Cyfrifiannell a phen ar ddarn o bapur

Cyfrifiannell a phen ar ddarn o bapur

Cyllideb 2026-27: Beth sy'n newydd yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru?

Cyhoeddwyd 23/01/2026

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Derfynol ar 20 Ionawr. Cyn dadl y Senedd ar 27 Ionawr, mae'r erthygl hon yn archwilio'r newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a'r Gyllideb Derfynol.

Gallwch ddarllen mwy am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn ein herthygl ar beth rydym wedi’i ddysgu yn ystod gwaith craffu.

Cytundeb cyllideb i osgoi’r posibilrwydd “na chaiff unrhyw gyllideb ei phasio o gwbwl”

Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu pasio cyllideb gyda chefnogaeth Aelodau Llafur yn unig, dyma’r ffordd fwyaf “wleidyddol niwtral” y gellid gwneud ei Chyllideb Ddrafft.

Roedd hyn yn golygu codi cyllidebau pob adran 2.2% i adlewyrchu’r elfennau o’u cyllidebau sy’n ymwneud â chyflogau’r sector cyhoeddus a 2% ar gyfer elfennau nad ydynt yn ymwneud â chyflogau a chyfalaf. Gadawodd y dull hwn gronfa wrth gefn sylweddol o gyllid heb ei ddyrannu, a roddodd gyfle i bleidiau eraill gyfrannu at gyllideb derfynol y gellid pleidleisio o’i phlaid yn y Senedd.

Ar 9 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gytundeb cyllideb gyda Plaid Cymru. Fel rhan o hynny, byddai £180 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu i iechyd a gofal cymdeithasol a £112.8 miliwn o gyllid ychwanegol i lywodraeth leol. Mae'r cytundeb hefyd yn amlinellu y bydd £120 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i Lywodraeth nesaf Cymru. Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan AS:

Bydd y cytundeb yn sicrhau pasio’r Gyllideb Derfynol 2026-27 ym mis Ionawr 2026, gan osgoi’r posibilrwydd na chaiff unrhyw gyllideb ei phasio o gwbwl a’r canlyniadau a fyddai’n deillio o hynny.

Roedd ein herthygl ar y Gyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27 yn edrych ar effaith bosibl peidio â chytuno ar gyllideb ar gyfer 2026-27.

Cyllideb Derfynol 2026-27

Yn dilyn gwaith craffu yn y Senedd, a dadl ar y Gyllideb Ddrafft, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gyllideb Derfynol ar 20 Ionawr 2026.

Mae'r gyllideb hon yn cynnwys cyllid ychwanegol yn dilyn Cyllideb yr Hydref y DU o £147m o refeniw a £14m o gyfalaf. Mae terfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynyddu £15 miliwn, sy'n darparu potensial ychwanegol.

Mae newidiadau polisi i ardrethi annomestig (NDR) wedi arwain at ostyngiad o £77m mewn incwm NDR, yn bennaf gysylltiedig â chefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr ailbrisio.

Mae’r Gyllideb Derfynol yn dyrannu £415m o refeniw ychwanegol, £47m o gyllid cyfalaf a £10m o gyllid cyfalaf trafodion ariannol, o gymharu â'r Gyllideb Ddrafft.

Yn ogystal â'r cyllid o £292.8m ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth leol, sicrhaodd y cytundeb cyllideb gyda Plaid Cymru ragor o ddyraniadau allweddol gan gynnwys:

  • £65 miliwn o gyllid i lywodraeth leol i gefnogi’r cynllun rhyddhad trosiannol ar gyfer ardrethi busnes, a £5.5 miliwn i gadarnhau'r cyllid gwaelodol, gyda phob cyngor yn derbyn cynnydd o 4% neu fwy;
  • £21.5m wedi'i ddyrannu ar draws adrannau i adlewyrchu rhagolygon cyflogau a chwyddiant uwch o gymharu â phan osodwyd y Gyllideb Ddrafft; a
  • nifer o ddyraniadau ychwanegol eraill o £8 miliwn neu lai i feysydd polisi unigol.

Yn ei ddatganiad ysgrifenedig, dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS:

Mae hyn yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus, wrth sicrhau bod gan y llywodraeth nesaf yr adnoddau sydd eu hangen arni i gyflawni ei blaenoriaethau.

Mae'r ffeithluniau isod yn crynhoi'r dyraniadau allweddol fesul adran y llywodraeth, sut y mae'r rhain wedi newid ers Cyllideb Ddrafft 2026-27, a newidiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn o gymharu â llinell sylfaen ddiwygiedig 2025-26.

Ffigur 1. Dyraniadau Cyllideb Derfynol 2026-27 Llywodraeth Cymru o gymharu â Chyllideb Ddrafft 2026-27

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd a Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru

Ffigur 2. Newidiadau yn y Prif Grwpiau Gwariant rhwng Cyllideb Derfynol 2026-27 a Chyllideb Ddrafft 2026-27

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd a Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru

Er i bob adran weld cynnydd yng nghyfanswm y refeniw o gymharu â'r Gyllideb Ddrafft (Ffigur 2), roedd y cynnydd mwyaf ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol (cynnydd o £187m, neu 3.3%). Mae'r ffigurau uchod yn cynnwys dyraniadau nad ydynt yn arian parod.

Ffigur 3. Newidiadau yn y Prif Grwpiau Gwariant rhwng Cyllideb Derfynol 2025-26 a llinell sylfaen ddiwygiedig Cyllideb Ddrafft 2025-26

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd a Chyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru

Mae cymharu'r cyfanswm refeniw a ddyrannwyd yn y Gyllideb Derfynol â'r llinellau sylfaen diwygiedig ar gyfer 2025-26 yn dangos bod y cynnydd nominal mwyaf ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sef £441m, a’r cynnydd canrannol mwyaf ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol (cynnydd o 6.5%, neu £9m, o gymharu â'r llinell sylfaen ddiwygiedig). Fodd bynnag, mae dyraniadau pob adran wedi cynyddu 2.5% neu fwy. Mae ein ffigurau'n cynnwys dyraniadau nad ydynt yn arian parod.

Asesiad Effaith Integredig Strategol

Ochr yn ochr â'r Gyllideb Derfynol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hasesiad Effaith Integredig Strategol Terfynol (SIIA) 2026-27, a ddefnyddir i asesu effaith penderfyniadau gwariant. Ar gyfer 2026-27, defnyddiodd Llywodraeth Cymru ddull newydd drwy gyhoeddi asesiad interim, ac yna asesiad terfynol a gyhoeddwyd ar yr un pryd â’r Gyllideb Derfynol.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y dull hwn yn adlewyrchu ei hymrwymiad i "fod yn fwy tryloyw ac i  ymgysylltu’n ehangach".

Mae'r SIIA yn adrodd, ymhlith canfyddiadau eraill, fod y cynnydd mewn adnoddau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol "yn sefydlogi mynediad at wasanaethau'r GIG ac yn cefnogi ansawdd y gofal".

Fodd bynnag, mae’r SIIA hefyd yn nodi y gallai’r gyllideb gael sawl effaith negyddol. Er enghraifft, mae adnoddau ychwanegol wedi'u dyrannu i gymorthdaliadau rheilffyrdd, y canfu'r SIIA eu bod "yn tueddu i fod o fwy o fudd i aelwydydd ag incwm uwch".

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Ochr yn ochr â’r ddadl ar y Gyllideb Derfynol ei hun, bydd dadl ynghylch gosod Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC).

Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr sy'n byw yng Nghymru a Lloegr yn parhau i dalu'r un faint o dreth incwm. Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â newid CTIC ar gyfer 2026-27, a fydd yn cadw CTIC yn 10c ar gyfer cyfraddau sylfaenol, cyfraddau uwch a chyfraddau ychwanegol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae 27 Ionawr yn ddiwrnod arwyddocaol i gyllid Cymru, gyda'r Senedd i drafod y Gyllideb Derfynol, Cyfraddau Treth Incwm Cymru a'r Setliad Llywodraeth Leol.

Gallwch ddefnyddio ein diagram rhyngweithiol i archwilio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27

Gallwch wylio pob un o’r trafodaethau hyn ar Senedd tv, darllen y trawsgrifiad ar ôl y cyfarfod a dilyn Ymchwil y Senedd ar X (Twitter gynt) i weld yr erthyglau diweddaraf sy’n trafod y gyllideb a mwy.

Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru