Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Derfynol 2022-23 ar 1 Mawrth 2022.
Cliciwch i archwilio dyraniadau allweddol y gyllideb.
Mae’r ffeithluniau isod yn crynhoi’r dyraniadau allweddol gan adrannau’r llywodraeth a sut maent wedi newid o Gyllideb Ddrafft 2022-23.
DEL yw’r rhan o’r gyllideb y gall Llywodraeth Cymru ddewis sut i’w gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.
AME yw’r rhan o’r gyllideb na all Llywodraeth Cymru ei gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.
* Heb gynnwys tua £1,030 miliwn mewn incwm ardrethi annomestig.
** Yn cynnwys dyraniad o £459 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.
Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 i gael yr union ffigurau.
Ceir eglurhad o derminoleg y gyllideb yng ngeirfa’r gyllideb.
Erthygl gan Martin Jennings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru