw hwn yn egluro’r fframwaith sefydliadol rhwng y DU a’r UE ar ôl Brexit, a gaiff ei grynhoi isod.
Er mai Llywodraeth y DU yn bennaf sy’n cynrychioli’r DU, mae’r llywodraethau datganoledig wedi bod yn bresennol yn rhai o’r cyfarfodydd. Yn ddiweddar, fe wnaeth Ymchwil y Senedd olrhain pa gyfarfodydd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresennol ynddynt. Er y caiff yr UE ei chynrychioli gan y Comisiwn Ewropeaidd gall Aelod-wladwriaethau fod yn bresennol hefyd.
Mae'r Cyngor Partneriaeth yn goruchwylio ac yn hwyluso’r gwaith o weithredu a chymhwyso’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac unrhyw gytundebau atodol rhwng y DU a'r UE.
Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu 19 o bwyllgorau newydd i gefnogi'r Cyngor Partneriaeth. Mae 11 o bwyllgorau masnach ac wyth pwyllgor ar wahân i fasnach o'r enw 'Pwyllgorau Arbenigol', sydd â phwerau gwahanol. Mae'r Cytundeb hefyd yn sefydlu pedwar Gweithgor, ond mae modd sefydlu rhagor os dewisir.
Rhoddir dyletswydd ar y DU a’r UE i ymgynghori â chymdeithas sifil ynghylch gweithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac unrhyw gytundebau atodol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu a/neu ymgynghori â Grwpiau Cynghori Domestig a Fforwm Cymdeithas Sifil.
Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn darparu opsiwn i sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar gyfer cydweithredu seneddol rhwng Senedd Ewrop a Senedd y Deyrnas Unedig. Mae'r ddwy ochr wedi cadarnhau y bydd eu dirprwyaethau yn cynnwys 35 o aelodau, gyda sylwedyddion o’r deddfwrfeydd datganoledig yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol.
Mae ein ffeithlun isod yn dangos y fforymau newydd hyn.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru