Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2022-23 – Archwilio’r gyllideb

Cyhoeddwyd 07/03/2022   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Derfynol 2022-23 ar 1 Mawrth 2022.

Cliciwch i archwilio dyraniadau allweddol y gyllideb.

Mae’r ffeithluniau isod yn crynhoi’r dyraniadau allweddol gan adrannau’r llywodraeth a sut maent wedi newid o Gyllideb Ddrafft 2022-23.

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £18,990m (i fyny £163m neu 0.9%). DEL Cyfalaf: £2,655m (i fyny £48m neu 1.8%). Cyfanswm DEL: £21,644m (i fyny £211m neu 1.0%). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,299m (dim newid). Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £23,943m (i fyny £211m neu 0.9%).

 

DEL yw’r rhan o’r gyllideb y gall Llywodraeth Cymru ddewis sut i’w gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

AME yw’r rhan o’r gyllideb na all Llywodraeth Cymru ei gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf yn ôl adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: £10133m (£4m yn is neu 0.04%). Cyllid a Llywodraeth Leol: £4652m (i fyny £42m neu 0.9%). Newid Hinsawdd: £2811m (i fyny £55m neu 2.0%). Y Gymraeg ac Addysg: £2571m (i fyny £40m neu 1.6%). Yr Economi: £485m (£42m yn is neu 7.9%). Materion Gwledig: £393m (dim newid). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu: £354m (£0.3m yn is neu 0.1%). Cyfiawnder Cymdeithasol: £246m (i fyny £119m neu 93.2%).

 

* Heb gynnwys tua £1,030 miliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £459 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 i gael yr union ffigurau.

Ceir eglurhad o derminoleg y gyllideb yng ngeirfa’r gyllideb.


Erthygl gan Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru