Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddraft Amlinellol ar gyfer 2026-27 ar 14 Hydref 2025. Dyma gyllideb ddrafft olaf tymor y Senedd hon a hefyd y gyntaf yn nhymor y Senedd hon i ddigwydd yn ôl y broses dau gam a nodir ym mhrotocol y gyllideb. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb fanwl, a fydd yn darparu gwybodaeth am gynigion ar gyfer pob portffolio, a hynny ar 3 Tachwedd.
Busnes fel arfer
Ym mis Gorffennaf 2025, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg (yr 'Ysgrifennydd Cabinet'), Mark Drakeford AS, wrth y Cyfarfod Llawn ei fod yn cynllunio cyllideb “busnes fel arfer” ar gyfer 2026-27. Byddai Llywodraeth Cymru yn ailddatgan dyraniadau cyllideb 2025-26 yn unol â chwyddiant. Ni fyddai'n canolbwyntio ar flaenoriaethau newydd na pholisïau ffres.
Er gwaethaf Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2025 yn nodi dyraniadau ar gyfer gwariant refeniw tan 2028-29 ac ar gyfer buddsoddiad cyfalaf tan 2029-30, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cwmpasu un flwyddyn.
Mae’r Gyllideb Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2026-27 yn cynnwys codiadau ar gyfer chwyddiant (2% wedi'i gymhwyso i adnoddau cyllidol (neu 'refeniw') nad ydynt yn gysylltiedig â chyflogau, cyfalaf cyffredinol a dyraniadau Cyfalaf Trafodion Ariannol) a rhagolygon twf cyflog (2.2% wedi’i gymhwyso i elfennau cyflog y sector cyhoeddus ar gyfer pob adran). Fodd bynnag, mae’r Gyllideb Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2026-27 hefyd yn cynnwys newidiadau eraill. Er enghraifft, mae'n dyrannu £41.3m ychwanegol mewn refeniw cyllidol a £155.1m mewn cyllid cyfalaf cyffredinol i adrannau. Bydd yn rhaid i ni aros tan y gyllideb fanwl i gael gwybodaeth am sut mae adrannau Llywodraeth Cymru yn cynnig dyrannu cyllid rhwng llinellau gwariant.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid, o ran setliad llywodraeth leol, y bydd awdurdodau lleol yn gweld cynnydd o 2.5 y cant yn eu cyllidebau, nid 2 y cant fel y mae pawb arall yn ei weld, ac mai’r cynnydd lleiaf fydd 2.3 y cant. Fodd bynnag, ffigurau dangosol yw’r rhain ac mae disgwyl setliad drafft rywbryd ym mis Tachwedd.
Mae cyfanswm o £380.2m (1.4% o'r gyllideb) yn parhau i fod heb ei ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2026-27, sy'n cynnwys £230.8m o gyllid refeniw cyllidol (ar gyfer gwariant dydd i ddydd). Dywed Dadansoddi Cyllid Cymru y gallai hyn olygu galwadau sylweddol am ddyraniadau ychwanegol o bob cyfeiriad.
Efallai gan gofio’r effaith bosibl o beidio â chytuno ar gyllideb, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei ragair i'r Gyllideb Ddrafft Amlinellol:
Rwy'n dal yn agored, felly, i weithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd sy'n rhannu fy argyhoeddiad bod gennym gyfrifoldeb ar y cyd i basio Cyllideb Cymru ac sy'n credu y gellid cytuno ar gyllideb fwy uchelgeisiol.
Llinellau sylfaen diwygiedig
Mae'r ffeithlun isod yn dangos y newidiadau allweddol rhwng Cyllideb Ddrafft 2026-27 a'r llinell sylfaen ddiwygiedig 2025-26 ar gyfer pob elfen o'r gyllideb.
Ffigur 1: Prif newidiadau rhwng Cyllideb Ddrafft 2026-27 a llinell sylfaen ddiwygiedig 2025-26

Mae Llywodraeth Cymru yn dangos y newidiadau yn y dyraniadau adrannol yn ei thaflen yn esbonio'r Gyllideb Ddrafft. Fodd bynnag, dim ond yr effaith ar gyllidebau adrannol yn sgil y codiadau ar gyfer chwyddiant a chyflogau'r sector cyhoeddus ar gyfer 2026-27 ar gyfer refeniw cyllidol a chyfalaf cyffredinol y mae hyn yn ei ddangos. Felly, nid yw'n nodi'r cyfanswm dyraniadau a gynigiwyd yn ei Chyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27 gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cynnwys y dyraniadau ar gyfer refeniw anghyllidol a Chyfalaf Trafodion Ariannol. Nid yw ychwaith yn cynnwys newidiadau eraill yn y Gyllideb Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2026-27, megis y refeniw cyllidol ychwanegol a'r dyraniadau cyfalaf cyffredinol yr ydym yn cyfeirio atynt yn gynharach.
Yn unol â'i dull gweithredu y llynedd, mae Llywodraeth Cymru yn cymharu ei dyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft Amlinellol ar gyfer 2026-27 â llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer y flwyddyn gyfredol, sef 2025-26.
Wrth gyfrifo'r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2025-26, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried unrhyw newidiadau cylchol a wnaed ers Cyllideb Derfynol 2025-26 ym mis Chwefror. Y mwyaf arwyddocaol o'r rhain yw £220m a ddyrannwyd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac addysg bellach gyda chostau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr uwch, a gafodd ei gynnwys gan Lywodraeth Cymru yn y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2025-26. Hefyd, cafodd dyraniad Llywodraeth Cymru o £126m i gefnogi cyflogau'r sector cyhoeddus yn 2025-26 ei gynnwys yn y llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2025-26. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi didynnu cyllid untro sylfaenol o’r llinell sylfaen yn 2025-26 nad oedd yn "gylchol" ei natur. Hefyd, didynnodd y dyraniadau ar gyfer Cyfalaf Trafodion Ariannol yn 2025-26 yn gyfan gwbl. Er mai'r effaith gyffredinol yw cynnydd yn y llinell sylfaen ar gyfer refeniw cyllidol o £285.8m, mae'r llinellau sylfaen ar gyfer cyfalaf cyffredinol a Chyfalaf Trafodion Ariannol yn gostwng, a hynny gan £170.6m a £99.1m yn y drefn honno.
Effaith peidio â chytuno ar gyllideb ar gyfer 2026-27
Os na fydd y Senedd yn pasio penderfyniad ar y Gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol honno (sef 1 Ebrill), yn gychwynnol, dim ond 75% o'r gyllideb a gafodd ei hawdurdodi i’w defnyddio yn y flwyddyn ariannol flaenorol fydd ar gael.
Bydd y ffigur yn cynyddu i 95% os na chytunir ar benderfyniad ar y Gyllideb erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Fodd bynnag, gall un o Weinidogion Cymru gyflwyno Cynnig Cyllidebol Blynyddol a chynnal dadl arno yn y Senedd yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn berthnasol iddi – felly byddai modd pasio gyllideb ar gyfer 2026-27 ar ôl 1 Ebrill 2026, pe na bai'r Senedd wedi cytuno ar gyllideb erbyn y pwynt hwnnw.
Mae cyllidebau cyrff a ariennir yn uniongyrchol (Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiwn y Senedd, a Chomisiwn Etholiadol Cymru) hefyd wedi'u cynnwys yn y cynnig cyllidebol blynyddol.
Os na chytunir ar gyllideb, dim ond 75% / 95% o gyllidebau cyrff a ariennir yn uniongyrchol fydd ar gael iddynt, ynghyd â Llywodraeth Cymru, a hynny hyd nes bod cynnig cyllidebol blynyddol yn cael ei awdurdodi.
Yn achos awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n cael y rhan fwyaf o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt bennu eu cyllidebau a’u treth gyngor cyn 11 Mawrth yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r gyllideb yn berthnasol iddi. Mae'r terfyn amser hwn yn sicrhau y gall awdurdodau bilio gyhoeddi biliau ar gyfer y dreth gyngor mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol ar 1 Ebrill.
Effaith ar gyfradd Treth Incwm Cymru (WRIT)
Rhaid gwneud penderfyniad ar Gyfradd Treth Incwm Cymru ('WRIT') cyn dechrau'r flwyddyn dreth, sy'n dechrau ar 6 Ebrill. Dim ond ar gyfer un flwyddyn dreth y mae modd gwneud hyn a rhaid i hyn fod yn gymwys i'r flwyddyn dreth gyfan.
Dim ond ar ôl cyhoeddi'r Cynnig Cyllideb Blynyddol y gellir ystyried penderfyniad ynghylch cyfradd Cymru, ond dim cynharach na 12 mis cyn dechrau'r flwyddyn dreth berthnasol.
Nid oes modd i’r Senedd basio cyllideb hyd nes ei bod wedi cytuno ar benderfyniad ynghylch cyfradd Cymru yn gyntaf. Mae’r drefn hon yn seiliedig ar yr egwyddor na all y Senedd wneud penderfyniad ar y cynlluniau gwariant sydd wedi'u cynnwys yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol heb gytuno yn gyntaf ar sut y bydd y refeniw i dalu am y cronfeydd hynny yn cael ei godi drwy drethi.
Ar ôl i’r Senedd gytuno ar benderfyniad ynghylch cyfradd Cymru, mae modd canslo’r penderfyniad hwnnw cyn dechrau'r flwyddyn dreth. Fodd bynnag, nid oes modd ei ganslo na'i newid ar ôl i'r flwyddyn dreth y mae'n berthnasol iddi ddechrau, felly, o 6 Ebrill ymlaen.
Os na chaiff y penderfyniad WRIT ei basio gan y Senedd, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o beidio â gallu casglu a defnyddio'r refeniw treth o £3.9 biliwn sydd wedi'i gynnwys yng Nghyllideb Ddrafft 2026-27.
Y camau nesaf
Mae gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft 2026-27 yn mynd rhagddo gan Bwyllgor Cyllid y Senedd.
Ar 3 Tachwedd, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r Gyllideb Ddrafft Fanwl gerbron y Senedd. Mae'r ddadl ar y Cyllideb Ddrafft i fod i gael ei chynnal ar 16 Rhagfyr Gallwch ei gwylio'n fyw ar SeneddTV.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Cyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27 ar 20 Ionawr 2026, gyda phleidlais ar y Cynnig Cyllideb Derfynol ar 27 Ionawr 2026.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y Gyllideb Ddrafft ar linell amser a geirfa Cyllideb Ddrafft Ymchwil y Senedd.
Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru